ACHOS 4 MYFYRWYR YN CYDWEITHIO: DULL DEFNYDD-GYFEILLGAR O HWYLUSO CYMORTH I FYFYRWYR RHYNGWLADOL PRIFYSGOL BANGOR
Mae Ysgol Fusnes Bangor (BBS) yn derbyn nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol gyda llawer yn ymuno o brifysgolion partner ar ganol eu cyrsiau (rhai yn eu hail flwyddyn, eraill yn eu trydedd). Mae’r myfyrwyr hyn yn aml yn cael trafferth addasu i system addysg uwch y DU. Meini tramgwydd cyffredin yw deall llên- ladrad a chyfeirio at ffynonellau llenyddol, chwilio drwy’r llenyddiaeth a strwythuro aseiniadau. Er mwyn ceisio datrys yr heriau academaidd a chymdeithasol a wynebir gan ein myfyrwyr rhyngwladol, mae BBS yn cynnig cynllun cymorth Stydi-Bydi i ategu’r hyfforddiant a thiwtora ffurfiol. Mae’r fenter hon yn rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad â chyd-fyfyrwyr tiwtora sydd yn BBS ar y pryd gan roi arweiniad ar sail profiad personol a helpu myfyrwyr i gynefino a datblygu eu sgiliau academaidd. Gall rhaglenni cyd-fyfyrwyr tiwtora fod yn arbennig o effeithiol i hwyluso addasu’n gymdeithasol ac academaidd i astudio mewn prifysgol ac mae rhannu profiad hefyd yn fanteisiol i’r myfyrwyr tiwtora eu hunain. Yn gyntaf, cyhoeddwn y cynllun i’n myfyrwyr presennol gan recriwtio ymgeiswyr profiadol i fod yn diwtoriaid. Mae’r mentoriaid hyn yn derbyn hyfforddiant ac iawndal fesul awr am eu cymorth. Yn ail, mewn cydweithrediad â’n cydweithwyr academaidd a phroffesiynol, hysbysebwn y cynllun drwy wahanol sianeli gan gynnwys drwy wneud cyhoeddiadau sydyn mewn darlithoedd perthnasol. Mae ystafell bwrpasol yn cael ei neilltuo ar gyfer sesiwn galw heibio ddwy awr wythnosol yn ystod y tymor, lle y gall myfyrwyr fynd i ofyn am gymorth astudio neu aseiniad gan y stydi-bydis. Mae’r adborth gan y stydi-bydis a’r myfyrwyr rhyngwladol wedi bod yn eithriadol o gadarnhaol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ofyn am gymorth gan eu cyd-fyfyrwyr sydd efallai’n haws na gofyn i ddarlithwyr. Gall y stydi-bydis hefyd rannu gwybodaeth am bwnc o’u blynyddoedd blaenorol gan ehangu dealltwriaeth y myfyrwyr newydd o ddyluniad a strwythur y cwrs. Dyma rai sylwadau gan stydi-bydis diweddar wrth fyfyrio’n ôl ar y cynllun: “Dw i’n ddiolchgar iawn am y cyfle oherwydd roedd nid yn unig yn helpu myfyrwyr eraill ond hefyd yn brofiad gwaith gwych i mi. Mae’r cyfle wedi hogi fy sgiliau cyfathrebu drwy gyfarfod a thrafod gyda myfyrwyr o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd.” “Un o’r cyfleoedd gorau i helpu eraill a ges i yn y brifysgol”
10
Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru
Made with FlippingBook HTML5