Rheoli Busnes

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.

MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.

Roedd modiwlau a wnes i yn y flwyddyn gyntaf a’r ail wedi caniatáu i mi ddatblygu a gwella sgiliau fel mathemateg, datrys problemau, gweithio mewn tîm a chyfathrebu’n effeithiol. Roedd cael y sgiliau hyn wedi gwella fy ngallu i ddod yn rhan o’r gweithle ac wedi golygu fy mod yn gallu gweithio ar gyflymder fy nghymheiriaid. Mae gwneud y lleoliad hwn wedi gwella llawer o sgiliau gwahanol a bydd hyn yn fy helpu gyda’r modiwlau nesaf rwyf wedi’u dewis ar gyfer fy mlwyddyn olaf. Mantais arall yw ei fod yn caniatáu i chi weld sut beth yw gweithio mewn swydd amser llawn mewn amgylchedd gwaith cystadleuol. Bydd y ‘rhagflas’ hwn yn gymorth i chi ar ôl gadael y brifysgol o ran cyflawni’r math hwn o waith a chael y meddylfryd gwaith cywir.

ALEX GRIMWOOD Lleoliad: PwC | Swydd: Cydymaith Archwilio

Made with FlippingBook HTML5