Addysg a Astudiaethau Plentyndod

PRIFYSGOL ABERTAWE YN SAFLE 251-300 AR GYFER Y GWYDDORAU CYMDEITHASOL (Times Higher Education World Rankings 2024)

ADDYSG AC ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD Rydym yn gartref i ymchwilwyr blaengar, addysgu arloesol, a phrofiad a chefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr, gyda thîm ymroddedig sy’n darparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol. Mae ein holl raglenni addysg wedi’u cynllunio i alluogi myfyrwyr i ennill ystod eang o wybodaeth mewn meysydd sy’n ymwneud ag addysg, gan gynnwys astudio’r cwricwlwm ac addysgeg, arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymgysylltiad rhieni ag addysg, ymhlith llawer o rai eraill.

4

YN Y DU AM ASTUDIAETHAU PLENTYNDOD CYNNAR (COMPLETE UNIVERSITY GUIDE 2024)

ydd

EIN GRADDAU

X311 X312

Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

X31F

Mae Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig dull cyfannol o ddeall plant o enedigaeth hyd at wyth oed. Mae’n nodi pwysigrwydd plentyndod cynnar fel cyfnod arwyddocaol mewn bywyd sy’n sail i ddysgu gydol oes, lle mae plant yn cael eu hystyried yn aelodau galluog a chymwys o gymdeithas. Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant a chydnabod eu bod yn ganolog i deuluoedd, cymunedau a’r byd economaidd- gymdeithasol ehangach. Byddwch yn astudio amrywiaeth, unigrywiaeth pob plentyn a sut y gall gweithwyr proffesiynol Plentyndod Cynnar gefnogi plant mewn sefyllfaoedd anodd, fel y rhai sy’n dioddef o drawma ac mewn argyfwng cymdeithasol. Nod y cwrs yw darparu addysg a hyfforddiant penodol i’r rhai sydd am weithio mewn rôl broffesiynol gyda babanod, plant bach a phlant ifanc.

Made with FlippingBook HTML5