Rheoli Busnes

YSTOD O FODIWLAU DEWISOL AR GAEL I’W DEILWRA EICH ASTUDIAETHAU

RHEOLI BUSNES Os mai bod yn un o arweinwyr byd y dyfodol yw eich uchelgais, mae’r amrywiaeth eang o raddau sydd gennym yn ddelfrydol i chi. Mae gennym gysylltiadau ag achredwyr a phobl academaidd arbenigol o’r radd flaenaf, a gallwn gynnig amgylchedd ffafriol ar gyfer dysgu ac agor cyfleoedd gyrfa i chi mewn meysydd busnes, rheolaeth, twristiaeth a marchnata. Dewch i ddysgu am feysydd craidd rheoli busnes, a chael y rhyddid i ddewis modiwlau arbenigol blaengar a theilwra eich gradd yn ôl eich diddordebau.

EIN GRADDAU

N100 NN13 N103 N10F

Rheoli Busnes, BSc (Anrh) Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Dewch i archwilio sut mae’r byd corfforaethol modern yn gweithio a thrwy ein cyrsiau gradd, cewch ddatblygu’r sgiliau sy’n hanfodol i lwyddo yn y farchnad swyddi gystadleuol. Hyblygrwydd yw’r nod, ac mae ein gradd gyffredinol mewn rheoli busnes yn cynnwys nifer fawr o fodiwlau i chi ddewis o’u plith. Gallwch ddewis beth sydd fwyaf addas i chi ac adeiladu gradd sy’n cyfateb i’r yrfa o’ch dewis. Pa bynnag yrfa rydych chi am ei dilyn, bydd gradd BSc Rheoli Busnes yn eich helpu i lwyddo.

N32N N340 N33N N32F

Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Rheoli Busnes (Dadansoddeg Fusnes), BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Trwy fodiwlau arbenigol mewn dadansoddeg busnes, a sylfaen gadarn mewn egwyddorion rheoli busnes, gallwch arbenigo yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn oes y ‘data mawr’. Os mai deall elfennau deinamig byd busnes sy’n cael eu gyrru gan ddata yw eich diddordeb – o’r data y tu ôl i’r llenni ar y rhyngrwyd i ddata rheoli logisteg pibellau cyflenwi byd-eang – mae’r radd hon yn addas i chi.

Made with FlippingBook HTML5