Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

BODDHAD MYFYRWYR (Canllaw Cyflawn i Brifysgolion 2020) 3 YN Y DU YDD

CEMEG CAMPWS PARC SINGLETON

CLYWEDEG CAMPWS PARC SINGLETON

CYFLOGADWYEDD GRADDEDIGION* (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018) % 00

Mae'r cwricwlwm Cemeg yn cael ei lywio gan anghenion diwydiant modern a'i ddiweddaru'n gyson, gan sicrhau y byddi di bob amser yn dysgu deunydd perthnasol y gellir ei gymhwyso at y byd ehangach. Byddi di’n derbyn ystod eang o wybodaeth y bydd ei hangen arnat ti i weithio ym maes Cemeg a’r wybodaeth ddofn i’th alluogi i arbenigo trwy ein hymchwil arloesol cyfredol ym meysydd cynhyrchion naturiol, peirianneg deunyddiau a meddygaeth.

Bydd ein gradd Clywedeg yn rhoi dealltwriaeth arbenigol i ti o wyddor clywed, cydbwysedd a'r cyflyrau sy'n effeithio arnynt. Mae'n cyfuno gwaith academaidd a damcaniaethol trylwyr â'r profiad clinigol ymarferol helaeth sydd ei angen arnat i gael swydd yn y proffesiwn. Byddi di’n defnyddio'r offer diagnostig a'r rhaglenni meddalwedd diweddaraf yn ein cyfleusterau o’r radd flaenaf ac yn mynd ati i feithrin sgiliau mewn lleoliadau gwaith mewn ysbytai ledled Cymru.

CyfleoeddByd-eang ar gael

DIM FFIOEDD DYSGU Myfyrwyr yDUa’rUE** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol)

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig

Mae’r cwrs hwn wedi’i hachredu gan yr Ysgol Genedlaethol Gwyddor Gofal Iechyd ac mae llawer o'n staff academaidd ym maes Gwyddorau Iechyd yn gweithio fel clinigwyr, gan roi dealltwriaeth ac arbenigedd proffesiynol amhrisiadwy. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn dynwared y gweithle mewn ffordd realistig a byddi di’n gallu manteisio ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant lwyddiannus, sef clinig ar y safle sy'n darparu gwasanaethau iechyd a llesiant i'r gymuned leol gan gynnwys clinig awdioleg ar y cyd â'r GIG. Fel myfyriwr clyw, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a ffisioleg ar gyfer gwyddor gofal iechyd • Anatomeg niwrosynhwyrol, ffisioleg a phathoffisioleg • Gwyddor niwrosynhwyrol • Hanfodion mathemateg a ffiseg ar gyfer gwyddor gofal iechyd • Mesur a thriniaeth glinigol niwrosynhwyrol • Pathoffisioleg ar gyfer gwyddor gofal iechyd Blwyddyn 2 • Asesiad a rheolaeth cynteddol • Dulliau ymchwil ac ystadegau • Gwyddor clywedeg • Offeryniaeth prosesu signalau a delweddu • Y person sy’n datblygu Blwyddyn 3 • Cyflwyniad i dinitws • Cymhorthion synhwyro • Prosiect ymchwil gwyddor gofal iechyd • Ymarfer Proffesiynol

CYNNIG NODWEDDIADOL: BSc: AAB-BBB MChem: AAA-AAB (gan gynnwys Cemeg ac un o’r Gwyddorau neu Fathemateg)

Mae ein pynciau craidd yn ymdrin â chemeg offerynnol a dadansoddol yn ogystal â chemeg organig, anorganig a ffisegol. Cei gyfle i wneud gwaith ymchwil arloesol, gan gyfrannu at brosiect ymchwil neu fwrw ymlaen â dy syniadau dy hun. Rydym yn cynnig y posibilrwydd o feithrin sgiliau ymchwil yn gynnar, gan annog a hwyluso ffyrdd i ti ddatblygu cynlluniau a syniadau ymchwil, ysgrifennu cynigion, gwneud ymchwil ym maes cemeg gan ryngweithio â disgyblaethau eraill, dadansoddi data ymchwil a chyflwyno canlyniadau dy ymchwil mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Adweithedd mewn cemeg • Meddwl mewn cemeg • Strwythur a bondio • Ymarfer mewn cemeg Blwyddyn 2 • Cemeg biofeddygol a meddygol • Cemeg ffisegol pellach • Cemeg gyfrifiadurol a damcaniaethol • Cemeg inorganig pellach • Cemeg organig pellach Blwyddyn 3 • Cemeg offerynnol ffisegol a damcaniaethol • Cemeg inorganig • Cemeg organig • Prosiect cemeg • Prosiect cemeg deunyddiau Blwyddyn 4 (MChem) • Cemeg offerynnol ffisegol a damcaniaethol uwch • Cemeg gynnyrch organig, meddyginiaethol a naturiol uwch • Deunyddiau anorganig uwch • Prosiect ymchwil

CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrirmanylion llawnynyGrif Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen135)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg, Cemeg neu Fathemateg)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 135)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Cemeg

GYRFAOEDD POSIB: • Darganfod meddyginiaethau newydd • Gwyddor ddadansoddol a fforensig • G wyddorau amgylcheddol • Rheolaeth • Ynni adnewyddadwy ♦ C emeg (gyda Blwyddyn Sylfaen) ♦ C emeg (gyda Blwyddyn mewn Diwydiant / Dramor) MChem Anrhydedd Sengl ♦ Cemeg ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD POSIB: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer gwyddonydd gofal iechyd yw £24,214 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £43,772, mae’r cyflog uchaf y mae’n bosibl ei ennill fel ymgynghorydd yn y GIG yw £102,506. Gall cyflogau amrywio'n sylweddol yn y sector preifat.

• Ymchwil a datblygu yn y byd academaidd neu ddiwydiant

*100% o raddedigion mewn swyddi proffesiynol neu reoli ar ôl chwe mis o raddio (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch 2018)

MAE ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

60

61

Made with FlippingBook - Online magazine maker