Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5000 o arteffactau o’r Hen Aifft.

Y DDINAS A’R

CARTREF I DYLAN THOMAS Mae gan y ddinas ger y lli ei llais barddonol ei hun. Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli di ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau. Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi! Joanna Wolton, myfyriwr PhD sy’n ysgrifennu blog studentblogs.swan.ac.uk/cy

AR GARREG Y DRWS Ar benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gennyt dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Cer am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr â golygfeydd dros Fae Abertawe ar Oyster Wharf. SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu fachu bargen ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.

CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn.

Bannau Brycheiniog, Cymru

06

07

Made with FlippingBook - Online magazine maker