MBA Brochure_Welsh

BYDDWCH YR UN SY’N SBARDUNO DYFODOL CYNALIADWY

EICH PROFIAD GWEINYDDU BUSNES Rydym yn manteisio ar arbenigedd yr Ysgol Reolaeth gyfan i annog meddylfryd ‘yr hyn sy’n gweithio’ i heriau na ellir eu datrys gan unigolion neu sefydliadau sy’n gweithredu ar eu pennau eu hunain. Mae ein MBA yn seiliedig ar egwyddor cyd-greu gwybodaeth berthnasol gan ddefnyddio ymchwil academaidd sefydledig o amrywiaeth o safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol ochr yn ochr â’ch profiad eich hun a phrofiad busnesau allanol ac arweinwyr cymdeithas. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i wrando ar siaradwyr blaenllaw o fyd busnes ac i ddysgu gan arweinwyr busnesau mawr a bach, rhai lleol a rhyngwladol. MENTORA Caiff ein myfyrwyr MBA gyfle hefyd i gael eu mentora gan rywun ym myd busnes er mwyn cael arweiniad a chyngor pwrpasol drwy gydol y rhaglen ac i reoli prosiectau a bennir gan fusnes. Mae hyn yn ein galluogi i ddethol ar sail perfformiad fel y nodir nes ymlaen yn y llyfryn.

DOSBARTHIADAU MEISTR Drwy gydol y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn nifer o ddosbarthiadau meistr a gynhelir gan academyddion ac arweinwyr diwydiant, er mwyn elwa o wybodaeth a chyfleoedd pellach i drafod heriau busnes byd-eang. YMWELIAD ASTUDIO RHYNGWLADOL Bydd ein rhaglen MBA yn rhoi cyfle i chi archwilio amrywiaeth o fusnesau mewn cyrchfan Ewropeaidd mawr drwy Ymweliad Astudio Rhyngwladol. Bydd hyn yn caniatáu i chi gymhwyso’r meysydd pwnc rydych wedi’u hastudio mewn busnes Ewropeaidd. Fel rheol, bydd yr ymweliad yn para 5-6 diwrnod mewn prifddinas, a byddwch yn cwrdd ag amrywiaeth o sefydliadau gan drafod yr heriau mae’r cwmni yn eu h wynebu ag uwch-reolwyr. Bydd amser gennych hefyd i archwilio’r ddinas a datblygu ymhellach y cysylltiadau cymdeithasol sydd wedi datblygu yn ystod y cwrs. O ganlyniad i’r amgylchiadau presennol, efallai na fydd modd cynnal ymweliadau rhyngwladol. Os felly, trefnir gweithgaredd arall.

CYSYLLTU Â NI: E-bost: som-mba@abertawe.ac.uk Tel: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/mba

8

Made with FlippingBook HTML5