MBA Brochure_Welsh

GERDDI CLUN Mae Gerddi Clun yn cynnwys amrywiaeth o blanhigion mewn parcdir hardd. Yn enwog yn fyd-eang am y casgliad rhagorol o rododendronau, ieir gwynion ac enkianthus, mae’r gerddi’n cynnig hafan o lonyddwch, planhigion toreithiog a nodweddion diddorol. Mae’r parciau mawreddog â statws y faner werdd yn ddihangfa i bobl rhag bwrlwm bywyd y ddinas. Mae’r gerddi’n wirioneddol ysblennydd drwy gydol y flwyddyn. PENRHYN GWYR Mae Penrhyn Gwyr yn gartref i bum traeth baner las a hon oedd yr ardal gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Felly, Penrhyn Gwyr yw’r lle perffaith i adolygu, ymlacio neu fwynhau barbeciw ac mae’n lleoliad delfrydol ar gyfer anturiaethau awyr agored. Rhaid i chi weld y dirwedd ogoneddus â’ch llygaid eich hun. BAE’R TRI CHLOGWYN Mae Bae’r Tri Chlogwyn ymhlith enillwyr pleidleisiau am dirweddau mwyaf dramatig Prydain yn rheolaidd. Mae ei leoliad hardd, wedi’i amgylchynu gan dri chlogwyn calchfaen, yn berffaith i ffotograffwyr brwd neu anturiaethwyr. Ar ben taith 20 munud ar hyd llwybr i ddatgelu’r tri chlogwyn trawiadol, mae’r traeth yn un o atyniadau arfordirol llonydd a braf Cymru. BAE RHOSILI Mae Bae Rhosili yn gyrchfan eiconig sy’n cynnig golygfeydd panoramig trawiadol a llwybrau cerdded da. Wedi’i amgylchynu gan lwybrau serth i lawr wyneb y clogwyn, cafodd y traeth ei bleidleisio’n Draeth Gorau Cymru 2017 ac yn un o 10 Traeth Gorau’r DU (Gwobrau Dewis y Teithiwr Trip Advisor). Mae’n hafan i fywyd gwyllt hefyd lle mae nifer o rywogaethau adar yn nythu ar y clogwyni a gwelir defaid yn crwydro’r glaswellt. BAE LANGLAND Mae Bae Langland yn atyniad arfordirol poblogaidd ar benrhyn Gwyr. Mae’n draeth syrffio poblogaidd sy’n ennill gwobr y Faner Las Ewropeaidd yn rheolaidd am ei ansawdd. Yn enwog am ei ‘chymuned’ o gytiau traeth gwyrdd, mae’r ardal yn ddelfrydol ar gyfer ffotograffwyr brwd.

MARINA ABERTAWE

STADIWM LIBERTY

BAE LANGLAND

23

Made with FlippingBook HTML5