Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

RHYFEL A CHYMDEITHAS CAMPWS PARC SINGLETON

Mae rhyfel wedi bod yn gatalydd treisgar i newid erioed. Mae’n achosi dioddefaint ofnadwy ond eto’n ysbrydoli dewrder mawr. Gall newid y ffordd yr ydym yn meddwl am eraill, llunio rhagfarnau neu unioni camweddau. Byddi’n archwilio sut mae rhyfeloedd yn dechrau, sut y cânt eu hymladd, sut maent wedi newid, sut maent yn gorffen, a sut maent yn llywio cymdeithas.

BlwyddynSylfaen ar gael CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

Mae'r radd yn dechrau drwy edrych ar ryfel fel gweithgaredd cymdeithasol ac wedyn yn ystyried y cysylltiadau rhwng rhyfel, hanes, gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol, moesoldeb a moeseg, a chynrychiolaeth ddiwylliannol. Byddi di'n datblygu dy ddealltwriaeth o ryfel, ac edrych ar ei gysylltiad â’r gymdeithas drwy ystyried sut mae’r profiad o ryfel wedi llunio cynnyrch diwylliannol. Rhaglen ryngddisgyblaethol yw hon sy'n cynnig cyfle i astudio amrywiaeth eang o fodiwlau yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau, er mwyn cynnig y cyfle a'r hyblygrwydd i lunio dy radd dy hun.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Damcaniaethau Rhyfel • Ewrop Ganoloesol: Cyflwyniad • Rhufain o Bentref i Ymerodraeth: Cyflwyniad i Hanes Rhufeinig • Rhyfel a chymdeithas yn yr Oes Fodern • Rhyfel a chymdeithas yn yr Oes Niwclear Blwyddyn 2 • Gwrthdaro a chof: Ewrop yn yr Ugeinfed Ganrif • Hen a Lleoedd Hanesyddol (Prosiect Maes/Taith: Hanes) • Rhyfel a Gwrthdaro Cyfoes • Rhyfel Byd Cyntaf: Gwleidyddiaeth, Cymdeithas, a Diwylliant yn Ewrop 1870-1933 • Y Groesgad a’r Dechrau o‘r Gristnogaeth Ladin, 1050-1300 Blwyddyn 3 • Penarglwydd: rhyfel, cymdeithasau a Brwydr Normandy, 1944 • Portffolio Ymchwil;

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 143)

Roedd cyfleusterau megis Campws y Bae, yn ogystal â’r cyfle i dderbyn addysg gan Brifysgol sydd wedi derbyn nifer o wobrau, megis graddau boddhad, Fframwaith Addysgu Aur, safon ymchwil a rhagolygon graddedigion, yn gatalydd mawr yn fy mhenderfyniad i ddewis Prifysgol Abertawe. Penderfynais astudio elfen o fy nghwrs drwy gyfrwng y Gymraeg drwy ymgymryd â sesiynau ychwanegol gyda darlithydd Cymraeg oherwydd roedd y syniad o newid o addysg gwbl Gymraeg drwy gydol fy amser yn yr ysgol, i gwrs gradd cyfrwng Saesneg yn y Brifysgol, yn un brawychus i mi. Bellach, rwyf yn gallu datblygu dealltwriaeth o’r pynciau mewn modd naturiol trwy fy iaith gyntaf. Hefyd, manteisiais ar y cyfle i ddefnyddio fy hawliau er mwyn cael tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Rwyf hefyd yn ymgymryd â Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n gymhwyster deniadol iawn gyda nifer fawr o gyflogwyr yn cefnogi’r Dystysgrif. Rwy’n aelod o’r Gymdeithas Gymraeg ac eisoes yn byw mewn llety cyfrwng Cymraeg, yn Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Rydw i’n gallu cymdeithasu yn fy mamiaith, gwneud ffrindiau newydd o ardaloedd eraill o Gymru, yn ogystal â derbyn cyfleoedd i fynychu llu o weithgareddau sydd yn cael eu trefnu gan bwyllgor y GymGym, fel crôl tafarnau ond yn bennaf oll y cyfle i fynychu gweithgareddau Rhyng-golegol. Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr Cymraeg o bob prifysgol yng Nghymru ddod at ei gilydd am benwythnos i gymdeithasu a dod i ‘nabod pobl newydd, tra hefyd cwrdd â hen ffrindiau sydd bellach yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, Bangor neu Gaerdydd.

BA Anrhydedd Sengl ▲ Rhyfel a Chymdeithas ♦ R hyfel a Chymdeithas

(gyda Blwyddyn Dramor)

♦ R hyfel a Chymdeithas

(gyda Blwyddyn Sylfaen)

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: • Addysgu ac addysg • Llywodraeth leol a chenedlaethol • Newyddiaduraeth a chysylltiadau cyhoeddus • Rheoli a chyllid • Y Gwasanaeth Sifil a’r gwasanaeth cudd-wybodaeth • Y lluoedd arfog

Traethawd Estynedig • Rhyfel Cartref Rwsia • Rhyfel Cartref Sbaen • Yn Sgîl y Rhyfel

BSc RHEOLAETH BUSNES

I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

124

125

Made with FlippingBook - Online magazine maker