EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

ACHOS 1 RHWYDWAITH CYNGHREIRIAID LGBTQ+ PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae’r Ysgol Reoli a’r Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS) ym Mhrifysgol Abertawe wedi sefydlu Rhwydwaith o Gynghreiriaid LGBTQ+, sy’n fenter ar y cyd rhwng y Swyddfa Gwybodaeth Myfyrwyr (SIO) a’r Tîm Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). Un o’r pethau cyntaf a wnaeth y Rhwydwaith Cynghreiriaid oedd canolbwyntio ar wella profiad myfyrwyr o’n Myfyrwyr Traws ac Anneuaidd a hyrwyddo eu gwelededd. Cododd y rhesymeg ar gyfer hyn o drafodaeth rhwng yr SIO a’r Tîm EDI oedd yn cydnabod, er y datblygiadau a’r newid mewn agweddau yn y blynyddoedd diwethaf o ran terminoleg a diwylliant LGB, na ellid dweud yr un peth am faterion Traws ac Anneuaidd oherwydd bod y rhan fwyaf o bobl cisryweddol yn anghyfarwydd â phrofiadau byw person traws neu drawsrywiol. Ers Mehefin 2022, mae’r Ysgol ac FHSS yn cynnig hyfforddiant blynyddol sef ‘Hyfforddiant Stonewall i Gydweithwyr Academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol’, sy’n cael ei gynnal ym mis Mehefin i gyd-fynd â Mis Pride. Mae staff sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn cael eu hychwanegu at ein ‘Rhestr Cynghreiriaid’ o enwau staff y gall myfyrwyr deimlo’n gyffyrddus a diogel yn mynegi eu rhywedd, rhagenwau neu rywioldeb iddynt. Cyhoeddir y rhestr hon, ‘Creu Cysylltiadau: Myfyrwyr LGBTQ+’, i’r myfyrwyr ynghyd â gwybodaeth, adnoddau a chyfleoedd cymdeithasol i fyfyrwyr LGBTQ+ newydd sy’n ymuno â’r Ysgol a’r Gyfadran. Ym Mehefin 2024, dwy flynedd ers ei sefydlu, mae’r Rhwydwaith Cynghreiriaid LGBTQ+ yn gweithio ar ail-frandio a gwella gwelededd. Yn ei hanfod, nod cyntaf y Rhwydwaith oedd creu a hyrwyddo llefydd diogel i fyfyrwyr gael bod yn nhw eu hunain – ac mae gennym ni staff ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi eu hyfforddi ac sy’n barod a chymwys i gefnogi myfyrwyr sy’n teimlo nad ydyn nhw’n ddigon gweladwy. Rydym ni felly wedi creu logos Lle Diogel a brandio ar gyfer drysau swyddfa, gliniaduron, poteli dŵr (sticeri), bathodynnau gwddw a bathodynnau cardiau ID ein staff. Bwriadwn lansio ymgyrch gyfathrebu i fynd gyda’r ail-frandio hwn fel bod myfyrwyr yn gwybod beth y mae’r logos yn ei feddwl wrth eu gweld ar swyddfeydd ac eiddo staff. Y rhesymeg yw gobeithio nid yn unig y bydd ein myfyrwyr a staff LGBTQ+ yn teimlo’n ddiogel a gweladwy ond y bydd yn rhoi lle blaenllaw i gynhwysiant LGBTQ+ yn yr Ysgol, y Gyfadran a’r corff myfyrwyr, gan barhau’r ddeialog iach.

6

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

Made with FlippingBook HTML5