Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

CYMDEITHASEG CAMPWS PARC SINGLETON

RHO ASTUDIAETH AR WAITH GYDA LLEOLIAD GWAITH MAE’N RHAN O’TH GWRS

Bydd astudio gradd mewn Cymdeithaseg yn rhoi'r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol sydd ei hangen arnat i ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol, yn ogystal â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy'n dylanwadu ar ein cymdeithas sy'n newid yn barhaus. Byddi di’n meithrin sgiliau ymchwil cymdeithasol, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi tystiolaeth a'i gwerthuso'n feirniadol a llunio dadleuon mewn perthynas â'r materion cymdeithasol cymhleth sy'n effeithio ar bob un ohonom.

CyfleoeddByd-eang ar gael

Rhestrir ymanylion llawnynyGrid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 136)

Cei dy addysgu gan dîm o academyddion sy'n weithgar o ran ymchwil ac sy'n cyhoeddi sawl darn o waith, mae ein strwythur gradd hyblyg, yn dy alluogi i deilwra dy gwrs yn unol â'th ddiddordebau penodol, dy ddyheadau gyrfa. Byddi di’n cael cyfle i gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith er mwyn adeiladu ar dy sgiliau a'th brofiad, a chyfoethogi dy ragolygon gyrfa. Gallai'r lleoliadau hyn gynnwys awdurdodau lleol, busnesau, lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau addysg ac elusennau, yn dibynnu ar dy ddiddordebau a'th nodau gyrfa.

FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cymdeithaseg: dadleuon cyfoes • Cymdeithaseg: y clasuron • Economeg mewn cymdeithas • Ymholiad cymdeithasol ar waith • Unigolion a'r gymdeithas Blwyddyn 2 • Addysg, polisi a chymdeithas • Cwestiynu dulliau meintiol ac ansoddol gwyddor cymdeithasol

CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-ABB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 136)

BSc Anrhydedd Sengl ▲ Cymdeithaseg BSc Cydanrhydedd ▲ Polisi Cymdeithasol ▲ Seicoleg

Mae astudio’r cyfryngau a chyfathrebu yn Abertawe yn unigryw, yn fy marn i. Cymraeg yw iaith yr aelwyd, felly roedd cyfle i astudio pwnc cyfredol, diddorol ac ymarferol drwy’r Gymraeg yn ddewis naturiol i mi. Mantais fawr astudio drwy’r Gymraeg yw cael eich haddysgu mewn grwpiau llai. Mae hyn yn golygu mwy o sylw un-i-un, ond hefyd cefais sawl cyfle arbennig i gael profiad gwaith gyda chwmnïau oedd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg. Cefais y cyfle i weithio fel rhedwr ar raglenni uchafbwyntiau'r Babell Lên ar gyfer S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ac yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus ar un o’r modiwlau cefais wahoddiad i weithio yn y BBC Cymru Fyw am wythnos hefyd. Mae’r cysylltiadau sydd yn bodoli rhwng y darlithwyr a’r diwydiannau creadigol wedi rhoi sawl cyfle i mi gwrdd a gweithio gyda phobl dylanwadol a phrofiadol. Fel rhan o’n interniaeth yn y drydedd flwyddyn cefais y fraint o gysgodi’r cyfarwyddwr llwyddiannus, Rhys Powys, ar gynhyrchiad Boom Cymru o ‘35 Awr’ gan astudio yn drylwyr sut mae cynhyrchiad yn cael ei greu, boed yn waith camera neu gyfarwyddo, i sgriptio a golygu. Mae astudio’r Cyfryngau a Chyfathrebu yn Abertawe wedi rhoi ystod eang o sgiliau i mi sydd yn golygu bod sawl llwybr gyrfa yn agored i mi. Felly watch this space!

▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Problemau cymdeithasol • Problemau cymdeithasol: cyfryngau, chwedlau a phanig moesol • Ymchwilio i ryw Blwyddyn 3

GYRFAOEDD POSIB: • Addysg a hyfforddiant proffesiynol e.e. y Gyfraith, Newyddiaduraeth neu addysgu • Astudiaeth ôl-raddedig • Cyrff gwirfoddol / Trydydd Sector • Gwasanaethau Cyhoeddus • Y Gwasanaeth Sifil • Ymchwil mewn cyrff cyhoeddus neu breifat

• Bodau dynol ac anifeiliaid eraill • Cymdeithaseg o blentyndod a magu plant • Cymdeithaseg o ryw • Polisi anabledd • Y wladwriaeth, gwleidyddiaeth a phŵer

BA CYFRYNGAU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS I ddysgu mwy am ein storïau myfyrwyr, gweler: abertawe.ac.uk/astudio/ ein-storiau-myfyrwyr

Am fanylion llawn y cwrs, gan gynnwys rhestr fodiwl llawn, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

66

67

Made with FlippingBook - Online magazine maker