Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu'r Ystadau

15

Buddiannau Dysgu a Datblygu

Buddiannau Eraill Cerdyn Aber

Dysgu a Datblygu Mae’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd yn cynllunio a darparu llawer o’r ddarpariaeth ddatblygu i’r staff addysgol a phroffesiynol yn y Brifysgol. Mae’r Ganolfan yn darparu rhaglen flynyddol o sesiynau, digwyddiadau a gweithdai Datblygu Proffesiynol Parhaus (DPP), yn ogystal â nifer o raglenni astudio achrededig. Mae’r Ganolfan hefyd yn chwarae rhan yn y trefniadau datblygu sefydliadol ac yn rheoli’r Cynllun Cydnabod ar gyfer dyfarnu cymrodoriaethau’r Academi Addysg Uwch. Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio’n agos ag Ysgol y Graddedigion i drefnu rhaglen Ymchwilwyr Aberystwyth - sef darpariaeth gyfunol o sgiliau a datblygu, sy’n canolbwyntio ar anghenion ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd. Ceir rhagor o wybodaeth yn: aber.ac.uk/cy/lteu/welcome Cyrsiau Cymraeg Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Canolfan Dysgu Cymraeg y Brifysgol yn cynnig cyrsiau am ddim i ddechreuwyr ac yn darparu cyrsiau i siaradwyr sydd wedi cyrraedd lefel ganolig neu uwch.

Mae’ch Cerdyn Aber yn gerdyn talu y gellir ei ddefnyddio ym mhob rhan o’r campws, yn cynnig gostyngiadau ar brisiau’r bwytai a chaffis. Mae’ch Cerdyn Aber hefyd yn rhoi i chi fynediad i adeiladau ac adnoddau megis y Ganolfan Chwaraeon a Llyfrgell Hugh Owen. Undebau Llafur Mae’r Brifysgol yn cydweithio â’r tri undeb llafur a gydnabyddir (UCU, UNISON ac Unite). Caiff staff ddewis ddod yn aelod o Undeb Llafur a manteisio ar yr amrywiaeth o wasanaethau a chymorth maent yn eu darparu.

Made with FlippingBook Learn more on our blog