Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu'r Ystadau

10

Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ein rhan yn y Gymuned

Mae gan y Brifysgol berthynas agos â’r gymuned, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae wedi ymroi i ddatblygu gweithgareddau ei chenhadaeth gyhoeddus. Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn yr economi; mae’n gyflogwr pwysig ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r rhanbarth, yn ariannol ac yn ddiwylliannol. Mae llawer o’i chymeriad unigryw yn deillio o gyfuniad o natur agored ac amrywiaeth ei staff a’i myfyrwyr, a’r amgylchedd diogel a’r ymdeimlad o gymuned a rennir gan y Brifysgol, y dref a’r bröydd cyfagos. Canolfan y Celfyddydau

Canolfan Gerdd Aberystwyth Mae Canolfan Gerdd y Brifysgol yn hybu rhaglen eang i berfformwyr a gwrandawyr fel ei gilydd. O’i chartref yn yr Hen Goleg, mae’r Ganolfan yn darparu adnoddau i fyfyrwyr a’r gymuned leol. Mae ganddi sawl piano, organ drydan â dau chwaraefwrdd, telyn, harpsicord ac organ siambr, yn ogystal ag offerynnau taro ac offerynnau eraill. Mae’r Llyfrgell Gerdd yn cadw casgliad helaeth o gerddoriaeth ddalen, sydd yn enwedig o gryf o ran cerddoriaeth siambr a cherddorfaol. Mae llyfrau cerddoriaeth i’w chael yn Llyfrgell Hugh Owen - ac wrth gwrs, mae adnoddau anferth y Llyfrgell Genedlaethol gerllaw hefyd. Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ymyl campws Penglais y Brifysgol, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain, a chanddi’r hawl i dderbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn cael manteisio ar adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol am ddim: 6 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, 5 miliwn o ddelweddau digidol ac adnoddau electronig, 30,000 llawysgrif brin, 1.5 miliwn map, a 7 miliwn troedfedd o ffilm, 15km o archifau unigryw, a llawer mwy.

Mae Canolfan y Celfyddydau, sydd wrth galon ein campws ym Mhenglais, ymhlith y canolfannau celfyddydau mwyaf ym Mhrydain, ac mae’n denu mwy na 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn o’r dref a’r siroedd cyfagos. Mae’r ganolfan, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac wedi’i chydnabod yn ganolfan flaenllaw i’r celfyddydau. Mae ganddi raglen gelfyddydol eang - yn cynhyrchu ac yn cyflwyno - ym mhob ffurf gelfyddydol, gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol. Mae adnoddau’r ganolfan yn cynnwys neuadd gyngherddau (y Neuadd Fawr), theatr (Theatr y Werin), stiwdio berfformio, mannau arddangos, sinema fach, siop lyfrau, bar a chaffi. Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, sydd ar gampws Penglais, ar agor i’r myfyrwyr, y staff a’r gymuned ehangach. Bob blwyddyn, mae’n croesawu mwy na 250,000 o bobl sy’n dod i ddefnyddio ei hystod eang o adnoddau dan do ac awyr agored. Maent yn cynnwys campfa â’r holl gyfarpar diweddaraf, pwll nofio a sawna, wal ddringo, maes chwarae 3G pob-tywydd, cyrtiau sboncen a badminton, yn ogystal â llu o ddosbarthiadau ffitrwydd a lles. Mae gan y Brifysgol hefyd gaeau chwaraeon ym Mlaendolau a Chaeau’r Ficerdy yn Llanbadarn.

Made with FlippingBook Learn more on our blog