EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

Discover why our School of Management is the perfect place to study and explore our courses, facilities, careers support and student experiences

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch: Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru Llawlyfr yn trafod yr heriau sy’n wynebu Ysgolion Busnes ac yn tynnu sylw at arferion gorau mewn Ysgolion Busnes yng Nghymru.

Crynodeb Mae’r llawlyfr hwn yn trafod datblygu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI) mewn Ysgolion Busnes yng Nghymru mewn ymateb i newidiadau yn y tirlun addysg uwch. Mae’n tynnu sylw at y sefyllfa bresennol a’r hyn sy’n newydd yn yr amgylchedd campws i fyfyrwyr a staff. Cyflwynwn hefyd fframwaith ar gyfer EDI y gellir ei ddefnyddio fel sail i gael trafodaeth â sefydliadau er mwyn ystyried ei effaith ar fyfyrwyr a staff. Trafodir nifer o astudiaethau achos i ddangos sut y gellir gweithredu’r fframwaith hwn. Maen nhw’n dangos hefyd y gwaith da a wneir gan sefydliadau i wreiddio EDI yn eu hysgolion busnes ac i hyrwyddo cymunedau cynhwysiant. Mae’r llawlyfr hwn yn ffrwyth Prosiect Gwella Cydweithredol QAA Cymru wedi’i gyllido gan CCAUC , oedd yn cynnwys trafodaethau a myfyrdodau parhaus rhwng y sefydliadau a fu’n cymryd rhan a dau weithdy a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod Mai a Mehefin 2024. Mae mwy o wybodaeth am y prosiect hwn ar gael gan Brifysgol Abertawe.

1

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Cynnwys

3

RHAGARWEINIAD

3

TÎM Y PROSIECT GWELLA CYDWEITHREDOL

4

HERIAU NEWYDD

Y 4 A - FFRAMWAITH AR GYFER GWREIDDIO EDI MEWN SEFYDLIADAU ADDYSG UWCH  ASTUDIAETH ACHOS 1 - DATBLYGU RHWYDWAITH O GYNGHREIRIAID LGBTQ+ | PRIFYSGOL ABERTAWE

5

6

7  ASTUDIAETH ACHOS 2 - MWY NAG AR Y WYNEB: ENGHRAIFFT O FOD YN HYDERUS O RAN ANABLEDD | PRIFYSGOL BANGOR 8  ASTUDIAETH ACHOS 3 - GWELLA LLES DRWY GREU GOFOD A LLE | PRIFYSGOL CAERDYDD 10  ASTUDIAETH ACHOS 4 - MYFYRWYR YN CYDWEITHIO: DULL DEFNYDD-GYFEILLGAR O HWYLUSO CYMORTH I FYFYRWYR RHYNGWLADOL | PRIFYSGOL BANGOR 11  ASTUDIAETH ACHOS 5 - TRAFOD DIWYLLIANT | PRIFYSGOL DE CYMRU 13  ASTUDIAETH ACHOS 6 - DOD YN YSGOL FUSNES WRTH-HILIOL | PRIFYSGOL CAERDYDD 14  Y FFORDD YMLAEN 15  DIOLCH YN FAWR 15  DOGFENNAU CYFEIRIOL A FFYNONELLAU ERAILL

2

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

Rhagarweiniad Cyd-destun Mae’r sector Addysg Uwch (AU) yn y DU wedi tyfu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf gan symud o system yn ymwneud yn bennaf ag addysg ddomestig i un â’i golygon ar addysgu fyfyrwyr rhyngwladol (Bolton, 2024). Mae nifer o ffactorau’n gyfrifol am y newid hwn gan gynnwys newidiadau strwythurol yn y cyllid a roddir i Addysg Uwch a’r galw newydd am raddedigion byd-eang. Er bod sector AU Cymru wedi cadw ei genhadaeth graidd o gefnogi cymunedau lleol fel sefydliadau ‘angori’, nid yw Sefydliadau AU Cymru yn imiwn i’r newidiadau strwythurol hyn, felly daeth yr ymgyrch i ehangu’r cohort myfyrwyr yng Nghymru law yn llaw â chynnydd yn amrywiaeth y myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â phobl gyda nodweddion a warchodir. Mae’r newid hwn yng nghyfansoddiad cohortau myfyrwyr a staff Cymru wedi hyrwyddo newid mewn blaenoriaethau strategol a chyfranogiad a chyfle cyfartal ehangach yng Nghymru (Miles, 2022; Morgan 2013). Ysgolion Busnes Gwelodd addysg reoli newidiadau helaeth iawn, yn y cohortau myfyrwyr a staff. Mae Ysgolion Busnes wedi cael llwyddiant ysgubol gyda chreu rhaglenni gradd deniadol a hynod effeithiol sy’n gallu gwella cyflogadwyedd graddedigion ond sydd hefyd yn berthnasol i gohort ehangach o fyfyrwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Er bod staff a myfyrwyr Ysgolion Busnes wedi cael trafferthion dros y cyfnod hwn o ehangu sylweddol, mae’r datblygiad tuag at gohortau mwy amrywiol wedi bod yn gatalydd a labordy byw ar gyfer prosiectau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Er mwyn cynnal safonau academaidd a phrofiad cadarnhaol myfyrwyr yn y cyd-destun hwn, bu’n rhaid i Ysgolion Busnes apelio’n ystyrlon at eu cohortau myfyrwyr mwy amrywiol drwy ddatblygu polisïau a phrosiectau er mwyn sicrhau bod lleisiau a chymunedau eu myfyrwyr i gyd yn cael eu clywed a’u cydnabod. Mae’r llawlyfr yn trafod yr amrywiol heriau sy’n wynebu Ysgolion Busnes gan gynnig dealltwriaeth o wahanol arferion a ddatblygodd wrth ymateb iddynt.

Grw ^ p y Prosiect Gwella Cydweithredol Sefydliadau partner a thimau Sefydliad arweiniol: Prifysgol Abertawe Dr Richard Baylis Janet Collins Suki Collins Hollie Evans Alison Llewlyn Yr Athro Andrew Thomas Mia Webber Sefydliadau partner: Prifysgol Aberystwyth

Dr Mandy Talbot Prifysgol Bangor Dr Sara Parry

Dr Cunqiang [Felix] Shi Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Caerdydd Yr Athro Rachel Ashworth Vikki Burge Shaheda Khatun Prifysgol De Cymru Dr Xiaozheng Zhang Dr Aylwin Yafele Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dr Gareth Hughes Prifysgol Wrecsam

3

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Heriau newydd Yn ystod gweithdai’r prosiect, roedd myfyrwyr a staff wedi myfyrio ar eu profiadau eu hunain a phrofiadau eu cyd-fyfyrwyr a chydweithwyr. Roedd yn gyfle i ennill mwy o ddealltwriaeth o’r sgyrsiau oedd yn digwydd yn y cymunedau myfyrwyr a staff. Roedd y themâu canlynol yn flaenllaw yn y trafodaethau hyn: • Iaith a therminoleg EDI

• Croesdoriadedd • Niwroamrywiaeth • Iechyd meddwl • Profiad myfyrwyr o newid a symud • Hyfforddiant, ymwybyddiaeth, lles a llwyth gwaith • Y gymuned fyfyrwyr / staff • Yr iaith Gymraeg

Wrth drafod, yr hyn a ddaeth yn glir oedd, er bod y themâu uchod wedi cael eu codi gan y cyfranogwyr i gyd bron, bod eu profiadau byw’n wahanol, ac felly bod angen deall y cyd-destun lleol ac amgylchiadau personol.

4

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

FFRAMWAITH AR GYFER GWREIDDIO EDI MEWN SEFYDLIADAU ADDYSG UWCH

Y 4 'A'

Gweithredu Grymuso, Cyfleoedd, Cynrychiolaeth, Cyfathrebu, Cymorth

Cael eich gwerthfawrogi Ymwybyddiaeth, Iaith, Disgwyliadau, Cyfathrebu, Parch, Empathi, Gwerthoedd

Arddel

Cael eich gweld Gwelededd,

Cael eich parchu Profiad, Lleisiau, Cynrychiolaeth, Perthyn, Cymuned, Disgwyliadau

Trawsnewidiol, Cydweithredol, Cymuned

Datblygwyd y fframwaith uchod gan y cyfranogwyr yn ystod y prosiect gan ofyn i bawb fyfyrio ar beth yr oedd pob term yn ei olygu iddyn nhw a sut y gall myfyrwyr a staff wneud gwahaniaeth. Mae’r astudiaethau achos canlynol yn dangos sut y mae’r themâu hyn wedi cael eu cofleidio gan Ysgolion Busnes Cymru.

5

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

ACHOS 1 RHWYDWAITH CYNGHREIRIAID LGBTQ+ PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae’r Ysgol Reoli a’r Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS) ym Mhrifysgol Abertawe wedi sefydlu Rhwydwaith o Gynghreiriaid LGBTQ+, sy’n fenter ar y cyd rhwng y Swyddfa Gwybodaeth Myfyrwyr (SIO) a’r Tîm Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Un o’r pethau cyntaf a wnaeth y Rhwydwaith Cynghreiriaid oedd canolbwyntio ar wella profiad myfyrwyr o’n Myfyrwyr Traws ac Anneuaidd a hyrwyddo eu gwelededd. Cododd y rhesymeg ar gyfer hyn o drafodaeth rhwng yr SIO a’r Tîm EDI oedd yn cydnabod, er y datblygiadau a’r newid mewn agweddau yn y blynyddoedd diwethaf o ran terminoleg a diwylliant LGB, na ellid dweud yr un peth am faterion Traws ac Anneuaidd oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl cisryweddol yn anghyfarwydd â phrofiadau byw person traws neu drawsrywiol. Ers Mehefin 2022, mae’r Ysgol ac FHSS yn cynnig hyfforddiant blynyddol sef ‘Hyfforddiant Stonewall i Gydweithwyr Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol’, sy’n cael ei gynnal ym mis Mehefin i gyd-fynd â Mis Pride. Mae staff sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn cael eu hychwanegu at ein ‘Rhestr Cynghreiriaid’ o enwau staff y gall myfyrwyr deimlo’n gyffyrddus a diogel yn mynegi eu rhywedd, rhagenwau neu rywioldeb iddynt. Cyhoeddir y rhestr hon, ‘Creu Cysylltiadau: Myfyrwyr LGBTQ+’, i’r myfyrwyr ynghyd â gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd cymdeithasol i fyfyrwyr LGBTQ+ newydd sy’n ymuno â’r Ysgol a’r Gyfadran. Ym Mehefin 2024, dwy flynedd ers ei sefydlu, mae’r Rhwydwaith Cynghreiriaid LGBTQ+ yn gweithio ar ail-frandio a gwella gwelededd. Yn ei hanfod, nod cyntaf y Rhwydwaith oedd creu a hyrwyddo llefydd diogel i fyfyrwyr gael bod yn nhw eu hunain – ac mae gennym ni staff ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n barod a chymwys i gefnogi myfyrwyr sy’n teimlo nad ydyn nhw’n ddigon gweladwy. Rydym ni felly wedi creu logos Lle Diogel a brandio ar gyfer drysau swyddfa, gliniaduron, poteli dŵr (sticeri), bathodynnau gwddw a bathodynnau cardiau ID ein staff. Bwriadwn lansio ymgyrch gyfathrebu i fynd gyda’r ail-frandio hwn fel bod myfyrwyr yn gwybod beth y mae’r logos yn ei feddwl wrth eu gweld ar swyddfeydd ac eiddo staff. Y rhesymeg yw gobeithio nid yn unig y bydd ein myfyrwyr a staff LGBTQ+ yn teimlo’n ddiogel a gweladwy ond y bydd yn rhoi lle blaenllaw i gynhwysiant LGBTQ+ yn yr Ysgol, y Gyfadran a’r corff myfyrwyr, gan barhau’r ddeialog iach.

6

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

ACHOS 2 MWY NAG AR Y WYNEB: ENGHRAIFFT O FOD YN HYDERUS O RAN ANABLEDD PRIFYSGOL BANGOR

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ddiweddar i ddangos ei hymrwymiad i gynhwysiant anabledd ymhlith ei staff. Ar hyn o bryd mae 11.2% o staff Ysgol Busnes Bangor (BBS) yn adnabod eu hunain fel pobl anabl. Er nad oes proses ffurfiol ar gyfer cynhwysiant anabledd yn yr ysgol, mae ganddi nifer o arferion anffurfiol i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant anabledd a hawliau staff anabl. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos enghraifft o aelod o staff anabl newydd gael ei recriwtio a’r arferion a roddwyd yn eu lle i ddangos croeso a gwerthfawrogiad. Yn gyntaf, mewn cyfarfodydd cynefino yn yr ysgol, mae’r holl staff newydd yn cael eu briffio ar eu cyfrifoldebau disgwyliedig. Yn y rhain, mae unigolion yn cael cyfle i ddweud pa ddulliau o weithio sy’n gweithio orau iddynt ac unrhyw addasiadau a allai fod angen eu gwneud. Mae’r ysgol wedi gwneud y broses yn un gyfeillgar fel bod staff newydd yn teimlo y gellir ymddiried ynddi. Yn ail, diolch i’r sgwrs barhaus am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y byd busnes heddiw, mae gan yr ysgol sawl llwybr i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, fel ysgolion uwchradd lleol (ymgeiswyr posib am gyrsiau), diwrnodau agored y brifysgol, a phodlediad yr ysgol fusnes. Yn y digwyddiadau hyn, mae anabledd yn cael ei gynnwys fel pwnc a rhai gweithgareddau’n cael eu harwain gan staff anabl. Mae hyn yn sicrhau bod y digwyddiadau’n apelio mwy at, ac yn fwy cynhwysol i randdeiliaid. Yn olaf, mae rhai sesiynau addysgu ac asesiadau’n seiliedig ar y pwnc o gyflogaeth pobl anabl, wedi eu harwain gan aelod o staff sy’n adnabod ei hun fel bod yn anabl. Nid mater o wneud datganiad yn unig yw bod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ond o feithrin teimlad o ymddiriedaeth mewn staff anabl. Ar lefel yr ysgol, mae ymdeimlad o deulu ymhlith aelodau’r staff. Mae’r diwylliant Bangoraidd yn rhoi teimlad o berthyn i staff hen a newydd a’i gwneud yn ddiogel i bobl drafod anabledd a’r problemau a wynebir gan staff anabl.

7

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

ACHOS 3 GWELLA LLES DRWY OFOD A LLE PRIFYSGOL CAERDYDD

Cyfeiriwyd at les fel ‘her fawr’ ein cenhedlaeth ar gyfer sefydliadau cyfoes. Mae hyn yn cynnwys prifysgolion sydd, wrth gwrs, yn gorfod gweithio i gefnogi lles eu myfyrwyr a’u staff. Mae’n wybyddus iawn bod perthynas rhwng gofod (yn enwedig yn yr awyr agored) a lles. Ysgogodd hyn gydweithwyr yn Ysgol Fusnes Caerdydd i ystyried sut y gallai dau ofod allweddol gael eu trawsnewid er mwyn gwella lles yn yr adran. Yn gyntaf, ffurfiwyd Tîm Gwyrdd o staff gwasanaethau proffesiynol ac academaidd a ddaeth at ei gilydd yn eu hamser hamdden i glirio ardal yng nghefn un o adeiladau Caerdydd i greu ‘gardd les’. Mae’r ardd yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion a blodau ynghyd â lagŵn pryfed hofran, tai draenogod a phryfetach, a gardd berlysiau lle y gall cydweithwyr a myfyrywr helpu eu hunain. Mae hefyd yn cynnwys gwahanol lefydd eistedd cyffyrddus gan gynnwys mainc Hapus i Sgwrsio i rai sydd eisiau cwmni. Mae’r ardd yn cael defnydd da gan fyfyrwyr, yn enwedig ar adegau adolygu, a daw staff ar draws y Brifysgol i eistedd yno amser cinio. Yn ail, trodd y tîm ei sylw at ofod arlwyo gwag mewn adeilad arall gan yr Ysgol Fusnes. Mae hwn bellach wedi’i drawsnewid yn ‘Lolfa’ ac yn lle poblogaidd i fyfyrwyr gael dod i ymlacio, gyda mannau tawel, bythod, peiriannau bwyd a diod, ardal awyr agored gyda phodiau gwydr, a dodrefn gardd wedi’i ailgylchu.

8

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

9

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

ACHOS 4 MYFYRWYR YN CYDWEITHIO: DULL DEFNYDD-GYFEILLGAR O HWYLUSO CYMORTH I FYFYRWYR RHYNGWLADOL PRIFYSGOL BANGOR

Mae Ysgol Fusnes Bangor (BBS) yn derbyn nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol gyda llawer yn ymuno o brifysgolion partner ar ganol eu cyrsiau (rhai yn eu hail flwyddyn, eraill yn eu trydedd). Mae’r myfyrwyr hyn yn aml yn cael trafferth addasu i system addysg uwch y DU. Meini tramgwydd cyffredin yw deall llên- ladrad a chyfeirio at ffynonellau llenyddol, chwilio drwy’r llenyddiaeth a strwythuro aseiniadau. Er mwyn ceisio datrys yr heriau academaidd a chymdeithasol a wynebir gan ein myfyrwyr rhyngwladol, mae BBS yn cynnig cynllun cymorth Stydi-Bydi i ategu’r hyfforddiant a thiwtora ffurfiol. Mae’r fenter hon yn rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â chyd-fyfyrwyr tiwtora sydd yn BBS ar y pryd gan roi arweiniad ar sail profiad personol a helpu myfyrwyr i gynefino a datblygu eu sgiliau academaidd. Gall rhaglenni cyd-fyfyrwyr tiwtora fod yn arbennig o effeithiol i hwyluso addasu’n gymdeithasol ac academaidd i astudio mewn prifysgol ac mae rhannu profiad hefyd yn fanteisiol i’r myfyrwyr tiwtora eu hunain. Yn gyntaf, cyhoeddwn y cynllun i’n myfyrwyr presennol gan recriwtio ymgeiswyr profiadol i fod yn diwtoriaid. Mae’r mentoriaid hyn yn derbyn hyfforddiant ac iawndal fesul awr am eu cymorth. Yn ail, mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr academaidd a phroffesiynol, hysbysebwn y cynllun drwy wahanol sianeli gan gynnwys drwy wneud cyhoeddiadau sydyn mewn darlithoedd perthnasol. Mae ystafell bwrpasol yn cael ei neilltuo ar gyfer sesiwn galw heibio ddwy awr wythnosol yn ystod y tymor, lle y gall myfyrwyr fynd i ofyn am gymorth astudio neu aseiniad gan y stydi-bydis. Mae’r adborth gan y stydi-bydis a’r myfyrwyr rhyngwladol wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ofyn am gymorth gan eu cyd-fyfyrwyr sydd efallai’n haws na gofyn i ddarlithwyr. Gall y stydi-bydis hefyd rannu gwybodaeth am bwnc o’u blynyddoedd blaenorol gan ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr newydd o ddyluniad a strwythur y cwrs. Dyma rai sylwadau gan stydi-bydis diweddar wrth fyfyrio’n ôl ar y cynllun: “Dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle oherwydd roedd nid yn unig yn helpu myfyrwyr eraill ond hefyd yn brofiad gwaith gwych i mi. Mae’r cyfle wedi hogi fy sgiliau cyfathrebu drwy gyfarfod a thrafod gyda myfyrwyr o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd.” “Un o’r cyfleoedd gorau i helpu eraill a ges i yn y brifysgol”

10

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

ACHOS 5 TRAFOD DIWYLLIANT PRIFYSGOL DE CYMRU

Fel rhan o’n hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ym Mhrifysgol De Cymru (USW), cefnogwn fyfyrwyr a staff Mwslemaidd i ymarfer eu crefydd. Yn ogystal â’r ystafell weddïo yng Nghaplaniaeth y brifysgol, mae USW wedi sefydlu ystafelloedd gweddïo eraill ar draws y campws. O ystyried y newid demograffig, mae nifer sylweddol o fyfyrwyr llawn amser ôl-radd Ysgol Fusnes De Cymru (SWBS) yn dod o gefndiroedd Mwslemaidd. Mae Gweddi Jummah Dydd Gwener, sy’n rhaid ei chyflwyno mewn oedfa, yn hynod bwysig iddyn nhw, yn wahanol i’r gweddïau dyddiol arferol. I ddarparu ar gyfer hyn, mae’r rhaglenni ôl-radd yn yr Ysgol Fusnes wedi cael eu haddasu i sicrhau bod gan fyfyrwyr ddigon o amser i fynd i’r Weddi Jummah ar y campws. Mae’r addasiad hwn yn cyd-fynd ag amseroedd egwyl i fyfyrwyr a staff eraill gan sicrhau nad yw’n amharu ar yr amserlen addysgu. Yn ystod Ramadan, darparwn brydau bwyd iftar bob gyda’r nos i fyfyrwyr Mwslemaidd y campws. Mae gwirfoddolwyr, gan gynnwys myfyrwyr, staff a theuluoedd staff, yn cynorthwyo gyda’r fenter. Gall myfyrwyr Mwslemaidd dorri eu hympryd gyda’i gilydd â myfyrwyr eraill. I ddathlu Eid, mae USW hefyd yn trefnu gweddïau Eid yn y bore ac mae’r gymuned Fwslemaidd ehangach yn Nhrefforest hefyd yn mynychu. Ar ôl y gweddïau, cynhelir brecwast Eid yn ffreutur y brifysgol. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynorthwyo’r myfyrwyr i ddathlu Eid a hefyd i fynychu eu dosbarthiadau ar yr un diwrnod. Mae’r pethau hyn yn codi ymwybyddiaeth sylweddol o arferion diwylliannol a chrefyddol myfyrwyr Mwslemaidd ymhlith cymuned ehangach y brifysgol. Drwy hybu dealltwriaeth a pharch at wahanol arferion crefyddol, mae SWBS nid yn unig yn cefnogi ei fyfyrwyr a’i staff Mwslemaidd ond hefyd yn cyfoethogi holl ethos diwylliannol y Brifysgol. Mae’r ymdrechion hyn yn arwydd o ymrwymiad y Brifysgol i greu amgylchedd croesawus a chefnogol i’w holl aelodau.

11

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

12

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

ACHOS 6 DOD YN YSGOL FUSNES WRTH-HILIOL PRIFYSGOL CAERDYDD

Mae’n glir bod anghydraddoldeb, anfantais a gwahaniaethu’n gyffredin o hyd mewn cymdeithas ac yn cael ei adlewyrchu mewn strwythurau sefydliadol, ymddygiad ac arferion, gan gynnwys rhai prifysgolion ac Ysgolion Busnes. Yn dilyn ymchwil ar ei rhan a wnaed gan yr Athro Emmanuel Ogbonna CBE a’r adroddiad Covid-19 ar effaith hil ar ganlyniadau Covid a gynhyrchodd ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgol Fusnes wedi sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb Hil sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Ogbonna. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr a staff, gan gynnwys Deon yr Ysgol, ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Rheoli. Nod y Pwyllgor yw sicrhau bod diwylliant gweithle, amgylchedd dysgu, cwricwlwm addysg ac arferion addysgu’r Ysgol yn amrywiol, cynhwysol a ddim yn gwahaniaethu, gan hefyd geisio llenwi’r bwlch cyrhaeddiad a rhoi mwy o lwyfan i leisiau BAME yn yr Ysgol. Mae prosiectau’r Pwyllgor yn cynnwys Llyfr Cydraddoldeb Hil a Chlwb Ffilmiau fel bod cydweithwyr a myfyrwyr yn gallu dod at ei gilydd i fyfyrio ar broblemau ac atebion. Hefyd yn sgîl sefydlu’r Pwyllgor, cafwyd cydweithrediad rhwng yr Ysgol Fusnes a Busnes yn y Gymuned ar ddarparu hyfforddiant a datblygiadau gwrth-hiliol ar draws yr Ysgol. Mae bron i 200 o gydweithwyr wedi cwblhau’r sesiwn gyntaf ar Beth am Siarad am Hil ac mae 60 arall ar yr ail gam i fod yn Gynghreiriaid. Yn olaf, rydym ni wedi lansio offeryn ryportio gwrth-hiliol fel y gall unrhyw fyfyriwr, aelod o staff neu gydweithiwr ryportio hiliaeth ar-lein yn ddienw drwy lenwi ein ffurflen.

13

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Y ffordd ymlaen Wrth baratoi’r adnodd hwn, roedd myfyrwyr a staff yn myfyrio’n aml ar y ffaith mai siwrne yw EDI, gyda throfâu a throeon cyson. Wrth i’r tirlun Addysg Uwch barhau i esblygu, mae angen i sefydliadau barhau i fyfyrio i sicrhau bod heriau newydd yn cael sylw fel bod gan bawb ymdeimlad o berthyn a bod ein campysau'n parhau i fod yn llefydd cynhwysol. Roedd yn glir o’n trafodaethau bod cyd-destun ac amgylchiadau lleol yn eithriadol arwyddocaol wrth benderfynu ar ddulliau EDI. Yn y llawlyfr hwn, rydym wedi rhannu amrywiol enghreifftiau o sut y mae sefydliadau partner wedi ymgysylltu â myfyrwyr a staff, i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a chreu diwylliant o dderbyn ac empathi. Mae’r enghreifftiau hyn yn gyfle i rannu arferion – nid arferion gorau o reidrwydd – fel y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd. Gobeithio y gall yr esiamplau hyn fod yn gatalydd ar gyfer eich sgyrsiau a’ch prosiectau EDI eich hunain.

14

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

Diolch yn fawr Bu’n bosib cynhyrchu’r adnodd hwn ar ôl derbyn cyllid drwy gynllun Prosiectau Gwella Cydweithredol QAA Cymru wedi’u cyllido gan CCAUC 2023-24 ac am hynny hoffai’r holl gyfranogwyr ddiolch i QAA Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Hoffai awduron yr adnodd hwn hefyd ddiolch i’r holl sefydliadau yng Nghymru am gefnogi a’u parodrwydd i fod yn rhan o’r gwaith, gyda diolch hefyd i’r holl fyfyrwyr a staff a rannodd eu barn a’u safbwyntiau drwy’r prosiect hwn. Dogfennau Cyfeiriol Bolton, P. (2024). Research Briefing - Higher education student numbers. Ar gael yn https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/cbp-7857. Miles, J. (2022). A vision for Higher Education. Ar gael yn: https://www.gov.wales/vision-higher-education. Morgan, M. (2013). The impact of diversity in higher education institutions. Yn M. Morgan (gol.) Supporting Student Diversity in Higher Education – A practical guide. Llundain: Routledge.

Adnoddau Eraill Llyfrau

Grace, S. a Gravestock, P. (2009). Inclusion and Diversity, Abingdon: Routledge. Michelle, M. (gol.) (2013). Supporting Student Diversity in Higher Education. Llundain: Routledge. Gwefannau Advance HE - www.advance-he.ac.uk/edi-resources Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes - www.charteredabs.org/policy/edi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) - www.hefcw.ac.uk/cy Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA) - www.qaa.ac.uk/cy

15

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5