EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

ACHOS 2 MWY NAG AR Y WYNEB: ENGHRAIFFT O FOD YN HYDERUS O RAN ANABLEDD PRIFYSGOL BANGOR

Mae Prifysgol Bangor wedi ymuno â’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ddiweddar i ddangos ei hymrwymiad i gynhwysiant anabledd ymhlith ei staff. Ar hyn o bryd mae 11.2% o staff Ysgol Busnes Bangor (BBS) yn adnabod eu hunain fel pobl anabl. Er nad oes proses ffurfiol ar gyfer cynhwysiant anabledd yn yr ysgol, mae ganddi nifer o arferion anffurfiol i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant anabledd a hawliau staff anabl. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos enghraifft o aelod o staff anabl newydd gael ei recriwtio a’r arferion a roddwyd yn eu lle i ddangos croeso a gwerthfawrogiad. Yn gyntaf, mewn cyfarfodydd cynefino yn yr ysgol, mae’r holl staff newydd yn cael eu briffio ar eu cyfrifoldebau disgwyliedig. Yn y rhain, mae unigolion yn cael cyfle i ddweud pa ddulliau o weithio sy’n gweithio orau iddynt ac unrhyw addasiadau a allai fod angen eu gwneud. Mae’r ysgol wedi gwneud y broses yn un gyfeillgar fel bod staff newydd yn teimlo y gellir ymddiried ynddi. Yn ail, diolch i’r sgwrs barhaus am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn y byd busnes heddiw, mae gan yr ysgol sawl llwybr i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, fel ysgolion uwchradd lleol (ymgeiswyr posib am gyrsiau), diwrnodau agored y brifysgol, a phodlediad yr ysgol fusnes. Yn y digwyddiadau hyn, mae anabledd yn cael ei gynnwys fel pwnc a rhai gweithgareddau’n cael eu harwain gan staff anabl. Mae hyn yn sicrhau bod y digwyddiadau’n apelio mwy at, ac yn fwy cynhwysol i randdeiliaid. Yn olaf, mae rhai sesiynau addysgu ac asesiadau’n seiliedig ar y pwnc o gyflogaeth pobl anabl, wedi eu harwain gan aelod o staff sy’n adnabod ei hun fel bod yn anabl. Nid mater o wneud datganiad yn unig yw bod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ond o feithrin teimlad o ymddiriedaeth mewn staff anabl. Ar lefel yr ysgol, mae ymdeimlad o deulu ymhlith aelodau’r staff. Mae’r diwylliant Bangoraidd yn rhoi teimlad o berthyn i staff hen a newydd a’i gwneud yn ddiogel i bobl drafod anabledd a’r problemau a wynebir gan staff anabl.

7

Rhagoriaeth mewn Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) mewn Addysg Uwch

Made with FlippingBook HTML5