Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

RYDYM YMA

YMGARTREFU

Dwi’n cofio’r misoedd cyntaf yn y Brifysgol fel y cyfnod mwyaf anodd i ymdopi ag ef. Ar ben bod yn sâl a gweld eisiau cysur cartref, roeddwn i’n eithaf swil ac yn teimlo nad oeddwn i’n gallu ffurfio cysylltiad â’r myfyrwyr eraill yn fy fflat a oedd i gyd eisiau mynd mas a joio drwy’r amser. Dwi’n gwybod bod myfyrwyr eraill yn profi, neu maen nhw wedi profi, teimladau tebyg yn y brifysgol, ond mae’n bwysig gwybod a deall nad ti yw’r unig un a does dim rhaid i ti ddelio â phethau ar dy ben dy hun. Weithiau, gall y brifysgol deimlo’n lle unig, ond gall pobl sy’n dy dderbyn ac yn becso am dy les helpu i leddfu’r teimladau hyn o unigrwydd. Mae’n bwysig sylweddoli hefyd, os wyt ti’n rhy sâl, nad oes rhaid i ti ddyfalbarhau a’th wneud dy hun yn waeth (a theimlo nad oes unrhyw ateb) – gelli wneud cais am absenoldeb neu amgylchiadau esgusodol. Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i helpu myfyrwyr a allai fod mewn anawsterau, o gwnsela, gwasanaethau lles ar y campws a chymorth bugeiliol gan staff. Does dim cywilydd mewn defnyddio’r gwasanaethau hyn na chydnabod a chyfaddef nad wyt yn mwynhau dy amser yn y brifysgol (er y gall hyn fod yn anodd).

Mae dy les yn bwysig i ni. Er mwyn mwynhau a chyfoethogi dy brofiad ym Mhrifysgol Abertawe, gelli gael gafael ar gyngor diduedd am ddim ac ystod o wasanaethau cymorth mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a chyfrinachol.

Gelli fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod dy amser yn y brifysgol. Yn ogystal â’th helpu i ymgartrefu yn ystod yr wythnosau cyntaf, gallant wneud dy holl amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.

HYB Y MYFYRWYR SUT GA L LWN DY HE L PU ?

DARGANFOD MWY:

Mae Hyb y Myfyrwyr yma i wneud bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe mor hawdd â phosib. Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr. Felly, os hoffet gael cymorth i gofrestru neu dalu dy ffioedd yn bersonol, os oes angen cyngor ar dai arnat, cymorth gyda chyllid myfyrwyr neu gymorth i reoli dy lwyth gwaith, Hyb y Myfyrwyr yw’r lle i fynd!

abertawe.ac.uk/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

LLESIANT BYWYDCAMPWS

ANABLEDDAU BYWYDCAMPWS Yn sicrhau’r un profiad i’r holl fyfyrwyr. Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe yn wasanaeth trawsgrifio arbenigol sy’n darparu adnoddau dysgu hygyrch i’w hargraffu ar gyfer myfyrwyr anabl.

Mae gofal deintyddol y Brifysgol yn cynnig ystod lawn o driniaethau’r GIG a phreifat i fyfyrwyr. Lleolir Meddygfeydd Deintydd a Meddygon ar y campws.

LLES BYWYDCAMPWS

ARIAN (BYWYDCAMPWS) Mae’r tîm hwn bob amser wrth law i’th helpu i wneud y gorau o’th arian a chadw llygad ar dy gyllideb.  Gwiria ein rhestr wirio arian cyn cyrraedd:  abertawe.ac.uk/ arian-bywydcampws

Amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy’n hybu ac yn edrych ar ôl lles myfyrwyr, gan gynnwys gwasanaeth cymorth iechyd meddwl.

Joanna Wolton Myfyriwr PhD

40

41

Made with FlippingBook - Online magazine maker