13
Byw a gweithio yn Aberystwyth
Mae Aberystwyth yn dref farchnad hanesyddol gyda golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Mae ei phoblogaeth dros 13,000, ac mae ganddi hefyd tuag 8,500 o fyfyrwyr. Mae Aberystwyth yn sefyll ar lan Bae Ceredigion ac fe’i disgrifir yn aml fel prifddinas ddiwylliannol Cymru. Yn ogystal â’r Brifysgol, mae Aberystwyth yn gartref i nifer o sefydliadau o bwysigrwydd cenedlaethol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth.
Trosolwg Mae glân y môr Aberystwyth yn gyrchfan i ymwelwyr a’r trigolion lleol fel ei gilydd. Mae’r prom llydan yn lle poblogaidd i gerdded, rhedeg, sglefrio a beicio - ac i ymlacio ger y lli. Ewch am dro ar hyd 2,000 metr y prom - o un pen i’r llall - ac fe welwch amrywiaeth o brif olygfeydd a safleoedd Aberystwyth. O’r harbwr a’r marina yn y de i’r Graig-Lais yn y gogledd, cewch fwynhau awyr iach awelon y môr a golygfeydd panoramig ar Fae Ceredigion. Os byddwch yn lwcus, efallai y cewch gip ar ddolffiniaid a llamhidyddion. Tai ac ysgolion I deuluoedd, mae Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o ysgolion cynradd a dwy ysgol uwchradd, ac mae mwy o ysgolion yn y bröydd cyfagos yng Ngheredigion. Mae ystod o eiddo ar gael, o’r dref a’i maestrefi, i gartrefi ar lan y môr ac yng nghefn gwlad.
Diwylliant ac Adloniant Mae gan Aberystwyth yr holl gyfleusterau y disgwyliech eu gweld mewn tref ffyniannus - dewis eang o siopau, marchnad ffermwyr, bwytai sydd wedi ennill gwobrau, bywyd nos bywiog a diwylliant caffis. Dyma dref sy’n estyn croeso, ac yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau diwylliannol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’n gymuned ddwyieithog fywiog lle mae’r Gymraeg i’w chlywed yn bob dydd, yn ogystal â’r Saesneg ac ieithoedd eraill.
Made with FlippingBook Learn more on our blog