Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu'r Ystadau

8

Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ymchwil sy’n creu effaith

Mae ymchwil ac arloesi wrth galon Prifysgol Aberystwyth. Maent yn dyfnhau ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth, maent yn cyfoethogi ein gwaith dysgu ac maent o fudd gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl Cymru a’r byd ehangach. Mae ymchwil yn wirioneddol bwysig i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n sail i’n haddysgu ac yn cyfoethogi profiadau dysgu. Mae myfyrwyr yn cael eu dysgu gan staff sy’n ein helpu i ddeall ein byd yn well ac sy’n ymestyn ffiniau ein gwybodaeth. Mae’r gymdeithas hefyd yn elwa yn sgil ein hymchwil. Mae ein hymchwil yn effeithio ar yr economi, ar wella’r amgylchedd, ar bolisi cyhoeddus ac ar fywyd diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn eangfrydig, ac yn creu cyswllt â chymunedau. A thrwy gyfrwng partneriaethau masnachol, mae’n helpu i ddatblygu cynnyrch a thechnegau newydd.

O dyfu cnydau bioynni Miscanthus i astudio hanes canoloesol ac archwilio’r blaned Mawrth, mae Aberystwyth wedi hen ennill enw da fel prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil.

Ymhlith ein darlithwyr mae academyddion sydd ar flaen y gad yn eu priod feysydd, ac a fydd yn rhannu â chi y syniadau a’r darganfyddiadau diweddaraf yn eu meysydd pwnc.

Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (FfRhY 2014), barnwyd bod 95% o’r ymchwil a gyflwynwyd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth o safon ryngwladol ac rydym yn parhau i feithrin ein cryfderau hanesyddol wrth i ni hefyd wthio ffiniau newydd yn ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth.

Made with FlippingBook Learn more on our blog