Penodi swydd Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu’r Ystadau Cyflog cystadleuol ynghyd â buddiannau
1
Cyflwyniad gan yr Is-Ganghellor
Aberystwyth oedd Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, ac mae gennym enw da hirsefydlog am ein rhagoriaeth academaidd, am ddarparu profiad eithriadol i’r myfyrwyr, ac am ymchwil sy’n arwain y byd. Mae The Times/Sunday Times wedi dyfarnu mai Aberystwyth yw Prifysgol y Flwyddyn o holl brifysgolion Prydain yn 2019, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol - camp ddigynsail - yn ogystal â Phrifysgol y Flwyddyn yng Nghymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times i 2020. Ym mis Mehefin 2018 fe gawsom safon Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Dysgu.
nodau, ein hamcanion a’n dyheadau. Mae gan bob adran academaidd, ysgol ac adran gwasanaethau proffesiynol ran allweddol i’w chwarae yn natblygiad ein sefydliad a’i lwyddiant yn y dyfodol. Rydym yn bwriadu cryfhau’r niferoedd o fyfyrwyr sy’n cael eu denu i’r brifysgol. Nod arall yw cynyddu’r incwm a ddaw o waith ymchwil, yn ogystal â datblygu sgiliau menter busnes ein hymchwilwyr arbenigedd rydym yn chwilio amdanynt, gyda’r awdurdod a’r doniau arwain i allu gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o’r Brifysgol, byddwn i wrth fy modd o gael clywed gennych chi. Diolch ichi eto am eich diddordeb. a’n cysylltiadau â byd busnes. Os oes gennych chi’r medrau a’r
Fel y gwelwch o’r ddogfen hon, mae ein gwerthoedd craidd, sef traddodiad, creadigrwydd a’n hunaniaeth Gymreig yn rhan annatod o Aberystwyth. Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes o ddarparu addysg ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac rydym yn awyddus i atgyfnerthu hynny ymhellach ar draws ein disgyblaethau, ar y cyd â chryfhau ein darpariaeth drwy’r Saesneg. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi mynd drwy gyfnod o newid sylweddol ac rydym nawr ar fin cychwyn ar bennod newydd gyffrous. Wrth inni edrych tuag at ein pen-blwydd yn 150 oed, rydym wrthi’n chwilio am unigolion dawnus a all ysbrydoli pobl eraill i weithio gyda’i gilydd yn greadigol a chydweithredol - tuag at sefydliad sy’n gynaliadwy yn y tymor hir ac yn gallu cynnal ein safle arbennig yn y sector. Mae ein Cynllun Strategol newydd yn adeiladu ar sylfaen cryfderau hanesyddol y Brifysgol ac yn datgan ein
Yr Athro Elizabeth Treasure
2
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ein Hanes
Dan arweiniad Hugh Owen, un o Gymry Llundain, aeth carfan fechan selog ati o’r 1850au ymlaen i godi digon o arian, trwy gyfraniadau cyhoeddus a phreifat, i sefydlu coleg o statws prifysgol yng Nghymru.
Prosiect hynod uchelgeisiol oedd hwn ac ym 1872 agorodd y Brifysgol ei drysau, gyda llond dwrn o ddarlithwyr a dim ond 26 myfyriwr mewn adeilad a oedd, ar yr adeg honno, westy heb gael ei orffen ar lan y môr (yr ‘Hen Goleg’ erbyn heddiw). Yn ystod y degawd cyntaf, wynebodd y Brifysgol lawer her a allasai fod wedi dod â hi i ben. Trwy haelioni rhai noddwyr unigol a thrwy ymgyrchoedd yn galw ar werin Cymru am gymorth, llwyddwyd i gadw drysau’r Brifysgol ar agor ac, yn bwysicach oll efallai, fe enillodd y coleg le pwysig ym meddyliau a chalonnau’r Cymry. Testun balchder mawr yw’r ffaith bod y Brifysgol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i addysg menywod, gan ei bod hi ymhlith y sefydliadau cyntaf i dderbyn merched yn fyfyrwyr. Ers y dyddiau cynnar hynny, aeth Prifysgol Aberystwyth o nerth i nerth ac mae ganddi bellach dros 8,500 o fyfyrwyr a 2,000 o staff. Wrth i’r sefydliad dyfu, symudodd y prif gampws o’r Hen Goleg ar lan y môr i safle ar Riw Penglais.
Mae’r safle hwn, gyda’i diroedd a dirluniwyd yn gelfydd, yn mwynhau golygfeydd godidog dros dref Aberystwyth ac arfordir Bae Ceredigion. Mae ar y campws adeiladau newydd, gan gynnwys canolfannau mawr i’r celfyddydau a’r gwyddorau, neuaddau preswyl, Canolfan Gelfyddydau ardderchog ac adnoddau chwaraeon o’r safon uchaf. Mae’r Hen Goleg yn dal i fod yn rhan hanfodol o’r Brifysgol ac mae cynlluniau cyffrous yn mynd rhagddynt i adnewyddu’r adeilad eiconig, sydd yn drysor o’n treftadaeth, gan ei fod ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o bensaernïaeth yr adfywiad Gothig ym Mhrydain. Cyn i’r Brifysgol ddathlu 150 o flynyddoedd o hanes yn 2022, ein nod yw creu canolfan ddiwylliant a threftadaeth fywiog, a fydd yn gyrchfan i bobl leol, yn ogystal ag ymwelwyr o bob cwr, i ddefnyddio a mwynhau arddangosfeydd, mannau rhannu dysg a gwybodaeth, a chanolfan a fydd yn sbardun i gychwyn busnesau creadigol.
3
4
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Cyflawniadau ac ystadegau allweddol
Yn falch o fod Yn y blynyddoedd diweddar mae Prifysgol Aberystwyth wedi llwyddo i ennill nifer o wobrau nodedig, denu llawer o ganmoliaeth, a dringo yn y tablau:
Un o’r prifysgolion gorau yn y DU am fodlonrwydd myfyrwyr
Prifysgol y flwyddyn yng Nghymru
Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru
Gwobr Aur
mewn The Times / Sunday Times Good University Guide (2020)
yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr 2018 (TEF)
mewn The Times / Sunday Times Good University Guide (2018 a 2019)
(Arowlg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2020).
5
95% o ymchwil y Brifysgol o safon gydnabyddir yn rhyngwladol neu’n uwch
97% o’n graddedigion mewn swyddi o fewn 6 mis
Gwobr Arian Safon Iechyd Corfforaethol
Ymysg 100 cyflogwr gorau’r DU
Y gyntaf yn y DU
(Awdurdod Ystatedgau Addysg Uwch, HESA, 2018).
(Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle gan Stonewall (2018 a 2019)
Iechyd Cyhoeddus Cymru
i ennill statws Prifysgol Ddi-blastic cydnabyddedig (2018)
6
7
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Dysgu sy’n ysbrydoli
Does unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy’n cynnig y cyfuniad unrhyw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol, a champws sy’n cyfuno’r adnoddau diweddaraf, Canolfan Gelfyddydau fywiog, a’r cyfle i ddefnyddio un o’r pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain. Ger bryniau’r Canolbarth ac ar lan y môr, mae Aberystwyth yn ganolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol.
Saif Fferm Penglais ar dirwedd hardd, yn cynnig llety i fyfyrwyr sydd ymhlith y gorau ym Mhrydain, gyda golygfeydd godidog dros lannau Bae Ceredigion. O fis Medi 2020 ymlaen, ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol, byddwn yn croesawu myfyrwyr, rhai newydd a rhai sy’n dychwelyd fel ei gilydd, i neuadd hanesyddol Pantycelyn, adeilad eiconig a godwyd yn y 1950au. Fe’i pennwyd yn llety i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn 1973, ac mae neuadd Pantycelyn wedi ennill lle yn hanes y genedl am ei chyfraniad cyfoethog i ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Mae bywyd y myfyrwyr yn cael ei gyfoethogi ymhellach gan yr Undeb Myfyrwyr bywiog, sy’n rhedeg mwy na 100 o glybiau a chymdeithasau. Mae gennym ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws, lle mae pwll nofio, campfa, wal ddringo, a dosbarthiadau lles a ffitrwydd. Mae’r Ganolfan Gelfyddydau ar y campws ymhlith y mwyaf ym Mhrydain, yn cynnwys theatr, mannau arddangos a pherfformio, ynghyd â sinema fach, bar a chaffi. Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes hir o waith dysgu ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn gwirionedd, mae lefel y ddarpariaeth yma ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith y mwyaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhugl eu Cymraeg yn ogystal â’r rhai llai hyderus neu ddysgwyr ar draws ystod eang o bynciau, o amaeth i astudiaethau plentyndod, o wleidyddiaeth i wyddor anifeiliaid. Mae Cynllun Strategol y Brifysgol i 2018-2023 yn gosod ein hamcanion i’r pum mlynedd nesaf, wrth inni symud tuag at ddathlu 150 o flynyddoedd a’r tu hwnt: https://www.aber.ac.uk/cy/strategicplan/
Dros 150 o flynyddoedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi meithrin cymuned academaidd gref a chanddi fwy na 2,000 o staff a rhyw 8,500 o fyfyrwyr o bedwar ban y byd. Mae gennym 18 adran academaidd, wedi’u trefnu’n dair Cyfadran: sef y gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau. Mae ein nod yn glir: darparu addysg ac ymchwil sy’n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. Ein campws ger glan y môr yw canolbwynt bywyd y myfyrwyr, ynghyd â thref Aberystwyth, cymuned sydd yn ddiogel ac agos-atoch ond eto hefyd yn eangfrydig. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i 2019 - sef arolwg o hanner miliwn o israddedigion ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau - wedi dangos mai myfyrwyr Aberystwyth sydd ymhlith y rhai mwyaf bodlon drwy Brydain i gyd. Mae’r cyfraddau uchel hyn o foddhad ymhlith ein myfyrwyr yn adlewyrchu safon uchel yr addysg a gynigiwn yma, yn ogystal â’r buddsoddiad diweddar, gwerth mwy na £100m, i gyfoethogi ac ehangu ymhellach ar ein hadnoddau dysgu a llety gwych. Mae’r darlithfeydd a’r mannau dysgu ym mhob rhan o’r Brifysgol wedi’u hailwampio a’u huwchraddio, ac mae modd recordio’r holl ddarlithoedd i atgyfnerthu’r dysgu ac i helpu’r myfyrwyr â’u hadolygu. Drwy dargedu ein buddsoddi, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa ar adnoddau dysgu o safon fyd-eang, a’u bod yn meithrin yn sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn eu bywydau. Mae gennym ystod eang o lety i fyfyrwyr ac yn 2015, ar ôl buddsoddi £45m, fe wnaethom groesawu myfyrwyr i’n llety newydd sbon yn Fferm Penglais am y tro cyntaf.
8
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ymchwil sy’n creu effaith
Mae ymchwil ac arloesi wrth galon Prifysgol Aberystwyth. Maent yn dyfnhau ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth, maent yn cyfoethogi ein gwaith dysgu ac maent o fudd gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl Cymru a’r byd ehangach. Mae ymchwil yn wirioneddol bwysig i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n sail i’n haddysgu ac yn cyfoethogi profiadau dysgu. Mae myfyrwyr yn cael eu dysgu gan staff sy’n ein helpu i ddeall ein byd yn well ac sy’n ymestyn ffiniau ein gwybodaeth. Mae’r gymdeithas hefyd yn elwa yn sgil ein hymchwil. Mae ein hymchwil yn effeithio ar yr economi, ar wella’r amgylchedd, ar bolisi cyhoeddus ac ar fywyd diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn eangfrydig, ac yn creu cyswllt â chymunedau. A thrwy gyfrwng partneriaethau masnachol, mae’n helpu i ddatblygu cynnyrch a thechnegau newydd.
O dyfu cnydau bioynni Miscanthus i astudio hanes canoloesol ac archwilio’r blaned Mawrth, mae Aberystwyth wedi hen ennill enw da fel prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil.
Ymhlith ein darlithwyr mae academyddion sydd ar flaen y gad yn eu priod feysydd, ac a fydd yn rhannu â chi y syniadau a’r darganfyddiadau diweddaraf yn eu meysydd pwnc.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (FfRhY 2014), barnwyd bod 95% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol ac rydym yn parhau i feithrin ein cryfderau hanesyddol wrth i ni hefyd wthio ffiniau newydd yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth.
9
10
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ein rhan yn y Gymuned
Mae gan y Brifysgol berthynas agos â’r gymuned, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae wedi ymroi i ddatblygu gweithgareddau ei chenhadaeth gyhoeddus. Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn yr economi; mae’n gyflogwr pwysig ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r rhanbarth, yn ariannol ac yn ddiwylliannol. Mae llawer o’i chymeriad unigryw yn deillio o gyfuniad o natur agored ac amrywiaeth ei staff a’i myfyrwyr, a’r amgylchedd diogel a’r ymdeimlad o gymuned a rennir gan y Brifysgol, y dref a’r bröydd cyfagos. Canolfan y Celfyddydau
Canolfan Gerdd Aberystwyth Mae Canolfan Gerdd y Brifysgol yn hybu rhaglen eang i berfformwyr a gwrandawyr fel ei gilydd. O’i chartref yn yr Hen Goleg, mae’r Ganolfan yn darparu adnoddau i fyfyrwyr a’r gymuned leol. Mae ganddi sawl piano, organ drydan â dau chwaraefwrdd, telyn, harpsicord ac organ siambr, yn ogystal ag offerynnau taro ac offerynnau eraill. Mae’r Llyfrgell Gerdd yn cadw casgliad helaeth o gerddoriaeth ddalen, sydd yn enwedig o gryf o ran cerddoriaeth siambr a cherddorfaol. Mae llyfrau cerddoriaeth i’w chael yn Llyfrgell Hugh Owen - ac wrth gwrs, mae adnoddau anferth y Llyfrgell Genedlaethol gerllaw hefyd. Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ymyl campws Penglais y Brifysgol, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain, a chanddi’r hawl i dderbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn cael manteisio ar adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol am ddim: 6 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, 5 miliwn o ddelweddau digidol ac adnoddau electronig, 30,000 llawysgrif brin, 1.5 miliwn map, a 7 miliwn troedfedd o ffilm, 15km o archifau unigryw, a llawer mwy.
Mae Canolfan y Celfyddydau, sydd wrth galon ein campws ym Mhenglais, ymhlith y canolfannau celfyddydau mwyaf ym Mhrydain, ac mae’n denu mwy na 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn o’r dref a’r siroedd cyfagos. Mae’r ganolfan, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac wedi’i chydnabod yn ganolfan flaenllaw i’r celfyddydau. Mae ganddi raglen gelfyddydol eang - yn cynhyrchu ac yn cyflwyno - ym mhob ffurf gelfyddydol, gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol. Mae adnoddau’r ganolfan yn cynnwys neuadd gyngherddau (y Neuadd Fawr), theatr (Theatr y Werin), stiwdio berfformio, mannau arddangos, sinema fach, siop lyfrau, bar a chaffi. Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, sydd ar gampws Penglais, ar agor i’r myfyrwyr, y staff a’r gymuned ehangach. Bob blwyddyn, mae’n croesawu mwy na 250,000 o bobl sy’n dod i ddefnyddio ei hystod eang o adnoddau dan do ac awyr agored. Maent yn cynnwys campfa â’r holl gyfarpar diweddaraf, pwll nofio a sawna, wal ddringo, maes chwarae 3G pob-tywydd, cyrtiau sboncen a badminton, yn ogystal â llu o ddosbarthiadau ffitrwydd a lles. Mae gan y Brifysgol hefyd gaeau chwaraeon ym Mlaendolau a Chaeau’r Ficerdy yn Llanbadarn.
11
Canolfan y Celfyddydau, Campws Penglais.
12
13
Byw a gweithio yn Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref farchnad hanesyddol gyda golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Mae ei phoblogaeth dros 13,000, ac mae ganddi hefyd tuag 8,500 o fyfyrwyr. Mae Aberystwyth yn sefyll ar lan Bae Ceredigion ac fe’i disgrifir yn aml fel prifddinas ddiwylliannol Cymru. Yn ogystal â’r Brifysgol, mae Aberystwyth yn gartref i nifer o sefydliadau o bwysigrwydd cenedlaethol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
Trosolwg Mae glân y môr Aberystwyth yn gyrchfan i ymwelwyr a’r trigolion lleol fel ei gilydd. Mae’r prom llydan yn lle poblogaidd i gerdded, rhedeg, sglefrio a beicio - ac i ymlacio ger y lli. Ewch am dro ar hyd 2,000 metr y prom - o un pen i’r llall - ac fe welwch amrywiaeth o brif olygfeydd a safleoedd Aberystwyth. O’r harbwr a’r marina yn y de i’r Graig-Lais yn y gogledd, cewch fwynhau awyr iach awelon y môr a golygfeydd panoramig ar Fae Ceredigion. Os byddwch yn lwcus, efallai y cewch gip ar ddolffiniaid a llamhidyddion. Tai ac ysgolion I deuluoedd, mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd, ac mae mwy o ysgolion yn y bröydd cyfagos yng Ngheredigion. Mae ystod o eiddo ar gael, o’r dref a’i maestrefi, i gartrefi ar lan y môr ac yng nghefn gwlad.
Diwylliant ac Adloniant Mae gan Aberystwyth yr holl gyfleusterau y disgwyliech eu gweld mewn tref ffyniannus - dewis eang o siopau, marchnad ffermwyr, bwytai sydd wedi ennill gwobrau, bywyd nos bywiog a diwylliant caffis. Dyma dref sy’n estyn croeso, ac yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’n gymuned ddwyieithog fywiog lle mae’r Gymraeg i’w chlywed yn bob dydd, yn ogystal â’r Saesneg ac ieithoedd eraill.
14
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Buddiannau ac adnoddau i’n gweithwyr
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith lle y mae’r staff yn cael eu gweld yn adnodd gwerthfawr ac yn cael eu hysbrydoli yn eu gwaith. I gefnogi’r ymrwymiad hwnnw, mae’r Brifysgol yn darparu ystod eang o fuddiannau i’w gweithwyr ac yn adolygu’r cynnig hwn yn rheolaidd.
Buddiannau contractiol Buddiannau contractiol Ceir gweld ein graddfeydd cyflog yn: aber.ac.uk/cy/hr/salary-scales/
Buddiannau Iechyd a Lles Iechyd Galwedigaethol Cynorthwyo’r staff i gyd â materion iechyd yn y gweithle. Ceir rhagor
o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/hr/
Cynllun pensiwn deniadol Ceir rhagor o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/financial-information/ pension/ Gwyliau blynyddol Hawl i nifer hael o wyliau blynyddol, sef 27 diwrnod, yn ogystal â dyddiadau cau a gwyliau’r banc. Buddiannau sy’n Ystyriol o Deuluoedd Teuluoedd Mae ein contractau cyflogaeth yn cynnwys absenoldebau teuluol, sef absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, rheini ac absenoldeb rheini ar y cyd. Gweithio’n Hyblyg Gall pob aelod o staff wneud cais am drefniadau gweithio hyblyg. Cynllun Gwyliau Blynyddol Ychwanegol Caiff y staff wneud cais i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol, gan dynnu’r gost o’r cyflog dros 6 neu 12 mis.
Cwnsela i’r Staff Mae gwasanaeth Carefirst yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol a diduedd, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim pryd bynnag y bo’i angen. Does dim angen i chi ofyn am ganiatâd eich rheolwr na’r sefydliad cyn cysylltu â Carefirst. Ceir rhagor o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/hr/employment-information/eap/ Canolfan Chwaraeon Mae Aelodaeth Platinwm am £25 yn rhoi’r hawl ddigyfyngiad i’r staff ddefnyddio’r holl ddosbarthiadau ac adnoddau, gan gynnwys yr ystafell ffitrwydd, yr ystafell pwysau rhydd, y pwyll nofio a’r sawna. Ceir rhagor o wybodaeth am ein hadnoddau chwaraeon yn: aber.ac.uk/cy/sportscentre/ Y cynllun beicio i’r gwaith Mae’r cynllun hwn yn golygu bod aelodau cymwys o’r staff yn cael llogi beiciau ac offer diogelwch cysylltiedig yn ddi-dreth. Ceir rhagor o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/supporting-staff/lifestyle/lifestyle-choice/ cyclescheme/
15
Buddiannau Dysgu a Datblygu
Buddiannau Eraill Cerdyn Aber
Dysgu a Datblygu Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn cynllunio a darparu llawer o’r ddarpariaeth ddatblygu i’r staff addysgol a phroffesiynol yn y Brifysgol. Mae’r Ganolfan yn darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP), yn ogystal â nifer o raglenni astudio achrededig. Mae’r Ganolfan hefyd yn chwarae rhan yn y trefniadau datblygu sefydliadol ac yn rheoli’r Cynllun Cydnabod ar gyfer dyfarnu cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch. Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgol y Graddedigion i drefnu rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth - sef darpariaeth gyfunol o sgiliau a datblygu, sy’n canolbwyntio ar anghenion ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Ceir rhagor o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/lteu/welcome Cyrsiau Cymraeg Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Canolfan Dysgu Cymraeg y Brifysgol yn cynnig cyrsiau am ddim i ddechreuwyr ac yn darparu cyrsiau i siaradwyr sydd wedi cyrraedd lefel ganolig neu uwch.
Mae’ch Cerdyn Aber yn gerdyn talu y gellir ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r campws, yn cynnig gostyngiadau ar brisiau’r bwytai a chaffis. Mae’ch Cerdyn Aber hefyd yn rhoi i chi fynediad i adeiladau ac adnoddau megis y Ganolfan Chwaraeon a Llyfrgell Hugh Owen. Undebau Llafur Mae’r Brifysgol yn cydweithio â’r tri undeb llafur a gydnabyddir (UCU, UNISON ac Unite). Caiff staff ddewis ddod yn aelod o Undeb Llafur a manteisio ar yr amrywiaeth o wasanaethau a chymorth maent yn eu darparu.
16
17
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd
Mae portffolio ystadau Prifysgol Aberystwyth yn un o’r mwyaf amrywiol ymhlith prifysgolion campws y DU. O henebion hanesyddol i ffermydd i adeiladau newydd ac arloesol sydd wedi ennill gwobrau, mae gan y Brifysgol ystâd 84,000m2 sy’n rhychwantu cyfleusterau dysgu, ymchwil, arloesi, hamdden, swyddfa a chwaraeon yn ogystal â phortffolio llety preswyl sy’n cynnwys tua 3000 o leoedd gwely. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer buddsoddiadau uchelgeisiol yn y dyfodol, gan gynnwys; dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg, cynllun i ddatblygu calon y campws, yn ogystal ag adnewyddu’r ystâd academaidd a phreswyl yn sylweddol. Gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch y campws yma: Taith rithwir | Prifysgol Aberystwyth
Mae ein campysau a’n cyfleusterau yn alluogwr pwysig, ac er bod ein hystâd yn cynnig adnoddau o safon fyd-eang a lleoliadau di-guro, mae angen buddsoddi parhaus i gefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, hyd at 2031 a thu hwnt. Y cam nesaf ar y daith gyffrous hon yw llunio cynllun gweithredu, a fydd yn cyfleu gweledigaeth hirdymor glir a chydlynol ar gyfer dyfodol ystâd y brifysgol fel ei bod yn ategu ein blaenoriaethau strategol yn y modd mwyaf effeithiol. Ein nod yw creu cynllun gweithredu sydd wedi’i blethu’n ofalus i wead y dref, i ddarparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb sy’n ei ddefnyddio. Mae’r weledigaeth hon yn cynnwys mannau a pharthau wedi’u curadu’n sensitif ledled y campws a fydd yn cynyddu’r ymdeimlad o gymuned ac yn cynnig adnoddau awyr agored i ddod ynghyd ar gyfer digwyddiadau neu i ymlacio. Gydag ymrwymiad i’n hymagwedd amgylcheddol tuag at adeiladau newydd ac adeiladau wedi’u hadnewyddu, byddwn yn cynyddu ein cynaliadwyedd a’n mannau cyhoeddus.
Dros y degawd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweithredu ar Strategaeth Ystadau drawsnewidiol sydd wedi gwella ystâd ac amgylchoedd y Brifysgol yn sylweddol. Mae cyfle nawr i ailddiffinio’r Strategaeth Ystadau yng nghyd- destun Cynllun Strategol y Brifysgol am 2018 -2023 (a thu hwnt) ac i greu strategaeth sy’n parhau i arloesi a datblygu cyfeiriad y Brifysgol i’r dyfodol, i gyflawni ei huchelgais allweddol o gael ei chydnabod yn Brifysgol sy’n darparu addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. Mae Strategaeth Ystadau 2021 - 2031 yn cysylltu â strategaethau allweddol y Brifysgol, gan gynnwys; Addysgu a Dysgu, Ymchwil ac Arloesi, Digidol a Chynaliadwyedd, i gefnogi’r gweithgareddau craidd hyn ac i sicrhau bod pob man a ddarperir yn addas i’r diben (math cywir o le), o ansawdd uchel ac yn y lleoliad priodol. Dangosir y bydd y Brifysgol, trwy gyfuno’r gofod a ddefnyddir gan y Brifysgol, trwy wella’r defnydd o le ac o bosib pennu parthau i weithgareddau penodol, yn dod yn fwy effeithlon. Hefyd, bydd yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol a ddaw o ddefnyddio gofod yn effeithiol yn rhoi cyfle i’r Brifysgol dargedu buddsoddiadau mewn modd strategol.
18
Disgrifiad Swydd
19
Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu’r Ystadau Cyflog cystadleuol ynghyd â buddiannau Dyddiad cau - 2 Mai 2021
Trosolwg Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Cyfarwyddwr Ystadau, Adnoddau a Llety, a bydd yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddatblygu portffolio ystadau ac adeiladau’r Brifysgol. Prif agweddau’r swydd fydd rheoli’r strategaeth ystadau ac uwch-gynllunio, cyflawni rhaglenni cyfalaf, rheoli gofod a rheoli eiddo. Bydd deiliad y swydd yn dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Ystadau, Adnoddau a Llety ac felly bydd yn gweithredu yn y rhinwedd honno yn absenoldeb y Cyfarwyddwr. Mae’r swydd hon felly yn gyfle gwych i weithiwr proffesiynol ym maes ystadau ddatblygu gyrfa mewn swydd arweiniol yn gweithio ar draws portffolio ystadau deniadol y brifysgol, ar adeg pan fo cynlluniau mawr ar y gweill, mewn rhan brydferth o’r DU.
20
Rhestr fannwl o’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau:
11. Gweithio gyda chydweithwyr, arwain y gwaith o ddatblygu tîm a strwythur cydlynol, gan annog gweithio ar draws swyddogaethau ac i fwy nag un Cyfarwyddiaeth. 12. Darparu arweiniad ar bob lefel o’r Brifysgol, ar bob agwedd ar y Rhaglenni Gwella Ystadau ac Adeiladu i gefnogi Cyfadrannau a Chyfarwyddiaethau i ddiwallu anghenion myfyrwyr/staff/defnyddwyr gwasanaethau. 13. Sicrhau bod y timau Rheoli Prosiectau a Rheoli Ystadau yn darparu gwasanaethau eithriadol i randdeiliaid y Brifysgol. 14. Dirprwyo ar ran y Cyfarwyddwr Ystadau, Adnoddau a Llety yn ôl y galw gan gymryd cyfrifoldeb am roi adroddiadau i’r Grŵp Gweithredol, arwain y Gyfarwyddiaeth Ystadau, Adnoddau a Llety ehangach, datblygu a chynnal perthynas â phartneriaid allanol a chynrychioli’r Brifysgol fel Swyddog Arweiniol Ystadau yn ôl y galw. 15. Cynrychioli’r Brifysgol mewn fforymau cyhoeddus, ar y campws a thu hwnt, yn ôl yr angen. 16. Fel aelod o Dîm Arwain y Gyfarwyddiaeth, datblygu swyddogaeth Cyfarwyddiaeth Ystadau, Adnoddau a Llety ‘gorau yn y sector’: datblygu staff i gyflawni eu potensial, cynyddu boddhad staff a chadw mwy o staff, a meithrin agwedd gadarnhaol tuag at gyflawni targedau uchelgeisiol mewn amgylchedd a gyfyngir yn gynyddol gan gostau. 17. Datblygu a meithrin ethos o ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gwella’n barhaus ac effeithlonrwydd ym mhob gweithgaredd yn ymwneud ag Ystadau. 18. Adolygu adnoddau a’r gymysgedd sgiliau yn barhaus gan ystyried anghenion y sefydliad ac arwain newid sefydliadol.
1. Rheoli ac ysgogi’r tîm Rheoli Prosiectau a Rheoli Ystadau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol mewnol sy’n rhychwantu disgyblaethau rheoli prosiectau, rheoli gofod a rheoli eiddo. 2. Rheoli’r gwaith o ddatblygu strategaeth ystadau ac uwch-gynllunio ystadau. Cyfrannu at y strategaeth ystadau ehangach ac is-strategaethau fel Dirprwy Gyfarwyddwr. 3. Rheoli’r broses cynllunio ystadau gan sicrhau bod yr ystâd yn addas i’r diben er mwyn sicrhau rhagoriaeth mewn ymchwil ac addysgu. 4. Rheoli materion strategol yn ymwneud ag ystadau, gan gynnwys asesu opsiynau a dadansoddi ymarferoldeb cynlluniau datblygu a chydweithio â phartneriaid datblygu. 5. Rheoli’r rhaglen gyfalaf sy’n cynnwys prosiectau adnewyddu a chodi adeiladau newydd sydd yn amrywio’n gyffredinol o ran eu gwerth o £250k i fwy na £30m. 6. Rheoli swyddogaethau a phrosesau mewnol rheoli prosiect er mwyn darparu’r canlyniadau gorau yn y sector am y gwerth gorau am arian. 7. Rheoli mân raglenni gwaith a rhaglenni gwella’r ystadau, sy’n cynnwys prosiectau adnewyddu, cynnal a chadw ac addasu, lle bydd prosiectau unigol yn amrywio o ran eu gwerth o £25k i £250k. 8. Goruchwylio’r swyddogaeth rheoli gofod ac eiddo er mwyn sicrhau bod gofod yn cael ei ddefnyddio a’i ddatblygu’n effeithlon ac yn briodol. 9. Trwy reoli’r Rheolwr Cydymffurfio, sicrhau cydymffurfiaeth â’r holl ofynion statudol, rheoliadol a sefydliadol a’r arferion gorau a argymhellir. 10. Hybu diwylliant diogelwch o fewn y tîm a chyda’r holl gyflenwyr i sicrhau bod amgylchedd diogel ac iach yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr.
21
Manyleb yr Unigolyn
Meini Prawf Hanfodol
Cymwysterau: • Cymhwyster proffesiynol perthnasol ym maes adeiladu neu mewn pwnc sy’n gysylltiedig ag ystadau. Profiad, sgiliau a gwybodaeth: • Profiad o arwain a rheoli rhaglenni a phrosiectau cyfalaf ar raddfa sylweddol • Profiad o lunio rhaglenni ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol a nifer o brosiectau • Profiad o arwain neu gyfrannu at strategaeth ystadau a rhaglenni cyfalaf • Profiad o uwch-gynllunio mewn amgylchedd ystadau • Profiad o reoli datblygu gan gynnwys dichonoldeb, asesu opsiynau a chynllunio • Gallu a phrofiad i arwain tîm amlddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol ystadau • Dealltwriaeth a phrofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus • Profiad o reoli eiddo ac asedau Nodweddion Personol: • Arweinydd naturiol • Gallu cydweithredu ag eraill • Pwyslais ar waith tîm • Hyblygrwydd a meddwl agored • Y gallu deallusol i weithredu ar lefel uwch • Sgiliau ardderchog wrth ymdrin ag eraill, cyfathrebu, a rheoli rhanddeiliaid • Gallu gweithio o fewn amgylchedd amwys sy’n newid yn aml • Gwydn • Meddyliwr strategol a gweithredol • Gallu gweithredu fel cynghorydd dibynadwy • Gallu gweithredu fel ymgynghorydd mewnol • Gallu sicrhau bod eich ymddygiad personol yn cyd-daro â gwerthoedd yr Is- adran • Lefel uchel o hygrededd personol a phroffesiynol ar lefel uwch reolwyr. • Profiad o arwain ymgynghorwyr allanol a phartneriaid cyflenwi • Y gallu i weithredu’n llwyddiannus mewn sefydliad mawr • Profiad o weithio ar lefel uwch.
22
Manyleb yr Unigolyn
Meini Prawf Dynunol
Cymwysterau: • Cymhwyster uwchraddedig mewn maes perthnasol • Cymhwyster perthnasol ym maes rheoli prosiectau neu reoli rhaglenni • Cymhwyster arwain a rheoli. Profiad, sgiliau a gwybodaeth: • Profiad o reoli a chynllunio gofod • Profiad o fod yn gyfrifol am raglen mân waith • Profiad o adeiladau a chyfleusterau addysg uwch, gofal iechyd neu ymchwil ar gampws prifysgol • Profiad o weithredu fel Dirprwy Gyfarwyddwr neu Ddirprwy Bennaeth Gwasanaeth.
23
24
Sut i wneud cais
I drefnu trafodaeth gyfrinachol i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n cynghorwyr: Ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon mae’r Brifysgol yn cael ei chynorthwyo gan y ymgynghorwyr chwilio The Management Recruitment Group (MRG).
Ben Duffill E-bost: ben.duffill@mrgpeople.co.uk Ffôn: 07976 125 010 neu David Craven: E-bost: david.craven@mrgpeople.co.uk Ffôn: 07932 717 438
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymgeiswyr sydd ag anableddau. Rydym yn annog ymgeiswyr benywaidd yn benodol i ymgeisio am y swydd hon gan nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar y lefel hon yn ein sefydliad ar hyn o bryd. O dan y system bwyntiau, mae’r swydd hon yn bodloni’r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus. Sylwch mai dim ond y Dystysgrif Nawdd ar gyfer unrhyw fisâu cyflogaeth y bydd y Brifysgol yn ei chefnogi, ac ni fydd yn cynorthwyo i dalu’r fisa cyflogaeth ar gyfer yr ymgeisydd sy’n cael cynnig y swydd, a/neu unrhyw ddibynyddion. Sefydliad Dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Dylai ceisiadau gynnwys CV cynhwysfawr (dim mwy na phedair tudalen) a llythyr eglurhaol (dim mwy na dwy dudalen). Dylid anfon ceisiadau at - ben.duffill@mrgpeople.co.uk a
david.craven@mrgpeople.co.uk. Dyddiad cau - 2 Mai 2021.
25
Adeilad Hugh Owen: A drannau Ieithoedd Modern Cyfraith a Throseddeg, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Ysgol Fusnes Aberystwyth Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg
26
Campws Penglais
Adeilad Llandinam: Adrannau Cyfrfiadureg Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Canolfan Saesneg Rhyngwladol
Adeilad Penbryn: Derbynfa y Brifysgol Gwasanaethau Masnachol Cyllid Ymchwil, Busnes ac Arloesi
Canolfan Ddelweddu: Adnoddau Dynol Llywodraethiant Swyddfa Is-Ganghellor
Adeilad Cledwyn: Cofrestrfa Academaidd Cyfathrebu a Denu Myfyrwyr Cynllunio Datblygu a Chysylltiadau Alumni Marchnata a Denu Myfyrwyr
Llety: Neaudd Pantycelyn
Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig .
Adeilad G
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Adrannau
Llyfrgell G
Canolfan Chwaraeon
Llety: Fferm Penglais Pentre Jane Morgan
27
Llety: Cwrt Mawr Trefloyne Rosser a Rosser G
Adeilad P5: Adrannau Astudiaethau Gwybodaeth, Seicoleg, Ysgol Addysg.
Hwb Cwrt Mawr: Ystadau, Cyfelusterau a Phreswylfeydd
Adeilad Parry Williams Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaid Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Llyfrgell Hugh Owen
Canolfan y Celfyddydau
Undeb y Myfyrwyr Gwasanaethau Gyfaroedd
Gwyddorau Ffisegol: Ffiseg a Mathemateg Gwyddorau Ffisegol
Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol: Adrannau Hanes a Hanes Cymru Gwleidyddiaeth Rhyngwladol
Adeilad Carwyn James: Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Vet Hub
28
Strwythur Academiadd
Is-Ganghellor
Cyfadran Busnes a’r Gwyddorau Ffisegol (Dirprwy Is-Ganghellor ar Gyfadran gyda chyfrifoldebau arbennig am Tsieina)
Cyfadaran Gwyddorau Daear a Bywyd (Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran a Chydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chynaliadwyedd)
Cyfadran y Celfydyddau a’r Gwyddorau Cymdeithasol (Dirprwy Is-Ganghellor ar Gyfadran a ddarpariaeth yr iaith Gymraeg)
Canolfan y Celfyddydau Ysgol Gelf Ysgol Addysg Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Adran y Gyfraith a Throseddeg Adran Ieithoedd Modern Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Canolfan Saesneg Rhyngwladol Canolfan Gerdd
Ysgol Fusnes Aberystwyth Adran Cyfrifiadureg Adran Astudiaethau Gwybodaeth Adran Mathemateg Adran Ffiseg
Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Adran Seicoleg Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
29
Strwythur Gweinyddol
Is-Ganghellor
Dirprwy Is- Ganghellor
Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol
Dirprwy Is- Ganghellor Dysgu, Addysgu
Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi
a Phrofiad Myfyrwyr
Cofrestrfa Academaidd Marchanta a Denu Myfyrwyr Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd
Ymchwil, Busnes ac Arloesi Swyddfa Derbyn Graddedigion Addysg Uwch Cymru Brwsel Campws Arloesi a Menter Busnes
Datblygu a Chysylltiadau Alumni Canolfan Gwasanaethau’r Cymraeg Dysgu Cymraeg Tim Prosiect yr Hen Coleg
Gwasanaethau Masnachol Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd Cyllid Adoddau Ddynol
Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Llywodraethiant Swyddfa’r Is- Ganghellor
Gwasanaeth Gwybodaeth Cynllunio
30
Aberdeen
Caeredin
Glasgow
Lerpwl Manceinion
Birmingham
Aberystwyth
Llundain
Caerdydd
Bryste
Prifysgol Aberystwyth Aberystwyth, Cymru, SY23 3BF
+44 (0) 1970 628555 hr@aber.ac.uk
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32Made with FlippingBook Learn more on our blog