ACHOS 6 DOD YN YSGOL FUSNES WRTH-HILIOL PRIFYSGOL CAERDYDD
Mae’n glir bod anghydraddoldeb, anfantais a gwahaniaethu’n gyffredin o hyd mewn cymdeithas ac yn cael ei adlewyrchu mewn strwythurau sefydliadol, ymddygiad ac arferion, gan gynnwys rhai prifysgolion ac Ysgolion Busnes. Yn dilyn ymchwil ar ei rhan a wnaed gan yr Athro Emmanuel Ogbonna CBE a’r adroddiad Covid-19 ar effaith hil ar ganlyniadau Covid a gynhyrchodd ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae’r Ysgol Fusnes wedi sefydlu Pwyllgor Cydraddoldeb Hil sy’n cael ei gadeirio gan yr Athro Ogbonna. Mae’r Pwyllgor yn cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr a staff, gan gynnwys Deon yr Ysgol, ac yn adrodd yn uniongyrchol i’r Bwrdd Rheoli. Nod y Pwyllgor yw sicrhau bod diwylliant gweithle, amgylchedd dysgu, cwricwlwm addysg ac arferion addysgu’r Ysgol yn amrywiol, cynhwysol a ddim yn gwahaniaethu, gan hefyd geisio llenwi’r bwlch cyrhaeddiad a rhoi mwy o lwyfan i leisiau BAME yn yr Ysgol. Mae prosiectau’r Pwyllgor yn cynnwys Llyfr Cydraddoldeb Hil a Chlwb Ffilmiau fel bod cydweithwyr a myfyrwyr yn gallu dod at ei gilydd i fyfyrio ar broblemau ac atebion. Hefyd yn sgîl sefydlu’r Pwyllgor, cafwyd cydweithrediad rhwng yr Ysgol Fusnes a Busnes yn y Gymuned ar ddarparu hyfforddiant a datblygiadau gwrth-hiliol ar draws yr Ysgol. Mae bron i 200 o gydweithwyr wedi cwblhau’r sesiwn gyntaf ar Beth am Siarad am Hil ac mae 60 arall ar yr ail gam i fod yn Gynghreiriaid. Yn olaf, rydym ni wedi lansio offeryn ryportio gwrth-hiliol fel y gall unrhyw fyfyriwr, aelod o staff neu gydweithiwr ryportio hiliaeth ar-lein yn ddienw drwy lenwi ein ffurflen.
13
Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch
Made with FlippingBook HTML5