Addysg a Astudiaethau Plentyndod

X200 X202 X204

Addysg, BA (Anrh) Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Mae’r radd addysg yn rhoi cyflwyniad i fyfyrwyr i astudio Addysg ac mae’n ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, asesu, addysgeg; anghydraddoldebau, amrywiaeth a chyfiawnder cymdeithasol; datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol ac astudiaethau plentyndod. Mae myfyrwyr yn graddio gyda sylfaen wybodaeth eang sy’n cwmpasu gwybodaeth yn ymwneud ag addysgu a dysgu a chyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol addysg. Mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a phrofiad gwaith wrth gymryd rhan yn y rhaglen.

X2M4

Addysg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Bydd ein gradd Addysg a Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd, ac ymddygiad, ynghyd â sylfaen ragorol mewn polisi addysg, datblygiad plant, a niwrowyddoniaeth addysgol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o arfer addysgol mewn oes ddigidol, addysg mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, arweinyddiaeth a rheolaeth, ac amrywiaeth a llesiant mewn addysg. Byddwch yn dysgu am y prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, gan ddatblygu sylfaen gadarn mewn seicoleg wybyddol, gymdeithasol, ddatblygiadol, glinigol a biolegol.

X2P5 X2P7 X2P6 X2P8

Addysg a’r Gymraeg, BA (Anrh) Addysg a’r Gymraeg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Addysg a’r Gymraeg (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Addysg a’r Gymraeg (Llwybr Y Fyfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Mae Addysg a Chymraeg yn faes astudio sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n tynnu ar ddisgyblaethau’r Gymraeg, hawliau’r Gymraeg, amlddiwylliant ac iaith a chymdeithas a llenyddiaeth yn ogystal â seicoleg, athroniaeth, hanes a’r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut mae pobl yn dysgu a sut mae strwythurau addysg yn gweithredu i feithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

R9XO

Ieithoedd Modern gydag Addysg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Ar y cwrs hwn, byddwch yn astudio dwy iaith, wedi’u dewis o Ffrangeg, Almaeneg, neu Sbaeneg, ynghyd ag addysg, gyda’r opsiwn i arbenigo mewn dysgu digidol ac addysg â chymorth technoleg. Byddwch yn treulio blwyddyn dramor a gallwch weithio fel athro Iaith Dramor Saesneg trwy’r Cyngor Prydeinig. Mae’r radd hon yn agor drysau i yrfaoedd yn bennaf mewn addysgu ac addysg, ond hefyd mewn llywodraeth, cyfieithu, marchnata, a chysylltiadau cyhoeddus. Mae’n hyblyg ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau arbenigol, gyda’r cyfle i gwblhau lleoliadau addysgu am brofiad gwerthfawr.

Made with FlippingBook HTML5