Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CyfleoeddByd-eang ar gael Ysgoloriaethau/ Bwrsariaethau Cymraeg ar gael % BODDHAD MYFYRWYR 9 (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019)

Y GYFRAITH CAMPWS PARC SINGLETON

O bwerau Seneddol i redeg busnesau a hawliau plant a phobl ifanc, mae’r gyfraith yn hysbysu ac yn dylanwadu ar bob agwedd o'r gymdeithas. Mae astudio’r gyfraith yn anodd ac yn fuddiol. Mae rhaglenni’r gyfraith i israddedigion yn rhoi cyfleoedd i ti ddatblygu cyfres o sgiliau ymarferol a deallusol, a fydd yn dy gymhwyso ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Fel myfyriwr y gyfraith yn Abertawe, byddi’n astudio mewn amgylchedd cefnogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Byddi di'n ennill sylfaen gadarn mewn rhesymeg a dadansoddiad cyfreithiol, yn ogystal ag yng nghyfreithiau sylweddol Cymru a Lloegr. Byddi di'n cael cyfle i gymhwyso cysyniadau cyfreithiol a datblygu sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, datrys problemau, ymchwil a meddwl yn feirniadol. Fe fyddi di'n cael cyfle i astudio ystod o feysydd pwnc gan roi cyfle i ti lunio dy radd o amgylch dy ddiddordebau personol. Mae ein rhaglenni gradd yn cynnig ystod o gyfleoedd dysgu abrofol gan gynnwys ein Clinig y Gyfraith a'r Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder. Byddi di hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dadleuon, cyfweld a thrafod. Rydym yn cynnig nifer gynyddol o leoliadau gwaith ac astudio lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a’r cyngor a’r cymorth i'th helpu i gyflawni dy uchelgeisiau. Mae ein holl raddau yn y Gyfraith wedi'u cynllunio i fodloni gofynion y cyrff proffesiynol cyfreithiol at ddibenion mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau o 2021 ymlaen, bydd ein gradd yn y gyfraith yn cynnig paratoad cadarn ar gyfer cam cyntaf Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr.

Rydym newydd wedi ymestyn i adeilad newydd ar Gampws Singleton sydd ar gael i'n myfyrwyr, gyda chyfleusterau cwbl newydd sy'n arwain y sector.

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 144)

LLB Anrhydedd Sengl ▲ Y Gyfraith ▲  Y Gyfraith (Trosedd a Chyfiawnder Troseddol) ▲ Cyfraith Busnes LLB Prif Bwnc / Is-bwnc Anrhydedd ▲ Y Gyfraith gyda Throseddeg ▲ ♦  Gellir ymestyn cyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i gynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 144)

GYRFAOEDD POSIB: • Bargyfreithiwr • Cyfreithiwr • Gorfodi’r Gyfraith • Gwasanaeth sifil • Llywodraeth leol • Plismona

Un o’r prif resymau dewisais Brifysgol Abertawe oedd oherwydd aelodau staff Ysgol y Gyfraith. Wrth ymweld ar ddiwrnod agored, roedd y staff mor garedig ac yn amlwg yn frwdfrydig i ddysgu. Hefyd roedd tipyn mwy o opsiynau ar gyfer dewisiadau'r ail a’r drydedd flwyddyn sydd yn agor mwy o ddrysau wedi i mi raddio. Fel merch o Sir Benfro, un o’r pethau gorau am Brifysgol Abertawe yw’r ffaith fy mod yn dal i fod yn agos at fy ffrindiau o gartref ond hefyd gyda’m ffrindiau newydd. Credaf fod astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn cyflwyno mwy o gyfleoedd o ran gyrfa yn y dyfodol ac yn ffordd dda o wella fy sgiliau cyfathrebu cyffredinol. Rydw i’n ffodus fy mod i’n derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n golygu fy mod i’n derbyn £500 am astudio gwerth 40 credyd yn y Gymraeg bob blwyddyn. Yn fy amser hamdden rydw i’n dawnsio fel rhan o Gymdeithas Ddawns Prifysgol Abertawe heb sôn am fod yn ysgrifenyddes y gymdeithas!

Byddi di'n astudio: • Cyfraith Eiddo • Cyfraith Gyhoeddus • Cyfraith Rhwymedigaethau • Cyfraith Trosedd

• Ecwiti ac Ymddiriedolaethau Fe fyddi di hefyd yn cael y cyfle i ddewis wrth ystod eang o feysydd astudio dewisol, gan gynnwys: • Cyfraith Amgylcheddol • Cyfraith Chwaraeon, a mwy

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Cyfraith Cyflogaeth • Cyfraith Cwmnïau • Cyfraith Eiddo Deallusol • Cyfraith Feddygol • Cyfraith Hawliau Dynol • Cyfraith Teulu • Tystiolaeth Droseddol

LLB Y GYFRAITH (TROSEDD A CHYFIAWNDER TROSEDDOL) I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

132

133

Made with FlippingBook - Online magazine maker