Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu'r Ystadau

17

Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd

Mae portffolio ystadau Prifysgol Aberystwyth yn un o’r mwyaf amrywiol ymhlith prifysgolion campws y DU. O henebion hanesyddol i ffermydd i adeiladau newydd ac arloesol sydd wedi ennill gwobrau, mae gan y Brifysgol ystâd 84,000m2 sy’n rhychwantu cyfleusterau dysgu, ymchwil, arloesi, hamdden, swyddfa a chwaraeon yn ogystal â phortffolio llety preswyl sy’n cynnwys tua 3000 o leoedd gwely. Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer buddsoddiadau uchelgeisiol yn y dyfodol, gan gynnwys; dod â bywyd newydd i’r Hen Goleg, cynllun i ddatblygu calon y campws, yn ogystal ag adnewyddu’r ystâd academaidd a phreswyl yn sylweddol. Gallwch fynd ar daith rithwir o amgylch y campws yma: Taith rithwir | Prifysgol Aberystwyth

Mae ein campysau a’n cyfleusterau yn alluogwr pwysig, ac er bod ein hystâd yn cynnig adnoddau o safon fyd-eang a lleoliadau di-guro, mae angen buddsoddi parhaus i gefnogi ein cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, hyd at 2031 a thu hwnt. Y cam nesaf ar y daith gyffrous hon yw llunio cynllun gweithredu, a fydd yn cyfleu gweledigaeth hirdymor glir a chydlynol ar gyfer dyfodol ystâd y brifysgol fel ei bod yn ategu ein blaenoriaethau strategol yn y modd mwyaf effeithiol. Ein nod yw creu cynllun gweithredu sydd wedi’i blethu’n ofalus i wead y dref, i ddarparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb sy’n ei ddefnyddio. Mae’r weledigaeth hon yn cynnwys mannau a pharthau wedi’u curadu’n sensitif ledled y campws a fydd yn cynyddu’r ymdeimlad o gymuned ac yn cynnig adnoddau awyr agored i ddod ynghyd ar gyfer digwyddiadau neu i ymlacio. Gydag ymrwymiad i’n hymagwedd amgylcheddol tuag at adeiladau newydd ac adeiladau wedi’u hadnewyddu, byddwn yn cynyddu ein cynaliadwyedd a’n mannau cyhoeddus.

Dros y degawd diwethaf, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweithredu ar Strategaeth Ystadau drawsnewidiol sydd wedi gwella ystâd ac amgylchoedd y Brifysgol yn sylweddol. Mae cyfle nawr i ailddiffinio’r Strategaeth Ystadau yng nghyd- destun Cynllun Strategol y Brifysgol am 2018 -2023 (a thu hwnt) ac i greu strategaeth sy’n parhau i arloesi a datblygu cyfeiriad y Brifysgol i’r dyfodol, i gyflawni ei huchelgais allweddol o gael ei chydnabod yn Brifysgol sy’n darparu addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. Mae Strategaeth Ystadau 2021 - 2031 yn cysylltu â strategaethau allweddol y Brifysgol, gan gynnwys; Addysgu a Dysgu, Ymchwil ac Arloesi, Digidol a Chynaliadwyedd, i gefnogi’r gweithgareddau craidd hyn ac i sicrhau bod pob man a ddarperir yn addas i’r diben (math cywir o le), o ansawdd uchel ac yn y lleoliad priodol. Dangosir y bydd y Brifysgol, trwy gyfuno’r gofod a ddefnyddir gan y Brifysgol, trwy wella’r defnydd o le ac o bosib pennu parthau i weithgareddau penodol, yn dod yn fwy effeithlon. Hefyd, bydd yr arbedion effeithlonrwydd sylweddol a ddaw o ddefnyddio gofod yn effeithiol yn rhoi cyfle i’r Brifysgol dargedu buddsoddiadau mewn modd strategol.

Made with FlippingBook Learn more on our blog