Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

GWNEUD

BETH SY’N DIGWYDD NESAF? Ar ôl i ni dderbyn dy gais, bydd staff y Swyddfa Dderbyn yn gwirio dy fod yn bodloni’r gofynion mynediad ac yn asesu dy ddatganiad personol a dy eirda i sicrhau bod gennyt y profiad a’r sgiliau angenrheidiol i astudio’r pwnc. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth o’th ymrwymiad a’th gymhelliad, ac yn talu sylw i dy lwyddiannau. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl a fydd yn achub ar y cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, a fydd yn elwa fwyaf o’r profiad yn Abertawe. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn pobl a fydd yn ychwanegu gwerth at chwaraeon, diwylliant, a bywyd cymdeithasol ein cymuned. Bydd UCAS yn rhoi gwybod i ti os byddwn yn cynnig lle i ti ac a oes unrhyw amodau arbennig. O bryd i’w gilydd, gall aelod o staff y Coleg neu’r Ysgol sydd o ddiddordeb i ti awgrymu y byddi’n derbyn cynnig, ond nid yw hyn yn ymrwymiad pendant – arhosa am gynnig ffurfiol gan UCAS.

Y ffordd symlaf o wneud cais yw ar-lein ar: ucas.com Côd Prifysgol Abertawe yw S93. Gwiria ein rhestr o gyrsiau ar gyfer UCAS a chodau cwrs UCAS:

Os ydym yn meddwl bod gennyt ti’r hyn sydd ei angen i astudio gyda ni, mae’n bosib y byddwn yn dy wahodd i gyfweliad i ddod i dy adnabod yn well. Yn aml, mae cwrdd â darpar fyfyrwyr mewn cyfweliadau a Diwrnodau Agored yn caniatáu’r hyblygrwydd i ni deilwra ein cynigion at gryfderau pob unigolyn. Os yw dy gynnig yn amodol ar ganlyniad dy arholiadau, fyddwn ni ddim yn rhoi cadarnhad terfynol ein bod yn derbyn dy gais nes i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi. Os wyt yn derbyn ein cynnig amodol yn gadarn ond os nad wyt yn ennill y canlyniadau angenrheidiol yn dy arholiadau, mae’n bosib y gallwn gadarnhau dy gynnig ar sail dy berfformiad cyffredinol. I gael rhagor o wybodaeth am ein polisïau a’n gweithdrefnau derbyn, ymwêl â: abertawe.ac.uk/astudio/derbyn- myfyrwyr

abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

BETH SYDD EI ANGEN ARNAT? Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail eu rhinweddau eu hunain, a gall cynigion amrywio, fodd bynnag, rydym yn gwarantu y byddi di’n derbyn cynnig diamodol ar gyfer cwrs ym Mhrifysgol Abertawe*. Y cynnig nodweddiadol a nodir ar dudalennau meysydd pwnc yn y prosbectws hwn yw tri chymhwyster Safon Uwch. Serch hynny, rydym yn fodlon derbyn amrywiaeth o gymwysterau eraill, felly darllen tudalennau’r cyrsiau unigol ar ein gwefan am feini prawf mwy penodol pynciau unigol ar: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod wedi pasio TGAU Cymraeg neu Saesneg ar radd C/4 neu’n uwch (neu gyfwerth). Rydym hefyd yn croesawu amrywiaeth eang o gymwysterau eraill, ac rydym yn adolygu derbynioldeb cymwysterau newydd yn rheolaidd. Felly, os wyt yn sefyll arholiadau sydd heb eu rhestru, cysyllta â’r Swyddfa Dderbyn. Os yw myfyrwyr yn gallu ychwanegu at eu tair Safon Uwch drwy astudiaethau pellach, er enghraifft, pwnc neu bynciau ychwanegol ar Safon Uwch neu UG, neu Gymhwyster Prosiect Estynedig, cânt eu hannog i wneud hynny. Credwn y gall astudio ychwanegol, ar amrywiaeth o ffurfiau, dy helpu i baratoi ar gyfer galwadau’r brifysgol ond, gan fod gwahanol ysgolion a cholegau’n cynnig ystod a nifer o bynciau gwahanol, fyddet ti ddim dan anfantais os nad oes modd i ti wneud hynny.

BAGLORIAETH CYMRU UWCH Rydym yn croesawu’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch wedi’i graddio a bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion ar sail tair Safon Uwch neu ddwy Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Mae detholiad o Gynigion Prosiect Unigol, sy’n ymwneud ag amrywiaeth o feysydd pwnc ym Mhrifysgol Abertawe, i’w weld ar wefan CBAC hefyd. EPQ* Rydym yn cydnabod y Cymhwyster Prosiect Estynedig fel dangosydd llwyddiant gwych ar ein cynlluniau astudio. Bydd ymgeiswyr sydd â gradd a ragwelir o B neu uwch drwy EPQ yn derbyn cynnig gyda gostyngiad un radd, er enghraifft byddai cynnig AAB yn golygu ABB yn ogystal â B EPQ. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddisgrifio ymchwil EPQ o fewn datganiad personol UCAS, yn enwedig pan fo’n addas i’w cwrs / gyrfa o ddewis. Newidiadau i gymwysterau mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban: Rydym yn cydnabod y newidiadau i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn Lloegr, ynghyd â fframweithiau cymwysterau gwahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Gelli weld ein datganiad llawn ynghylch Diwygio Cymwysterau yn:  abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau/ gofynion-mynediad

Siarad ag aelod o’n tîm derbyn ar gyfer dy gais gan ddefnyddio ein sgwrs fyw:

swansea.ac.uk/admissions/ask-us-live

* Nid yw cynigion amodol gwarantedig a gostyngiadau i ymgeiswyr sy’n cynnig gradd B a ragwelir yn EPQ yn berthnasol i gyrsiau proffesiynol a bod gweithdrefnau dethol arferol yn berthnasol.

148

149

Made with FlippingBook - Online magazine maker