EDI Excellence within Higher Education Handbook 2024-Wel - …

ACHOS 3 GWELLA LLES DRWY OFOD A LLE PRIFYSGOL CAERDYDD

Cyfeiriwyd at les fel ‘her fawr’ ein cenhedlaeth ar gyfer sefydliadau cyfoes. Mae hyn yn cynnwys prifysgolion sydd, wrth gwrs, yn gorfod gweithio i gefnogi lles eu myfyrwyr a’u staff. Mae’n wybyddus iawn bod perthynas rhwng gofod (yn enwedig yn yr awyr agored) a lles. Ysgogodd hyn gydweithwyr yn Ysgol Fusnes Caerdydd i ystyried sut y gallai dau ofod allweddol gael eu trawsnewid er mwyn gwella lles yn yr adran. Yn gyntaf, ffurfiwyd Tîm Gwyrdd o staff gwasanaethau proffesiynol ac academaidd a ddaeth at ei gilydd yn eu hamser hamdden i glirio ardal yng nghefn un o adeiladau Caerdydd i greu ‘gardd les’. Mae’r ardd yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion a blodau ynghyd â lagŵn pryfed hofran, tai draenogod a phryfetach, a gardd berlysiau lle y gall cydweithwyr a myfyrywr helpu eu hunain. Mae hefyd yn cynnwys gwahanol lefydd eistedd cyffyrddus gan gynnwys mainc Hapus i Sgwrsio i rai sydd eisiau cwmni. Mae’r ardd yn cael defnydd da gan fyfyrwyr, yn enwedig ar adegau adolygu, a daw staff ar draws y Brifysgol i eistedd yno amser cinio. Yn ail, trodd y tîm ei sylw at ofod arlwyo gwag mewn adeilad arall gan yr Ysgol Fusnes. Mae hwn bellach wedi’i drawsnewid yn ‘Lolfa’ ac yn lle poblogaidd i fyfyrwyr gael dod i ymlacio, gyda mannau tawel, bythod, peiriannau bwyd a diod, ardal awyr agored gyda phodiau gwydr, a dodrefn gardd wedi’i ailgylchu.

8

Siwrne Ysgolion Busnes yng Nghymru

Made with FlippingBook HTML5