Cyfrifeg a Chyllid

N350 N35A N35I N35F

Cyllid (Technoleg Ariannol), BSc (Anrh) Cyllid (Technoleg Ariannol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cyllid (Technoleg Ariannol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cyllid (Technoleg Ariannol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae Technoleg Ariannol (FinTech) yn sector sy’n tyfu’n gyflym, gan gynhyrchu cynnydd yn y galw am sgiliau hynod arbenigol, ac arwain at gyfleoedd swyddi newydd cyffrous yn y diwydiant hwn.Mae’r radd hon yn berffaith os oes gennych ddiddordeb brwd mewn meysydd ariannol, fel technoleg cyllid neu raglennu cyllid. Trwy gyfuno theori, tystiolaeth empirig, a chymhwysiad ymarferol, byddwch yn adeiladu ar sgiliau caled FinTech fel codio a rheoli data. Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, i gynnal dadansoddiad a gwerthusiad beirniadol o faterion a chysyniadau ariannol y byd go iawn, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous yn y maes technoleg ariannol cynyddol.

N360 N36A N36I N36F

Cyllid (Cynaliadwyedd), BSc (Anrh) Cyllid (Cynaliadwyedd), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cyllid (Cynaliadwyedd), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cyllid (Cynaliadwyedd), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Os ydych chi eisiau archwilio damcaniaethau ac ymarfer cyllid modern, tra’n dysgu am bwysigrwydd cynyddol cynaliadwyedd mewn busnes, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi. Trwy gyfuno theori a chymhwysiad ymarferol, byddwch yn ennill sylfaen gadarn mewn cyllid a’r sgiliau sydd eu hangen i adrodd ar gynaliadwyedd a buddsoddi, gan eich galluogi i ddadansoddi a gwerthuso materion a chysyniadau ariannol y byd go iawn yn effeithiol. Mae adrodd ar gynaliadwyedd a buddsoddi yn prysur ddod yn rym gyrru ar draws pob diwydiant. Trwy adeiladu ar eich ymwybyddiaeth o’r amgylchedd proffesiynol byd-eang, cymdeithasol a moesegol y mae cyllid yn gweithredu ynddo, yn enwedig o fewn cyd-destun cynaliadwyedd, bydd galw amdanoch, gyda’ch sgiliau i ddeall integreiddio themâu cyllid o fewn y cyd-destun busnes ehangach.

L111 L1W4 L1W1 L11F

Economeg a Chyllid, BSc (Anrh) Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Economeg a Chyllid, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae’r radd hon, sy’n cyfuno elfennau craidd economeg a chyllid, yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o economeg fodern a’i chymhwyso o fewn y diwydiant cyllid. Bydd y cyfle i ganolbwyntio ar feysydd arbenigol fel cyllid corfforaethol yn datblygu eich gwerthfawrogiad o’r berthynas rhwng dadansoddi economaidd a gweithrediadau ariannol. Yn ystod eich astudiaethau, bydd arsylwi’r modd y mae theori yn effeithio ar ymarfer yn gyson yn ymestyn eich galluoedd i wneud penderfyniadau strategol. Erbyn i chi raddio, byddwch chi’n hyderus o ran cymhwyso’ch gwybodaeth, eich sgiliau ymchwiliol a chreu modelau i gynghori gwahanol fathau o sefydliadau yn effeithiol.

Made with FlippingBook HTML5