CYFRIFEG A CHYLLID Mae ein strwythur gradd hyblyg, gydag ystod o fodiwlau arbenigol i ddewis ohonynt, yn rhoi’r cyfle i chi deilwra’ch cwrs i’ch diddordebau, eich uchelgais gyrfaol, neu’ch cynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach. Cewch eich trwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu deinamig a byddwch yn elwa o gyfleoedd amrywiol, megis ein cysylltiadau â chyrff achredu proffesiynol, ein labordy cyllid o’r radd flaenaf sy’n darparu gweithfannau gyda meddalwedd sy’n alinio â’r sector ariannol, a dysgu arferion meddalwedd y diwydiant, sy’n gwella eich cyflogadwyedd a’ch arbenigedd proffesiynol.
EIN GRADDAU
N400 N465 N401 N40F
Cyfrifeg, BSc (Anrh)
Cyfrifeg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cyfrifeg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cyfrifeg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Bydd ein graddau cyfrifeg aml-achrededig yn eich rhoi mewn safle blaenllaw o ran cael statws Cyfrifydd Siartredig gyda chyrff achredu byd-eang, megis Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), a Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Rheolaeth (CIMA) – gan wella eich rhagolygon cyflogadwyedd fel person graddedig. Gan gynnig modiwlau a gynlluniwyd i gwmpasu’r wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant cyfrifeg, byddwch yn datblygu dealltwriaeth a sgiliau hanfodol i’ch helpu i ddod yn berson graddedig sydd â galw mawr amdano, ar gyfer swyddi mewn cwmnïau cyfrifeg yn ogystal â rolau cyfrifeg o fewn unrhyw sefydliad, ar draws unrhyw sector.
Made with FlippingBook HTML5