7
Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth Dysgu sy’n ysbrydoli
Does unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy’n cynnig y cyfuniad unrhyw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol, a champws sy’n cyfuno’r adnoddau diweddaraf, Canolfan Gelfyddydau fywiog, a’r cyfle i ddefnyddio un o’r pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain. Ger bryniau’r Canolbarth ac ar lan y môr, mae Aberystwyth yn ganolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol.
Saif Fferm Penglais ar dirwedd hardd, yn cynnig llety i fyfyrwyr sydd ymhlith y gorau ym Mhrydain, gyda golygfeydd godidog dros lannau Bae Ceredigion. O fis Medi 2020 ymlaen, ar ôl gwaith adnewyddu sylweddol, byddwn yn croesawu myfyrwyr, rhai newydd a rhai sy’n dychwelyd fel ei gilydd, i neuadd hanesyddol Pantycelyn, adeilad eiconig a godwyd yn y 1950au. Fe’i pennwyd yn llety i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn 1973, ac mae neuadd Pantycelyn wedi ennill lle yn hanes y genedl am ei chyfraniad cyfoethog i ddiwylliant a chymdeithas Cymru. Mae bywyd y myfyrwyr yn cael ei gyfoethogi ymhellach gan yr Undeb Myfyrwyr bywiog, sy’n rhedeg mwy na 100 o glybiau a chymdeithasau. Mae gennym ein Canolfan Chwaraeon ein hunain ar y campws, lle mae pwll nofio, campfa, wal ddringo, a dosbarthiadau lles a ffitrwydd. Mae’r Ganolfan Gelfyddydau ar y campws ymhlith y mwyaf ym Mhrydain, yn cynnwys theatr, mannau arddangos a pherfformio, ynghyd â sinema fach, bar a chaffi. Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes hir o waith dysgu ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg. Mewn gwirionedd, mae lefel y ddarpariaeth yma ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ymhlith y mwyaf yng Nghymru. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr rhugl eu Cymraeg yn ogystal â’r rhai llai hyderus neu ddysgwyr ar draws ystod eang o bynciau, o amaeth i astudiaethau plentyndod, o wleidyddiaeth i wyddor anifeiliaid. Mae Cynllun Strategol y Brifysgol i 2018-2023 yn gosod ein hamcanion i’r pum mlynedd nesaf, wrth inni symud tuag at ddathlu 150 o flynyddoedd a’r tu hwnt: https://www.aber.ac.uk/cy/strategicplan/
Dros 150 o flynyddoedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi meithrin cymuned academaidd gref a chanddi fwy na 2,000 o staff a rhyw 8,500 o fyfyrwyr o bedwar ban y byd. Mae gennym 18 adran academaidd, wedi’u trefnu’n dair Cyfadran: sef y gwyddorau, y gwyddorau cymdeithasol a’r celfyddydau. Mae ein nod yn glir: darparu addysg ac ymchwil sy’n ysbrydoli mewn amgylchedd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. Ein campws ger glan y môr yw canolbwynt bywyd y myfyrwyr, ynghyd â thref Aberystwyth, cymuned sydd yn ddiogel ac agos-atoch ond eto hefyd yn eangfrydig. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr i 2019 - sef arolwg o hanner miliwn o israddedigion ym mlwyddyn olaf eu hastudiaethau - wedi dangos mai myfyrwyr Aberystwyth sydd ymhlith y rhai mwyaf bodlon drwy Brydain i gyd. Mae’r cyfraddau uchel hyn o foddhad ymhlith ein myfyrwyr yn adlewyrchu safon uchel yr addysg a gynigiwn yma, yn ogystal â’r buddsoddiad diweddar, gwerth mwy na £100m, i gyfoethogi ac ehangu ymhellach ar ein hadnoddau dysgu a llety gwych. Mae’r darlithfeydd a’r mannau dysgu ym mhob rhan o’r Brifysgol wedi’u hailwampio a’u huwchraddio, ac mae modd recordio’r holl ddarlithoedd i atgyfnerthu’r dysgu ac i helpu’r myfyrwyr â’u hadolygu. Drwy dargedu ein buddsoddi, rydym yn ymrwymo i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa ar adnoddau dysgu o safon fyd-eang, a’u bod yn meithrin yn sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn eu bywydau. Mae gennym ystod eang o lety i fyfyrwyr ac yn 2015, ar ôl buddsoddi £45m, fe wnaethom groesawu myfyrwyr i’n llety newydd sbon yn Fferm Penglais am y tro cyntaf.
Made with FlippingBook Learn more on our blog