RHEOLI BUSNES
SAFLEOEDD PRIFYSGOL 2023
O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL SYDD WEDI’I GRADDIO’N ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100%
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Graddau Achrededig Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Modiwlau ymarferol lle cewch gyfle i weithio gyda sefydliadau go iawn ar brosiect diwydiant RYDYM YN CYNNIG:
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU I’W CAFFAEL:
Meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
YSTOD O FODIWLAU DEWISOL AR GAEL I’W DEILWRA EICH ASTUDIAETHAU
RHEOLI BUSNES Os mai bod yn un o arweinwyr byd y dyfodol yw eich uchelgais, mae’r amrywiaeth eang o raddau sydd gennym yn ddelfrydol i chi. Mae gennym gysylltiadau ag achredwyr a phobl academaidd arbenigol o’r radd flaenaf, a gallwn gynnig amgylchedd ffafriol ar gyfer dysgu ac agor cyfleoedd gyrfa i chi mewn meysydd busnes, rheolaeth, twristiaeth a marchnata. Dewch i ddysgu am feysydd craidd rheoli busnes, a chael y rhyddid i ddewis modiwlau arbenigol blaengar a theilwra eich gradd yn ôl eich diddordebau.
EIN GRADDAU
N100 NN13 N103 N10F
Rheoli Busnes, BSc (Anrh) Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Dewch i archwilio sut mae’r byd corfforaethol modern yn gweithio a thrwy ein cyrsiau gradd, cewch ddatblygu’r sgiliau sy’n hanfodol i lwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol. Hyblygrwydd yw’r nod, ac mae ein gradd gyffredinol mewn rheoli busnes yn cynnwys nifer fawr o fodiwlau i chi ddewis o’u plith. Gallwch ddewis beth sydd fwyaf addas i chi ac adeiladu gradd sy’n cyfateb i’r yrfa o’ch dewis. Pa bynnag yrfa rydych chi am ei dilyn, bydd gradd BSc Rheoli Busnes yn eich helpu i lwyddo.
N32N N340 N33N N32F
Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Trwy fodiwlau arbenigol mewn dadansoddeg busnes, a sylfaen gadarn mewn egwyddorion rheoli busnes, gallwch arbenigo yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn oes y ‘data mawr’. Os mai deall elfennau deinamig byd busnes sy’n cael eu gyrru gan ddata yw eich diddordeb – o’r data y tu ôl i’r llenni ar y rhyngrwyd i ddata rheoli logisteg pibellau cyflenwi byd-eang – mae’r radd hon yn addas i chi.
470B 480B 471B 470F
Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Menter ac Arloesi), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Gallwch ddatblygu sgiliau ymarferol a meddylfryd entrepreneuraidd gan ragori yn yr yrfa o’ch dewis, gallech ddechrau eich busnes eich hun neu gyflawni newid entrepreneuraidd mewn sefydliad mawr. Gyda modiwlau arbenigol sy’n cwmpasu entrepreneuriaeth, arloesedd a phrofiad busnes yn y byd go iawn, bydd cyfle i chi roi eich pen busnes ar brawf a sefydlu a rhedeg eich menter fusnes neu fenter gymdeithasol eich hun.
N1N3 N14J N1N6 N13F
Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Os ydych chi’n chwilio am radd mewn cyllid busnes a fydd yn gwneud i chi ddisgleirio mewn torf, gan feddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i reoli arian mewn busnes bach, busnes cenedlaethol neu fusnes rhyngwladol, byddai’r radd hon yn berffaith i chi. Ynghyd â rhoi sylfeini hanfodol ym maes rheoli busnes, mae’r radd hon yn darparu sylfaen gadarn mewn cyllid a sut i ddefnyddio cyllid yn y byd busnes, sy’n golygu y byddwch yn dysgu gwybodaeth allweddol sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd busnes ac ariannol.
N600 N604 N601 N60F
Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae’r radd hon yn ddelfrydol os oes gennych ddiddordeb ym maes adnoddau dynol rheoli busnes – o reoli adnoddau dynol clasurol i feysydd fel sefydliadau arweinyddiaeth a pherfformiad uchel. Gyda modiwlau craidd mewn cyfraith busnes a chyflogaeth, dadansoddi strategol ac ymddygiad sefydliadol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth eang o Reoli Adnoddau Dynol (HRM) ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
N1N5 N1K5 N1N8 N1NF
Rheoli Busnes (Marchnata), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Marchnata), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Marchnata), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae’r radd hon yn fras yn cynnwys meysydd marchnata, gwerthu ac ymddygiad defnyddwyr, gan ganolbwyntio ar bynciau marchnata arbenigol megis sut mae cwsmeriaid a busnesau’n rhyngweithio mewn marchnad fyd-eang. Mae’r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) yn gorff marchnata proffesiynol blaenllaw, a gan fod Prifysgol Abertawe yn Ganolfan Astudio Achrededig CIM gydnabyddedig, gallai’r modiwlau rydych chi’n eu dewis olygu eich bod yn ennill eithriadau ar gyfer cael cymhwyster Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol wrth gyflawni eich astudiaethau.
4900 490A 490I 490F
Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Gan gyfuno rheoli busnes ag ieithoedd a diwylliannau modern, rydym yn gweithio gyda chyrff y diwydiant i’ch galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr a’ch paratoi at yrfa ryngwladol gydag arbenigedd busnes a sgiliau iaith. Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy, gweithdai a dosbarthiadau iaith gyda mynediad i labordai iaith rhithwir, ac Efelychiad o Amgylcheddau Dysgu. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â myfyrwyr cyfnewid mewn caffis iaith wythnosol i sgwrsio yn yr ieithoedd rydych chi’n eu hastudio, er mwyn helpu i ddatblygu eich sgiliau iaith a’ch hyder.
4300 430A 430I 430F
Rheoli Busnes (Gweithrediadau), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Gweithrediadau), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Gweithrediadau), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Gweithrediadau), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen
Gyda’n gradd BSc Rheoli Busnes (Gweithrediadau), gallwch ymchwilio i waith mewnol y diwydiant gweithrediadau a chyflenwi, archwilio systemau gwybodaeth busnes a thechnolegau esblygol sy’n galluogi sefydliadau i drin materion busnes, a dysgu sut i reoli cysylltiadau â chleientiaid yn effeithiol yn ogystal â deall y gwahanol ddulliau o ymgynghoriaeth reoli strategol a thactegol. Gyda modiwlau gorfodol mewn gwyddoniaeth reoli, rheoli cadwyn gyflenwi, a rheoli gwasanaethau technoleg gwybodaeth, byddwch yn datblygu sylfaen yn y gwaith o reoli gweithrediadau busnes, gan eich paratoi at amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
L112 L1W3 L1W2 L12F
Economeg a Busnes, BSc (Anrh) Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Dramor Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Economeg a Busnes, BSc (Anrh), gyda Blwyddyn Sylfaen
Mae’r radd hon, sy’n cyfuno elfennau craidd o economeg a busnes, yn ddelfrydol os hoffech yrfa mewn llywodraeth, ym maes rheoli, cyllid neu fasnach. Mae’n rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn o egwyddorion economaidd o ran llunio polisïau ac amgylcheddau busnes, yn ogystal â’r technegau dadansoddol a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau ac mewn strategaeth mewn llywodraeth a busnes. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu cymhwyso gwybodaeth, sgiliau ymchwiliol a chreu modelau yn hyderus i gynghori gwahanol fathau o sefydliadau. O fusnesau preifat i’r llywodraeth, gallwch gael effaith wirioneddol ar bolisi economaidd.
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes
ACHREDU PROFFESIYNOL
CIM: Mae Sefydliad Marchnata Siartredig y DU yn gorff proffesiynol sy’n cynnig hyfforddiant a chymwysterau mewn marchnata a phynciau perthnasol, gan ganolbwyntio ar farchnata a gwerthiannau busnes.
CWRS
MANYLION Rhaglen radd gydag achrediad y Sefydliad Marchnata Siartredig - modiwlau eithriadau o Dystysgrif a Diploma CIM* *yn amodol ar ddewis modiwlau
Rheoli Busnes, BSc (Anrh) (Marchnata)
CMI: Y Sefydliad Rheoli Siartredig yw’r unig gorff siartredig proffesiynol yn y DU sydd â’r nod o hyrwyddo’r safonau uchaf o ragoriaeth mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth.
CWRS
MANYLION Tystysgrif CMI Lefel 5* *Yn amodol ar gwblhau a phasio MN-3000 Prosiect Blwyddyn Olaf. Mae angen i fyfyrwyr nad ydynt am optio i mewn i’r CMI dalu ffi fach i gofrestru ac ennill yr achrediad. *yn amodol ar ddewis modiwlau
Rheoli Busnes, BSc (Anrh) (pob llwybr)
CIMA: Sefydliad Siartredig y Cyfrifyddion Rheoli yw’r sefydliad proffesiynol mwyaf yn y bryd ar gyfer cyfrifyddion rheoli. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar gyfrifyddiaeth fusnes ac, yn benodol, cyfrifyddion rheoli sy’n ymdrin ag elfennau strategol busnes, megis rhagamcanu, strategaethau ariannol a risg a rheoli.
CWRS
MANYLION Wedi’ch eithrio rhag sefyll hyd at 4 arholiad y CIMA* Wedi’ch eithrio rhag sefyll hyd at 8 arholiad y CIMA*
*yn amodol ar ddewis modiwlau
Rheoli Busnes, BSc (Anrh) (pob llwybr) Rheoli Busnes, BSc (Anrh) (Cyllid)
Economeg a Busnes, BSc (Anrh)
Hyd at 4 eithriad o arholiadau CIMA*
ACCA: Mae Cymdeithas y Cyfrifyddion Siartredig yn gorff rhyngwladol blaenllaw ar gyfer cyfrifyddion. Mae cymhwyster gan y Gymdeithas yn profi i gyflogwyr eich bod yn hyfedr ym mhob agwedd ar fusnes. CWRS MANYLION Economeg a Busnes, BSc (Anrh) 1 Eithriad Papur Gwybodaeth Gymhwysol a Sgiliau Cymhwysol ACCA* *yn amodol ar ddewis modiwlau
Ar gyfer nifer o broffesiynau, dim ond y cam cyntaf o’r broses cymhwyso’n llawn yw astudio cwrs achrededig. Gallwch gysylltu â’r cyrff proffesiynol perthnasol i gael gwybod am y gofynion penodol eraill.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes
CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
TGAU NEU GYFWERTH
TEITL Y CWRS
RHEOLI BUSNES, BSC (ANRH)* (pob llwybr)
Saesneg a Mathemateg Isafswm Gradd C (4) Mathemateg Isafswm Gradd C (4)
ABB- BBB
DDM neu uwch
32-33
ECONOMEG A BUSNES, BSc (ANRH)*
ABB- BBB
DDM neu uwch
32-33
* gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo
• Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau a ragfynegir a’ch dewis o gyrsiau, mae’n bosibl y byddwn yn cynnig lle ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall - a bydd cwblhau’r cwrs yn arwain at B1 o’ch dewis cwrs. Addysgir eich blwyddyn gyntaf (y Flwyddyn Sylfaen) yn Y Coleg, sydd wedi’i leoli ar Gampws y Bae, a dysgir eich tair blynedd olaf yn yr Ysgol Reolaeth, sydd drws nesaf i’r Coleg ar Gampws y Bae. • Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. • Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@swansea.ac.uk . Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes
MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein gradd BSc Rheoli Busnes 3 blynedd safonol. Mae pob llwybr gradd yn cynnig modiwlau gorfodol amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Mae rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol i’w gweld yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes
RHEOLI BUSNES, BSc (Anrh): Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd yn cynnwys 8 modiwl 15 credyd gorfodol
MODIWLAU GORFODOL
Cyfrifo i Reolwyr
Rheoli Pobl
Marchnata Sgiliau Allweddol ar gyfer Busnes
SEMESTER 1
Rheoli Gweithrediadau
Cyd-destun Byd-eang Trefniadaeth
Rheoli yn yr Oes Ddigidol
Dewis o ddetholiadau gorfodol: Cyllid i Reolwyr
SEMESTER 2
Sgiliau Dadansoddi Hanfodol ar gyfer Busnes Menter a Chreadigrwydd: Entrepreneuriaeth ar Waith
Llywodraethu Corfforaethol a Moeseg SEMESTER 1 MODIWLAU DEWISOL: BLWYDDYN 2 (DANGOSOL) - EWCH I’CH TUDALEN CWRS I GAEL RHESTR GYFLAWN O FODIWLAU
Busnes Rhyngwladol SEMESTER 2 Rheolaeth Cadwyn Gyflenwi Rheoli Adnoddau Dynol Systemau Gwybodaeth Busnes Agweddau Cymdeithasol ar Drefniadaeth
Marchnata Digidol Gwyddor Rheolaeth Meddwl yn Feirniadol mewn Entrepreneuriaeth Amgylchedd Busnes Byd-eang: Economi Wleidyddol Ryngwladol
Pwer a Threfniadaeth SEMESTER 1 MODIWLAU DEWISOL: BLWYDDYN 3 (DANGOSOL) - EWCH I’CH TUDALEN CWRS I GAEL RHESTR GYFLAWN O FODIWLAU Rheoli Arloesi Rheoli Prosiectau
Arweinyddiaeth SEMESTER 2 Safonau Rhyngwladol Cyfraith Llywodraethu Corfforaethol Rhyngwladol Cylch Bywyd Menter Cynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol
Gweithredu Strategol Twristiaeth Gynaliadwy
BLWYDDYN SYLFAEN
Mae’r Ysgol Reolaeth yn ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu potensial academaidd llawn, gan gerfio’r llwybr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn cyfrifeg, cyllid, busnes a marchnata.
Mae yna lawer o resymau pam mae myfyrwyr yn dewis dilyn blwyddyn Sylfaen fel rhan o’u rhaglen radd. Efallai na fydd rhai myfyrwyr yn bodloni’r meini prawf mynediad ar gyfer mynediad uniongyrchol i flwyddyn 1, efallai y bydd eraill wedi bod allan o addysg ers peth amser ac yn teimlo bod angen cymorth arnynt i ddychwelyd i amgylchedd dysgu, ac efallai y bydd rhai yn pryderu am yr addasiad o Goleg i Brifysgol. amgylchedd addysgu. Beth bynnag fo’ch rheswm dros ystyried blwyddyn Sylfaen, mae’r Coleg, Prifysgol Abertawe yn darparu rhwydwaith cymorth cryf i fyfyrwyr sy’n sicrhau eu bod yn gwbl barod ar gyfer astudiaethau israddedig yn y dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe. Y Flwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0) yw eich llwybr at radd anrhydedd yn yr Ysgol Reolaeth. Ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y radd yn yr Ysgol Reolaeth. Pan fyddwch yn astudio yn y Coleg, sydd wedi’i leoli drws nesaf i’r Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, mae gennych fynediad i’r holl gyfleusterau a chymorth ar draws y Brifysgol o ddiwrnod cyntaf eich astudiaethau.
Dyma sampl o bynciau y byddwch yn eu hastudio yn ystod eich blwyddyn sylfaen: Busnes Meddwl Beirniadol Economeg Globaleiddio Sgiliau Dysgu Rhyngweithiol a Chyfathrebu
Teimlwch yn rhan o’r teulu mewn amgylchedd hamddenol, meithringar lle byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach (uchafswm o 40 o bobl), gan ganiatáu ichi ddod i adnabod eich darlithwyr a myfyrwyr eraill sy’n astudio yn Y Coleg. Gydag athroniaeth addysgol bersonol a chefnogol, cewch eich annog i gyrraedd eich potensial academaidd mwyaf posibl. Mae myfyrwyr o ystod o wledydd a chymysgedd o gefndiroedd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr ymhellach.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am fodiwlau a chyrsiau, ewch i abertawe.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth . Dylai myfyrwyr tramor (nad ydynt o’r UE) fynd i abertawe.ac.uk/y-coleg i gael rhagor o wybodaeth.
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS
BUDDSODDI A CHYLLID
MERCHED MEWN BUSNES
BUSNES
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.
Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,
byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes ac yn bwriadu ymweld â phob un ohonyn nhw rhywbryd yn y dyfodol, o’r Almaen yr holl ffordd i El Salvador. Ochr yn ochr â hyn, fe wnes i ddarganfod llawer amdanaf i fy hun, o ran fy ngallu i fod heb fy ffrindiau a’m teulu a bod yn hollol fodlon o hyd. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr dramor yn y dyfodol fyddai i achub y cyfle hwn, yn bendant. Dydw i erioed wedi difaru’r penderfyniad a bydden i’n gwneud blwyddyn arall pe bawn i’n gallu!
BETHAN WILLIAMS Blwyddyn Dramor: Ecole Superieure de Commerce de Rennes, Ffrainc
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.
MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.
Roedd modiwlau a wnes i yn y flwyddyn gyntaf a’r ail wedi caniatáu i mi ddatblygu a gwella sgiliau fel mathemateg, datrys problemau, gweithio mewn tîm a chyfathrebu’n effeithiol. Roedd cael y sgiliau hyn wedi gwella fy ngallu i ddod yn rhan o’r gweithle ac wedi golygu fy mod yn gallu gweithio ar gyflymder fy nghymheiriaid. Mae gwneud y lleoliad hwn wedi gwella llawer o sgiliau gwahanol a bydd hyn yn fy helpu gyda’r modiwlau nesaf rwyf wedi’u dewis ar gyfer fy mlwyddyn olaf. Mantais arall yw ei fod yn caniatáu i chi weld sut beth yw gweithio mewn swydd amser llawn mewn amgylchedd gwaith cystadleuol. Bydd y ‘rhagflas’ hwn yn gymorth i chi ar ôl gadael y brifysgol o ran cyflawni’r math hwn o waith a chael y meddylfryd gwaith cywir.
ALEX GRIMWOOD Lleoliad: PwC | Swydd: Cydymaith Archwilio
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL MEWN RHEOLI BUSNES
Rheolwr Brand Rheolwr Datblygu Busnes Dadansoddwr Gwybodaeth Busnes Cyfrifydd Rheolaeth Siartredig
Entrepreneur Rheolwr Digwyddiadau Cynghorydd Ariannol Partner Busnes Adnoddau Dynol Rheolwr Marchnata
Ymgynghorydd Rheoli Ymchwilydd Gweithredol Arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus
Rwy’n gweithio fel cynorthwyydd treth, ochr yn ochr â chwblhau fy nghymhwyster i ddod yn gyfrifydd siartredig. Mae’r rhan fwyaf o’m hamser yn mynd ar baratoi ffurflenni treth, ond yn aml rwy’n cael y dasg o wneud gwaith nad wyf wedi dod ar ei draws o’r blaen, sy’n sicrhau fy mod bob amser yn ehangu fy ngwybodaeth. Rwy’n mwynhau nad yw pob diwrnod yr un fath, a’r ffaith nad ydw i’n gwneud tasgau ailadroddus o ddydd i ddydd. Rwy’n dysgu drwy’r amser ac yn gwella fy ngwybodaeth, sy’n ddefnyddiol ar gyfer blynyddoedd i ddod.
LEWIS SLENNETT Cwmni: Hazlewoods | Rôl: Cynorthwyydd Treth (Hyfforddai ACA)
ENGHREIFFTIAU BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
MOLLY WYATT Cwmni: Gymshark Rôl: Lleoliad Gwaith
ANGELIKA KONSTANTINOVA Cwmni: Microsoft Rôl: Rheolwr Prosiect
MEGAN ORAM Cwmni: Disney International Rôl: Intern Marchnata
MAX INGHAM Cwmni: Microsoft Rôl: Rheolwr Rhaglen Busnes
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn anhygoel. O’r teimlad cyffrous cyntaf o fod mewn dinas newydd, yr her o addasu i system addysg newydd a llwyddo i sicrhau lle, mae pob diwrnod rwyf wedi ei dreulio yma wedi fy helpu i ddysgu rhywbeth newydd i mi a fydd yn fy helpu yn y dyfodol hefyd. Ym Mhrifysgol Abertawe, fe gewch chi gymysgedd perffaith o waith academaidd, datblygu sgiliau cyflogadwyedd a digon o hwyl. Gyda chyrsiau sy’n cymryd agwedd fwy ymarferol ac yn rhoi i ni hyblygrwydd academaidd a darlithwyr sydd bob amser yn barod i fynd yr ail filltir, rwy’n argymell Prifysgol Abertawe yn fawr i bawb sydd â diddordeb.
SAFA SALEEM Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Rwyf wedi cael amser gwych yn astudio ac yn byw yn Abertawe dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rwyf wedi gwir fwynhau astudio at fy ngradd ond rwyf hefyd yn hoffi meddwl fy mod i’n manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael. Dwi wedi bod ar ddau bwyllgor gwahanol - fel trysorydd un o dimau chwaraeon mwya’r brifysgol ac fel Llywydd y Gymdeithas Buddsoddi a Chyllid.
SAMUEL HURST Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh)
Wrth chwilio am leoliad, cefais lwyth o gymorth gan y tîm cyflogadwyedd - o geisio adnabod pa ddiwydiant neu waith a allai fod o ddiddordeb i mi i wirio a gwella fy CV. Un o’r pethau mwyaf gwerth chweil am fy interniaeth yn Google oedd y bobl y cefais gwrdd â nhw. Roedden nhw’n bobl o wahanol gefndiroedd, profiadau a diwylliannau sydd, gyda’i gilydd, yn rhannu’r un angerdd ac ymrwymiad. Felly, fe ddysgais lawer gan fy nghymheiriaid, boed yn gyd-fyfyrwyr neu gydweithwyr neu eraill yn Google. Roedd y profiad dysgu hwn yn un anhygoel.
CANISHA CHAKADYA Rheoli Busnes, BSc (Anrh)
I mi, roedd system addysg y DU yn ysgogi’r meddwl gan ei bod yn annog creadigrwydd a dysgu annibynnol. Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ddarparu’r platfform, yr adnoddau a’r cymorth delfrydol i mi gyflawni fy amcan gyrfa sylfaenol, sef ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth 1af! Roedd y ffaith i mi gyflawni rôl fel Llysgennad Myfyrwyr yn ystod fy ngradd wedi apelio at gyflogwyr gan ei fod yn dangos fy ngallu i ddysgu, addasu a chynrychioli sefydliad.
LEONARD SAVIO Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh)
Nid wyf yn ymwybodol o brifysgolion eraill sy’n cefnogi myfyrwyr gyda lleoliadau a swyddi i raddedigion fel ein prifysgol ni. Mae’r Tîm Cyflogadwyedd wedi rhoi oriau o waith i helpu myfyrwyr drwy bopeth, yn amrywio o’ch CV cyntaf i sicrhau swydd ar ôl graddio. Mae rhai o’r sgiliau a ddatblygais yn ystod fy lleoliad yn Enterprise Holdings yn cynnwys negodi, trefnu, cydnerthedd a chyfathrebu – i enwi dim ond rhai! Mae’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu wedi fy newid yn llwyr fel person ac wedi cyfrannu’n fawr at fy hyder.
ANNABEL YOUNG Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
YMCHWIL
Nodau’r Gyfadran a’r Ysgol yw cynhyrchu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd.
Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr mewn diwydiant a’n myfyrwyr trwy waith partneriaeth sefydlog a chyswllt â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i nifer o brosiectau ymchwil mawr sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio’r economi a pholisïau’r llywodraeth.
SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Llywio’r diwydiant o ran ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â marchnadoedd newydd Dylanwadu ar ddadleuon sy’n llywio polisi
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn amrywiol feysydd i helpu i lywio’r arferion mwyaf arloesol a darparu’r cwricwlwm. Mae ein harbenigedd Rheoli Busnes yn cynnwys:
Dadansoddeg Busnes Rheoli Adnoddau Dynol Marchnata
Entrepreneuriaeth Arloesedd Ymddygiad Sefydliadol
Rheolaeth Ariannol Ymgynghoriaeth Reoli Twristiaeth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: YR ATHRO BRIAN GARROD, ATHRO MARCHNATA
Mae ymchwil yr Athro Brian Garrod yn canolbwyntio ar farchnata cyrchfannau twristiaeth, yn enwedig o ran materion fel cynaliadwyedd ac ecodwristiaeth: ffurf ecolegol o dwristiaeth gynaliadwy. Mae ef wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau mewn cyfnodolion ac mae’n gyd-awdur wyth gwerslyfr ar y pwnc. Mae ymchwil bresennol Brian yn ystyried y rhwystrau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu wrth gyrchu ecodwristiaeth a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Gallwch ddarllen rhagor am ei ymchwil yma: swansea.ac.uk/cy/ ymchwil/ein-huchafbwyntiau/cyfiawnder-a-chydraddoldeb/ecodwristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil
CYFLEUSTERAU
YSTAFELL CYFRYNGAU: Mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i swît creu cynnwys fideo a digidol cwbl weithredol y gall pob myfyriwr yn yr Ysgol gael mynediad iddi. Mae ein Hystafell Gyfryngau yn amgylchedd perffaith i chi ddatblygu’r sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac sy’n dod yn fwyfwy defnyddiol yn y gweithle, megis: datrys problemau, creadigrwydd, llythrennedd cyfryngau cymdeithasol a pharodrwydd i ddysgu.
CANOLFAN CYFLOGADWYEDD: Mae myfyrwyr yn elwa o gael mynediad i Dîm
Cyflogadwyedd pwrpasol. Mae gan y tîm hanes da o gael myfyrwyr i mewn i gyflogaeth a gallant eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau yn ogystal â chynnig cefnogaeth am 5 mlynedd ar ôl graddio. MANNAU CYMDEITHASOL AC ASTUDIO I FYFYRWYR Mae gan yr Ysgol Reolaeth amrywiaeth o fannau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael rhywfaint o amser astudio tawel. Mae socedi a phorthladdoedd trydanol lluosog, ynghyd â WiFi ym mhob rhan o’r adeilad, yn cynorthwyo mynediad i adnoddau digidol. YSTAFELLOEDD DARLITHIO A SEMINAR Mae gan ein hystafelloedd addysgu y dechnoleg addysgu ddiweddaraf, gan gynnwys technoleg recordio darlithoedd, er mwyn galluogi myfyrwyr i wylio eu darlithoedd eto ar-lein. Gallwch gael eich addysgu mewn darlithfeydd sy’n gallu cynnal mwy na 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai i hyd at 30 o fyfyrwyr, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personol gyda darlithwyr a thiwtoriaid. ˆ
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personolsy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Ysgol Reolaeth Campws y Bae
Abertawe SA1 8EN Cymru, DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28Made with FlippingBook HTML5