YMCHWIL
Nodau’r Gyfadran a’r Ysgol yw cynhyrchu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd.
Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr mewn diwydiant a’n myfyrwyr trwy waith partneriaeth sefydlog a chyswllt â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i nifer o brosiectau ymchwil mawr sy’n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio’r economi a pholisïau’r llywodraeth.
SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Llywio’r diwydiant o ran ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â marchnadoedd newydd Dylanwadu ar ddadleuon sy’n llywio polisi
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn amrywiol feysydd i helpu i lywio’r arferion mwyaf arloesol a darparu’r cwricwlwm. Mae ein harbenigedd Rheoli Busnes yn cynnwys:
Dadansoddeg Busnes Rheoli Adnoddau Dynol Marchnata
Entrepreneuriaeth Arloesedd Ymddygiad Sefydliadol
Rheolaeth Ariannol Ymgynghoriaeth Reoli Twristiaeth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: YR ATHRO BRIAN GARROD, ATHRO MARCHNATA
Mae ymchwil yr Athro Brian Garrod yn canolbwyntio ar farchnata cyrchfannau twristiaeth, yn enwedig o ran materion fel cynaliadwyedd ac ecodwristiaeth: ffurf ecolegol o dwristiaeth gynaliadwy. Mae ef wedi cyhoeddi mwy na 50 o erthyglau mewn cyfnodolion ac mae’n gyd-awdur wyth gwerslyfr ar y pwnc. Mae ymchwil bresennol Brian yn ystyried y rhwystrau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu wrth gyrchu ecodwristiaeth a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Gallwch ddarllen rhagor am ei ymchwil yma: swansea.ac.uk/cy/ ymchwil/ein-huchafbwyntiau/cyfiawnder-a-chydraddoldeb/ecodwristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil
Made with FlippingBook HTML5