EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

Rhagarweiniad Cyd-destun Mae’r sector Addysg Uwch (AU) yn y DU wedi tyfu’n sylweddol dros yr ugain mlynedd diwethaf gan symud o system yn ymwneud yn bennaf ag addysg ddomestig i un â’i golygon ar addysgu fyfyrwyr rhyngwladol (Bolton, 2024). Mae nifer o ffactorau’n gyfrifol am y newid hwn gan gynnwys newidiadau strwythurol yn y cyllid a roddir i Addysg Uwch a’r galw newydd am raddedigion byd-eang. Er bod sector AU Cymru wedi cadw ei genhadaeth graidd o gefnogi cymunedau lleol fel sefydliadau ‘angori’, nid yw Sefydliadau AU Cymru yn imiwn i’r newidiadau strwythurol hyn, felly daeth yr ymgyrch i ehangu’r cohort myfyrwyr yng Nghymru law yn llaw â chynnydd yn amrywiaeth y myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn ogystal â phobl gyda nodweddion a warchodir. Mae’r newid hwn yng nghyfansoddiad cohortau myfyrwyr a staff Cymru wedi hyrwyddo newid mewn blaenoriaethau strategol a chyfranogiad a chyfle cyfartal ehangach yng Nghymru (Miles, 2022; Morgan 2013). Ysgolion Busnes Gwelodd addysg reoli newidiadau helaeth iawn, yn y cohortau myfyrwyr a staff. Mae Ysgolion Busnes wedi cael llwyddiant ysgubol gyda chreu rhaglenni gradd deniadol a hynod effeithiol sy’n gallu gwella cyflogadwyedd graddedigion ond sydd hefyd yn berthnasol i gohort ehangach o fyfyrwyr cenedlaethol a rhyngwladol. Er bod staff a myfyrwyr Ysgolion Busnes wedi cael trafferthion dros y cyfnod hwn o ehangu sylweddol, mae’r datblygiad tuag at gohortau mwy amrywiol wedi bod yn gatalydd a labordy byw ar gyfer prosiectau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (EDI). Er mwyn cynnal safonau academaidd a phrofiad cadarnhaol myfyrwyr yn y cyd-destun hwn, bu’n rhaid i Ysgolion Busnes apelio’n ystyrlon at eu cohortau myfyrwyr mwy amrywiol drwy ddatblygu polisïau a phrosiectau er mwyn sicrhau bod lleisiau a chymunedau eu myfyrwyr i gyd yn cael eu clywed a’u cydnabod. Mae’r llawlyfr yn trafod yr amrywiol heriau sy’n wynebu Ysgolion Busnes gan gynnig dealltwriaeth o wahanol arferion a ddatblygodd wrth ymateb iddynt.

Grw ^ p y Prosiect Gwella Cydweithredol Sefydliadau partner a thimau Sefydliad arweiniol: Prifysgol Abertawe Dr Richard Baylis Janet Collins Suki Collins Hollie Evans Alison Llewlyn Yr Athro Andrew Thomas Mia Webber Sefydliadau partner: Prifysgol Aberystwyth

Dr Mandy Talbot Prifysgol Bangor Dr Sara Parry

Dr Cunqiang [Felix] Shi Prifysgol Metropolitan Caerdydd Prifysgol Caerdydd Yr Athro Rachel Ashworth Vikki Burge Shaheda Khatun Prifysgol De Cymru Dr Xiaozheng Zhang Dr Aylwin Yafele Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Dr Gareth Hughes Prifysgol Wrecsam

3

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Made with FlippingBook HTML5