Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

IECHYD POBLOGAETHAU A GWYDDORAU MEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON

IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL CAMPWS PARC SINGLETON

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael ANSAWDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021) DU 2 AIL YN Y

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael CYFLOGADWYEDD GRADDEDIGION* % 99 (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

Ein cwrs gradd hyblyg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw'r man cychwyn delfrydol ar gyfer ystod o yrfaoedd. Byddi di’n ymchwilio i iechyd a gofal cymdeithasol mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gwmpasu themâu sy'n cynnwys polisi cymdeithasol, iechyd y cyhoedd, epidemioleg, seicoleg, bioleg ddynol a ffisioleg, y gyfraith a moeseg, cydraddoldeb, a chyfiawnder cymdeithasol, ac yn meithrin sgiliau cyfathrebu, ymchwilio a dadansoddi rhagorol.

Mae Iechyd Poblogaeth yn rhoi sylw i ffactorau eang iawn sy’n gallu pennu iechyd a chanlyniadau iechyd unigolion, grwpiau a phoblogaethau. Mae’r cwrs yn unigryw gan ei bod yn dwyn ynghyd bynciau amrywiol sy’n rhoi dealltwriaeth holistaidd i ti o’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, meddygol a demograffig sy’n ffurfio iechyd poblogaethau; o atal a hybu i ddiogelu iechyd, diagnosis, triniaeth a gofal.

Mae datblygiadau ym maes meddygaeth yn gwella iechyd mwy a mwy o bobl, ond mae anghydraddoldebau gofal iechyd yn gyffredin gan ddibynnu ar le mae pobl yn cael eu geni, yn byw ac yn gweithio. Nod iechyd poblogaeth yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn drwy fynd ati i ddeall anghenion gofal iechyd grwpiau o bobl yn well, gwella modelau gofal iechyd a darparu datrysiadau arloesol i gyflawni gofynion iechyd pobl. Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil a gwyddor data o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth. Fe fyddi di’n datblygu’r wybodaeth academaidd a phroffesiynol sydd eu hangen i bennu amrywiadau systemataidd mewn iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiadau i allu rhoi’r wybodaeth hon ar waith wrth greu datrysiadau ymarferol i wella iechyd, lles, ac o safbwynt darparu gwasanaethau iechyd. Yn ystod dy astudiaethau, fe fyddi di'n canolbwyntio ar un o dri llwybr cyflogadwyedd (yn amodol ar gymhwysedd): Ymchwil Gwyddorau Meddygol, Y Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer, neu Fenter ac Arloesi.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Geneteg ac esblygiad sylfaenol • Meddygaeth gymunedol • Seicoleg feddygol • Systemau a sefydliadau Iechyd Poblogaethau • Technoleg gwybodaeth iechyd Blwyddyn 2 • Bioystadegau • Meddwl iach, a chorff iach • Imiwnoleg ddynol • Rheoli iechyd poblogaeth • Ymchwil gwasanaeth iechyd Blwyddyn 3 • Bioleg Dynol a'r amgylchedd • Bod yn fyfyriwr meddygol • Epidemioleg uwch • Iechyd poblogaethau byd-eang • Prosiect Capfaen Mae BSc Iechyd Poblogaeth a Gwyddorau Meddygol yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr gyrchu'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles Poblogaeth, a leolir yn yr Ysgol Feddygaeth. Bydd di'n cael mewnwelediad i sut mae ymchwil Canolfan yn cael ei defnyddio i lywio polisi, ymarfer a darpariaeth sy'n anelu at wella iechyd a lles poblogaeth Cymru.

Byddi di’n cael dy drwytho mewn amgylchedd ymchwil a dysgu dynamig sy'n cynnig llawer o gyfleoedd i ffurfio cysylltiadau â myfyrwyr o ddisgyblaethau cysylltiedig. Ochr yn ochr â'r gwaith academaidd, byddi di’n astudio modiwlau ym maes datblygu proffesiynol ac yn cael yr opsiwn i gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'th radd. Mae hyn yn rhan o'n dull cydweithredol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, sydd â'r nod o wella'r integreiddio rhwng y sectorau a'th baratoi ar gyfer gyrfa yn gweithio ar draws ffiniau sefydliadol a phroffesiynol traddodiadol. Rydym hefyd yn cynnig gradd sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol dwy flynedd ag addysgir yng Ngholeg Sir Benfro. Mae'r cwrs yma’n cyfuno modiwlau a addysgir gyda dysgu yn y gwaith, ac yn dilyn yr un modiwlau â blwyddyn un a dau o'n BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Abertawe. Ar ôl cwblhau, mae gennyt ti'r opsiwn i symud ymlaen i flwyddyn olaf y rhaglen radd.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomi dynol, ffisioleg a phathoffisioleg • Cydraddoldeb, gwahaniaethu a gormes mewn cymdeithas • Cyflwyniad i ymchwil ym meysydd mewn iechyd a gofal cymdeithasol • Datblygiad academaidd a phroffesiynol • Tlodi a digonedd • Yr unigolyn a'r Gymdeithas Blwyddyn 2 • Cyfraith ac arfer iechyd • Diogelu ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol • Ymarfer myfyriol a gweithio gyda phobl • Ymchwil a gwerthusiad beirniadol ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol Blwyddyn 3 • Cwnsela a chefnogi pobl • Moeseg ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol • Rheolaeth ac arweinyddiaeth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol • Safbwyntiau byd-eang a gweithio mewn byd sydd wedi'i globaleiddio • Seicoleg a hyrwyddo lles • Y gyfraith a moeseg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB-BBC Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Bioleg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 141)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Iechyd a Gofal Cymdeithasol

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • GIG • Gwaith cymdeithasol • Gwasanaeth sifil • Hybu iechyd ac iechyd y cyhoedd • Rheoli Gofal Iechyd • Sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol preifat

GYRFAOEDD POSIB: • Dadansoddiad iechyd poblogaeth • Eiriolaeth cleifion • Gwybodeg Iechyd • Proffesiynau iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. meddyg, cyswllt meddyg, deintydd) • Teleiechyd a thelefeddygaeth • Ymchwil iechyd, meddygol a gwyddor bywyd

*99% o raddedigion wedi eu cyflogi mewn swyddi proffesiynol neu rheoli o fewn chwe mis o raddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr Meddygaeth i Raddedigion. Cyn belled â’th fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr Gwyddor Meddygaeth mewn Ymarfer, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.

MAE ACHREDIADAU'N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

98

99

Made with FlippingBook - Online magazine maker