AMCAN 5: ENW DA BYD-EANG
AMCAN 6: MOESEG YMCHWIL A LLYWODRAETHU
HYRWYDDO’R GYFADRAN YN FYD-EANG A GOSOD EIN HUNAIN FEL CYRCHFAN RYNGWLADOL FLAENLLAW AR GYFER YMCHWIL GOFAL IECHYD, SEICOLEGOL A BIOFEDDYGOL. Nod yr amcan hwn yw denu staff, myfyrwyr, cydweithwyr a buddsoddiad o bob rhan o’r byd i gryfhau enw da byd-eang y Gyfadran fel cyrchfan ar gyfer ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf.
SICRHAU EIN BOD YN CADW AT BOLISÏAU A RHEOLIADAU’R DU YNGHYLCH YMCHWIL SY’N CYNNWYS CLEIFION A CHYFRANOGWYR. BYDDWN YN YMDRECHU I GYDYMFFURFIO 100% Â GOFYNION HYFFORDDI AR-LEIN AR GYFER MOESEG A LLYWODRAETHU. Nod yr amcan hwn yw sicrhau bod cywirdeb ymchwil yn cael ei flaenoriaethu o fewn y Gyfadran er mwyn amddiffyn y Brifysgol rhag risg i enw da.
Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:
Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:
1. Defnyddio ein hallbynnau ymchwil, a chyfleoedd lledaenu eraill (e.e. cyflwyniadau cynadledda) i hyrwyddo’r ymchwil a wneir yn Abertawe yn rhyngwladol, gan gynnwys cyllid penodol i fynychu cynadleddau rhyngwladol blaenllaw. 2. Recriwtio staff yn rhyngwladol a defnyddio ein myfyrwyr ymchwil rhyngwladol a staff i weithredu fel llysgenhadon dros Abertawe yn eu gwledydd cartref. 3. Targedu’r safleoedd QS i wella sefyllfa’r Gyfadran a Phrifysgol Abertawe ar y raddfa fyd-eang. Byddwn yn mesur llwyddiant yn ein henw da byd-eang trwy fetrigau sy’n ymwneud â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig rhyngwladol, partneriaid ymchwil rhyngwladol a safleoedd QS.
1. Mynnu bod ein staff a’n myfyrwyr yn cynnal y safonau uchaf o foeseg ymchwil er mwyn amddiffyn y sefydliad rhag risgiau i enw da. 2. Hyfforddi ein staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mewn materion moeseg ymchwil, uniondeb a llywodraethu. 3. Grymuso pwyllgor Uniondeb a Llywodraethu Moeseg Ymchwil y Gyfadran (REIG) i gynnal safonau, adrodd am achosion o dorri amodau a sicrhau cydymffurfiaeth yn ddiwyd. Byddwn yn mesur llwyddiant ein strategaeth moeseg a llywodraethu drwy fonitro cyfraddau cydymffurfio â hyfforddiant a dogfennu niferoedd a difrifoldeb unrhyw doriadau a godir drwy bwyllgor REIG y Gyfadran.
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026
14
15
Made with FlippingBook flipbook maker