Y ffordd ymlaen Wrth baratoi’r adnodd hwn, roedd myfyrwyr a staff yn myfyrio’n aml ar y ffaith mai siwrne yw EDI, gyda throfâu a throeon cyson. Wrth i’r tirlun Addysg Uwch barhau i esblygu, mae angen i sefydliadau barhau i fyfyrio i sicrhau bod heriau newydd yn cael sylw fel bod gan bawb ymdeimlad o berthyn a bod ein campysau'n parhau i fod yn llefydd cynhwysol. Roedd yn glir o’n trafodaethau bod cyd-destun ac amgylchiadau lleol yn eithriadol arwyddocaol wrth benderfynu ar ddulliau EDI. Yn y llawlyfr hwn, rydym wedi rhannu amrywiol enghreifftiau o sut y mae sefydliadau partner wedi ymgysylltu â myfyrwyr a staff, i ddatblygu eu hymwybyddiaeth a chreu diwylliant o dderbyn ac empathi. Mae’r enghreifftiau hyn yn gyfle i rannu arferion – nid arferion gorau o reidrwydd – fel y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd. Gobeithio y gall yr esiamplau hyn fod yn gatalydd ar gyfer eich sgyrsiau a’ch prosiectau EDI eich hunain.
14
Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru
Made with FlippingBook HTML5