EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

ACHOS 5 TRAFOD DIWYLLIANT PRIFYSGOL DE CYMRU

Fel rhan o’n hymrwymiad i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ym Mhrifysgol De Cymru (USW), cefnogwn fyfyrwyr a staff Mwslemaidd i ymarfer eu crefydd. Yn ogystal â’r ystafell weddïo yng Nghaplaniaeth y brifysgol, mae USW wedi sefydlu ystafelloedd gweddïo eraill ar draws y campws. O ystyried y newid demograffig, mae nifer sylweddol o fyfyrwyr llawn amser ôl-radd Ysgol Fusnes De Cymru (SWBS) yn dod o gefndiroedd Mwslemaidd. Mae Gweddi Jummah Dydd Gwener, sy’n rhaid ei chyflwyno mewn oedfa, yn hynod bwysig iddyn nhw, yn wahanol i’r gweddïau dyddiol arferol. I ddarparu ar gyfer hyn, mae’r rhaglenni ôl-radd yn yr Ysgol Fusnes wedi cael eu haddasu i sicrhau bod gan fyfyrwyr ddigon o amser i fynd i’r Weddi Jummah ar y campws. Mae’r addasiad hwn yn cyd-fynd ag amseroedd egwyl i fyfyrwyr a staff eraill gan sicrhau nad yw’n amharu ar yr amserlen addysgu. Yn ystod Ramadan, darparwn brydau bwyd iftar bob gyda’r nos i fyfyrwyr Mwslemaidd y campws. Mae gwirfoddolwyr, gan gynnwys myfyrwyr, staff a theuluoedd staff, yn cynorthwyo gyda’r fenter. Gall myfyrwyr Mwslemaidd dorri eu hympryd gyda’i gilydd â myfyrwyr eraill. I ddathlu Eid, mae USW hefyd yn trefnu gweddïau Eid yn y bore ac mae’r gymuned Fwslemaidd ehangach yn Nhrefforest hefyd yn mynychu. Ar ôl y gweddïau, cynhelir brecwast Eid yn ffreutur y brifysgol. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynorthwyo’r myfyrwyr i ddathlu Eid a hefyd i fynychu eu dosbarthiadau ar yr un diwrnod. Mae’r pethau hyn yn codi ymwybyddiaeth sylweddol o arferion diwylliannol a chrefyddol myfyrwyr Mwslemaidd ymhlith cymuned ehangach y brifysgol. Drwy hybu dealltwriaeth a pharch at wahanol arferion crefyddol, mae SWBS nid yn unig yn cefnogi ei fyfyrwyr a’i staff Mwslemaidd ond hefyd yn cyfoethogi holl ethos diwylliannol y Brifysgol. Mae’r ymdrechion hyn yn arwydd o ymrwymiad y Brifysgol i greu amgylchedd croesawus a chefnogol i’w holl aelodau.

11

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Made with FlippingBook HTML5