Rhagoriaeth Barhaus: Strategaeth ar gyfer Twf 2023-2026

YMCHWIL AC ARLOESI

AMCAN 1: RHAGORIAETH YMCHWIL

AMCAN 2: YMCHWIL ÔL-RADDEDIG

PARHAU I FUDDSODDI MEWN MEYSYDD SEFYDLEDIG O RAGORIAETH YMCHWIL A CHRYFHAU PARTNERIAETHAU A CHYDWEITHIO RHYNGWLADOL I WELLA EIN HÔL TROED YMCHWIL BYD-EANG A HYRWYDDO EIN HARBENIGEDD. Nod yr amcan hwn yw ennill cyllid ymchwil mawreddog i dyfu ein heffaith ymchwil ymhellach. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu recriwtio staff academaidd i gynllunio olyniaeth ein prif feysydd ymchwil ac adeiladu màs critigol.

SICRHAU BOD YMCHWILWYR ÔL- RADDEDIG (PGRS) YN FFYNNU O FEWN Y GYFADRAN, GAN ADEILADU CARFANNAU O FYFYRWYR SY’N ASTUDIO GWYDDONIAETH FIOFEDDYGOL, GWYDDOR DATA, SEICOLEG A GOFAL CYMDEITHASOL. Nod yr amcan hwn yw ysbrydoli ein hymchwilwyr i gyflawni canlyniadau ymchwil rhagorol a datblygu gyrfaoedd rhagorol yn y byd academaidd, diwydiant a thu hwnt.

Fel y cydnabyddir gan berfformiad cryf iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, mae gan y Gyfadran enw rhagorol am ymchwil a arweinir gan ymchwilwyr o safon fyd-eang sy’n arwain at welliannau iechyd i gleifion, i ddiwydiant a’r cyhoedd yn ehangach. Gwneir ymchwil yn nhair ysgol academaidd y Gyfadran (Meddygaeth, Seicoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol) gyda themâu trawsbynciol sefydledig yn cael eu hwyluso trwy arweinydd ymchwil pob ysgol, a’i rôl yw sicrhau diwylliant ymchwil rhyngddisgyblaethol bywiog yn y Gyfadran. Mae ymchwil yn y Gyfadran yn ymestyn o ymchwil awyr las i fecanweithiau biolegol sylfaenol i wyddoniaeth fiofeddygol, seicoleg drwodd i nanodechnoleg, astudiaethau delweddu a throsiadol sy’n cynnwys cleifion, datblygu gwasanaethau’r GIG a chydweithio diwydiannol. Mae ein llwyddiant wedi’i ategu gan gyfleusterau ymchwil heb eu hail y Gyfadran. Wedi’u lleoli ar draws adeiladau modern

o’r radd flaenaf, mae ein labordai a’n cyfleusterau ymchwil yn cynnwys yr offer diweddaraf. Mae ein hymchwil hefyd yn cael ei ategu gan gyllid seilwaith HCRW a chyfranogiad mewn rhaglenni ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol. Mae uchafbwyntiau ymchwil diweddar nodedig y Gyfadran yn cynnwys canolfan gwyddor data Health Data Research UK, y Ganolfan Cofnodion Data Gweinyddol a ariennir gan yr ESRC, rhaglenni ymchwil nanotocsicoleg Multiple Horizon 2020/ Horizon Europe, y rhaglen ymchwil lipidomeg a ariennir gan y BBSRC a’r Ganolfan Heneiddio Arloesol (CIA) a gefnogir gan HCRW a Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe (SCHE). Mae’r Gyfadran yn sefydliad academaidd uchelgeisiol, gydag amcanion ac ymrwymiadau clir yn y chwe maes allweddol: Rhagoriaeth Ymchwil; Ymchwil Ôl-raddedig; Arloesedd ac Effaith; Yr Amgylchedd a Diwylliant Ymchwil, Enw Da Byd-eang a Moeseg a Llywodraethu Ymchwil.

Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:

Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:

1. Adeiladu ar berfformiad rhagorol y REF yn 2021 i arddangos cryfderau ymchwil y Gyfadran trwy ddatblygu targed strategol REF2028 yn seiliedig ar gynnydd mewn ymchwil gradd 4*. 2. Recriwtio academyddion ar ddechrau eu gyrfa ar feysydd academaidd ymchwil uwch i frwydro yn erbyn demograffeg academaidd sydd ar hyn o bryd yn Athro-trwm. 3. Targedu cynnydd mewn cipio grantiau i sicrhau’r cyllid sydd ei angen i yrru ein rhaglenni ymchwil blaenllaw yn eu blaen, gan gadw mewn cof gorbenion ymchwil ac amrywiaeth o ffrydiau incwm. Byddwn yn mesur ein llwyddiant yn yr amcan hwn drwy, allbynnau/effaith 4* cronedig, metrigau incwm grant dros y 5 mlynedd nesaf, amrywiaeth yr incwm a sicrhawyd ac yn enwedig llwyddiant cipio grant ECR

1. Recriwtio’r myfyrwyr gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a gweithio gyda nhw fel unigolion i deilwra anghenion hyfforddi. 2. Sicrhau cwblhau amserol a monitro dilyniant blynyddol myfyrwyr ôl-raddedig trwy weithio’n agos gyda myfyrwyr a goruchwylwyr i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl. 3. Darparu goruchwylwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n llawn cymhelliant i fyfyrwyr wireddu eu huchelgeisiau a gwneud y mwyaf o brofiad myfyrwyr.

Byddwn yn mesur llwyddiant yn yr amcan hwn trwy fetrigau sy’n gysylltiedig â niferoedd myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, cyfraddau cwblhau a sefydlu cyfleoedd DTP

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026

10

11

Made with FlippingBook flipbook maker