Rhagoriaeth Barhaus: Strategaeth ar gyfer Twf 2023-2026

CRYNODEB

AMCAN 3: RHAGORIAETH ADDYSGU A CHWRICWLA

AMCAN 4: ENW DA AC ALLGYMORTH BYD- EANG PARHAU Â’R ENW DA RHYNGWLADOL CRYF AM GYNHYRCHU GRADDEDIGION RHAGOROL YM MEYSYDD MEDDYGAETH, IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL, A GWYDDOR BYWYD AC EHANGU EIN CYFLEOEDD ADDYSG I WEITHWYR PROFFESIYNOL. Nod yr amcan hwn yw datblygu partneriaethau cydweithredol strategol a pherthnasoedd o fuddion dwyochrog i Abertawe ar raddfa genedlaethol a rhyngwladol gan wella ein henw da yn fyd-eang.

PARHAU I YMGYSYLLTU AG ADDYSGWYR ERAILL, YN FEWNOL, YN ALLANOL, YN LLEOL AC YN RHYNGWLADOL, I ADNABOD A MABWYSIADU’R ARFERION ADDYSGU GORAU I SICRHAU BOD CYFRES O RAGLENNI ARLOESOL YN CAEL EU DATBLYGU AR GYFER Y DYFODOL. Nod yr amcan hwn yw nodi cyfleoedd i ddatblygu rhaglenni astudio a dysgu trwy brofiad a sicrhau bod arferion gorau yn cael eu gwreiddio yn ein haddysgu.

Mae’r strategaeth hon yn gosod cyfeiriad ac uchelgais y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Byddwn yn parhau i gael ein cydnabod fel canolfan ragoriaeth sy’n arwain y byd ym maes ymchwil ac addysg, gan sicrhau gwelliannau mewn iechyd, llesiant a chyfoeth i Gymru a’r byd. Er mwyn cyflawni’r strategaeth hon, byddwn yn datblygu cyfres o gynlluniau gweithredu sy’n canolbwyntio ar Ymchwil ac Arloesi a Dysgu ac Addysgu. Bydd ein tîm cyfoethog ac amrywiol o staff o bob rhan o’r Gyfadran, mewn partneriaeth â’n myfyrwyr, deiliaid diddordeb a’n cydweithwyr, yn galluogi cyflawni’r cynlluniau hyn.

Trwy ymchwil ac addysgu rhagorol ar draws ein tair ysgol, byddwn yn parhau i ddarparu rhagoriaeth ar lwyfan domestig a byd-eang. Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar iechyd, llesiant a datblygiad parhaus ein cymunedau staff a myfyrwyr. Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor. Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ar draws y byd. I ymuno â ni, neu i ddarganfod mwy, ewch i: abertawe.ac.uk/meddygaeth-iechyd- gwyddor-bywyd

Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:

Wrth gyflawni’r amcan hwn byddwn yn:

1. Cynnal ein hymrwymiad cryf i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu’n ystyrlon ag arweinwyr ymchwil rhagorol yn rhyngwladol, a chael eu haddysgu ganddynt. 2. Cyflwyno rhaglenni astudio cyffrous sy’n defnyddio meddwl creadigol wrth ddefnyddio gofod corfforol a rhithwir i wneud y mwyaf o brofiad myfyrwyr ac ymrwymo i ddefnyddio technolegau digidol yn greadigol wrth addysgu ac asesu. 3. Darparu adborth amserol o ansawdd uchel i fyfyrwyr ar eu gwaith crynodol a ffurfiannol.

1. Datblygu rhaglenni o’r ansawdd byd-eang uchaf ar y cyd â deiliaid diddordeb allanol i ddatblygu graddedigion sy’n gallu mynd i’r afael â materion o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. 2. Cryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol a chynyddu nifer y cyfleoedd dysgu rhyngwladol i fyfyrwyr, gan gynnwys rhaglenni astudio cydweithredol a chyfleoedd symudedd myfyrwyr. 3. Datblygu partneriaethau rhyngwladol sy’n caniatáu cyfleoedd i arbenigedd y Gyfadran gael ei rannu a’i wella ar lwyfan byd-eang. Byddwn yn mesur llwyddiant trwy dwf mewn argaeledd a chyfranogiad mewn rhaglenni astudio dramor a chyfnewid yn ogystal â gwelliant yn y safle yn y byd QS.

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Byddwn yn mesur llwyddiant drwy fetrigau craidd yr NSS o gwmpas ‘Yr addysgu ar fy nghwrs’, ‘adnoddau dysgu’ ac ‘asesu ac adborth’ ynghyd â metrigau mewn cydrannau penodol o’r tablau cynghrair cenedlaethol.

Strategaeth ar gyfer Twf: 2023-2026

18

19

Made with FlippingBook flipbook maker