Rheoli Busnes

Wrth chwilio am leoliad, cefais lwyth o gymorth gan y tîm cyflogadwyedd - o geisio adnabod pa ddiwydiant neu waith a allai fod o ddiddordeb i mi i wirio a gwella fy CV. Un o’r pethau mwyaf gwerth chweil am fy interniaeth yn Google oedd y bobl y cefais gwrdd â nhw. Roedden nhw’n bobl o wahanol gefndiroedd, profiadau a diwylliannau sydd, gyda’i gilydd, yn rhannu’r un angerdd ac ymrwymiad. Felly, fe ddysgais lawer gan fy nghymheiriaid, boed yn gyd-fyfyrwyr neu gydweithwyr neu eraill yn Google. Roedd y profiad dysgu hwn yn un anhygoel.

CANISHA CHAKADYA Rheoli Busnes, BSc (Anrh)

I mi, roedd system addysg y DU yn ysgogi’r meddwl gan ei bod yn annog creadigrwydd a dysgu annibynnol. Rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am ddarparu’r platfform, yr adnoddau a’r cymorth delfrydol i mi gyflawni fy amcan gyrfa sylfaenol, sef ennill Gradd Anrhydedd Dosbarth 1af! Roedd y ffaith i mi gyflawni rôl fel Llysgennad Myfyrwyr yn ystod fy ngradd wedi apelio at gyflogwyr gan ei fod yn dangos fy ngallu i ddysgu, addasu a chynrychioli sefydliad.

LEONARD SAVIO Rheoli Busnes (Cyllid), BSc (Anrh)

Nid wyf yn ymwybodol o brifysgolion eraill sy’n cefnogi myfyrwyr gyda lleoliadau a swyddi i raddedigion fel ein prifysgol ni. Mae’r Tîm Cyflogadwyedd wedi rhoi oriau o waith i helpu myfyrwyr drwy bopeth, yn amrywio o’ch CV cyntaf i sicrhau swydd ar ôl graddio. Mae rhai o’r sgiliau a ddatblygais yn ystod fy lleoliad yn Enterprise Holdings yn cynnwys negodi, trefnu, cydnerthedd a chyfathrebu – i enwi dim ond rhai! Mae’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu wedi fy newid yn llwyr fel person ac wedi cyfrannu’n fawr at fy hyder.

ANNABEL YOUNG Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Made with FlippingBook HTML5