SAIL Magazine 2024 [Welsh]

The annual Swansea University magazine for alumni and friends

SAIL CYLCHGRAWN CYN-FYFYRWYR 2024

MAE CANOLFAN CELFYDDYDAU TALIESIN YN DATHLU EI PHEN-BLWYDD YN 40 OED TUDALEN 04 ENNILL TALEB GWERTH £100 AR GYFER FULTON OUTFITTERS TUDALEN 11 CYSYLLTU DIWYLLIANNAU DRWY THEATR: SAFBWYNT TSIEINEAIDD TUDALEN 22

LLAIS ANGERDDOL DROS Y GWIR A NEWID TUDALEN 08

@QUISTAR

14 Sgwrs gyda’r gantores soprano o fri Rebecca Evans 18 Streetsnap:

Lansio Ap Cyntaf O’i Fath I Feithrin Gwydnwch Y Gymuned I Gasineb

05

Gwobr Dylan Thomas

01 Croeso gan yr Is-ganghellor 02 Newyddion 04 Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed 05 Gwobr Dylan Thomas 06 Proffil - Andy Bush 08 Proffil - Ayo Mairo-Ese 10 SU Connect - Cadwch mewn cysylltiad 11 Amser Cystadleuaeth 12 Digwyddiadau 14 Cymrawd er Anrhydedd - Rebecca Evans 16 Proffil - Liam Chivers 18 Ymchwil 21 Podlediadau gyda Jon Doyle 22 Proffil - Renxiao (Richard) Zhang 24 Proffil - Elin Rhys 26 Pytiau Proffil Cyn-fyfyrwyr 28 Cymunroddion

YMUNWCH Â’R SGWRS Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @swansalumni @Swansea_Alumni @swanseaunialumn i

Ymunwch â Swansea Uni Connect, y platfform rhwydweithio personol a phroffesiynol unigryw i gyn-fyfyrwyr Abertawe swanseauniconnect.com Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy e-bostio alumni@abertawe.ac.uk. Hoffem glywed gennych!

Os oes gennych unrhyw newyddion neu eitem i’w chynnwys yn rhifyn nesaf Sail neu yn ein cylchlythyrau, mae croeso i chi gysylltu â ni: alumni@abertawe.ac.uk Am wybodaeth bellach ar yr hyn yr ydym yn ei wneud, ewch i: abertawe.ac.uk

Golygwyr: Gerard Kennedy, Rachel Thomas, Shannon Black ac Angelia Fitzgerald Dyluniad gan: IconCreativeDesign.com

Gellir ailgylchu’r cylchgrawn hwn. Daw’r holl bapur o ffynonellau FSC ac rydym yn defnyddio inc wedi’i seilio ar lysiau i’w argraffu. Mae unrhyw garbon ychwanegol o gynhyrchu’r cylchgrawn yn cael ei gydbwyso ag Ymddiriedolaeth Tir y Byd. www.worldlandtrust.org

CROESO CYNNES I’R RHIFYN HWN O SAIL, EIN CYLCHGRAWN I GYN- FYFYRWYR. Ers i Brifysgol Abertawe gael ei sefydlu ym 1920, mae arwyddair ein Prifysgol, (‘Gweddw crefft heb ei dawn’) wedi crynhoi ein hymrwymiad parhaus i’r celfyddydau a’r gwyddorau. Heddiw, rydym yn falch o hyrwyddo a dathlu traddodiad diwylliannol cyfoethog ein sefydliad, ein rhanbarth a Chymru, ac i roi sylw i’r dreftadaeth barhaus hon yn y rhifyn hwn. Mae Prifysgol Abertawe wrth wraidd arlwy diwylliannol ein rhanbarth. Eleni, rydym yn dathlu 40 o flynyddoedd ers i ni agor Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar Gampws Parc Singleton, sydd, drwy ei rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd, wedi ysbrydoli cenedlaethau o’n myfyrwyr, yn ogystal â darparu lle croesawgar i’n cymuned ehangach. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae hefyd yn ganolbwynt gweithgareddau a digwyddiadau diwylliannol ac mae rhai o’n casgliadau hirsefydlog, gan gynnwys Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton, yn cynnwys gwledd o adnoddau sy’n taflu goleuni ar hanes unigryw a diwylliant cyfoethog Cymru a’i dinasyddion. Ein nod hefyd yw dathlu treftadaeth ddiwylliannol dinas Abertawe a’n rhanbarth ehangach ar y llwyfan byd-eang. Fel prifysgol a sefydlwyd yn nhref enedigol Dylan Thomas, mae’n bleser mawr gennym ddathlu ei gyfraniad pwysig at y

celfyddydau bob blwyddyn drwy Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, un o’r gwobrau llenyddol uchaf eu parch yn y byd i lenorion ifanc ledled y byd. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o’n cymuned amrywiol a rhyngwladol o fyfyrwyr a staff, ac rydym yn croesawu ac yn annog y cyfleoedd sylweddol ar gyfer cyfnewid diwylliannol sy’n cyd-fynd â hyn. Rydym yn falch o hyrwyddo iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru i holl aelodau ein cymuned, y mae llawer ohonynt yn frwdfrydig i ddysgu mwy am ein cenedl a’i hanes. Yn ogystal â’n cymdeithasau myfyrwyr niferus, rydym yn falch o hyrwyddo statws y Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r iaith drwy ein Hacademi Hywel Teifi, sy’n annog myfyrwyr o bob oedran a chefndir addysgol, diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol i ddysgu Cymraeg neu i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach. Mae’n bleser mawr gennym fod cynifer o’n cyn- fyfyrwyr yn parhau â’r dreftadaeth hirsefydlog hon drwy wneud cyfraniad mor bwerus at y celfyddydau a diwylliant, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r cipolwg hwn ar y rhai sy’n goleuo’r byd â’u hymdrechion creadigol, o ganu opera o fri rhyngwladol i newyddiaduraeth arobryn.

Rydym yn cydnabod cyfraniadau llawer o’n cyn-fyfyrwyr, ar draws pob maes yn ein cymdeithas, ac edrychwn ymlaen at gynnwys llawer mwy o’ch cyflawniadau yn rhifynnau’r dyfodol o’r cylchgrawn hwn.

Yr Athro Paul Boyle Is-ganghellor

01

Darllenwch yr erthygl lawn yn swan.ac/YmgynghoryddBridgeAI

Bydd yr Athro Siraj Shaikh,o’r Adran Gyfrifiadureg,yn gweithio ochr yn ochr ag Innovate UK, Digital Catapult, Y Ganolfan Hartree, a’r Sefydliad Safonau Prydeinig i ddarparu cyngor gwyddonol annibynnol, a mentora i sefydliadau sy’n ceisio mabwysiadu datrysiadau deallusrwydd artiffisial neu ddatblygu eu galluogrwydd a’u capasiti ym maes deallusrwydd artiffisial. Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi’i benodi’n Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol o fewn y rhaglen Innovate UK BridgeAI yn Sefydliad Alan Turing.

Dyfarnodd Sefydliad Novo Nordisk gyllid gwerth €1.8m i’r prosiect ‘Precision Glycol-oligomers as Heteromultivalent Pandemic influenza Virus Blockers’ er mwyn cefnogi gwaith i ddatblygu atalyddion feirws ffliw A pandemig. Mae’r prosiect 3 blynedd yn gonsortiwm rhyngddisgyblaethol dan arweiniad Freie Universität Berlin ac mae hefyd yn cynnwys Prifysgol Aarhus a Choleg Imperial Llundain. Fel Athro mewn Diogelwch Systemau a Chyd-Sefydlwr a Phrif Wyddonydd CyberOwl, sy’n darparu dadansoddeg risg a monitro diogelwch i’r sector morol, mae gan yr Athro Shaikh flynyddoedd o arbenigedd gwyddonol a diwydiannol ym meysydd seiberddiogelwch a thrafnidiaeth, gyda phwyslais ar beiriannu systemau diogel a sicr. Bydd gan y sefydliadau sy’n cael eu dewis ar gyfer cefnogaeth yr Ymgynghorydd Gwyddonol Annibynnol heriau cymhleth y gall fod yn anodd ymdrin â nhw drwy gyrsiau hyfforddiant. Fel rhan o’i rôl newydd, bydd yr Athro Shaikh yn helpu sefydliadau i ddatrys y rhwystrau hyn a gwella eu taith wrth fabwysiadu Deallusrwydd Artiffisial.

Mae Prifysgol Abertawe’n bartner mewn cydweithrediad rhyngwladol newydd i ddatblygu ffyrdd gwell o atal ffliw pandemig a diogelu iechyd byd-eang.

Darllenwch yr erthygl lawn yn: swan.ac/e5r

02

Mae Gwobrau Mentergarwch y Brenin, y gydnabyddiaeth fwyaf i fusnesau yn y DU, wedi cyhoeddi bod Bionema Group Ltd, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y wobr uchel ei bri yn y categori Arloesedd. Mae’r anrhydedd yn dathlu NemaTrident, cynnyrch arloesol Bionema sy’n rheoli plâu cnydau mewn modd biolegol ecogyfeillgar chwyldroadol. Mae Bionema, sy’n flaenllaw ym maes technoleg bioreolaeth, yn ymrwymedig i leihau’r ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwrteithiau synthetig wrth gynhyrchu bwyd. Cafodd Gwobrau Mentergarwch y Brenin, sef Gwobrau Mentergarwch y Frenhines gynt, eu hailenwi y llynedd i adlewyrchu awydd Ei Fawrhydi’r Brenin i barhau ag etifeddiaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II drwy gydnabod busnesau neilltuol yn y DU. Y rhaglen wobrwyo, sydd bellach yn ei 58ain flwyddyn, yw’r wobr uchaf ei bri i fusnesau yn y wlad, ac mae busnesau llwyddiannus yn gallu defnyddio arwyddlun Gwobrau’r Brenin am y pum mlynedd nesaf. Dechreuodd Bionema Group Ltd fasnachu yn 2013 ac mae’n gweithio ym maes biotechnoleg, gan greu ffyrdd o reoli plâu at ddibenion garddwriaeth, coedwigaeth a diwydiannau eraill. Mae ei arloesedd yn cystadlu â phlaladdwyr cemegol, gan ddefnyddio nematodau microsgopig i ladd pryfed penodol. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn dibynnu’n drwm ar blaladdwyr cemegol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o ymwrthedd cynyddol i blaladdwyr a phryderon difrifol am yr amgylchedd a diogelwch pobl wedi arwain at reoliadau mwy llym sy’n gwahardd llawer o blaladdwyr rhag cael eu defnyddio.

Archwilio Problemau Byd-eang. A allwn ymddiried mewn gwleidyddion ? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang ? Pwy sy’n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît ? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang. Yn y bedwaredd gyfres, 9 pennod o hyd hon, mae academyddion o Brifysgol Abertawe’n esbonio sut mae eu hymchwil arloesol yn mynd i’r afael â heriau byd-eang. Caiff penodau eu rhyddhau bob pythefnos ac maent yn cynnwys: Datgelu hanes hir o lofruddiaethau Galluogi profiadau teithio cynhwysol i deuluoedd Ai dysgu ymdrochol yw’r ateb i wella addysg gofal iechyd ? Cymhwysedd chwaraeon elît a maeth yn seiliedig ar blanhigion Diogelwch bwyd byd-eang - a yw bioblaladdwyr yn cynnig yr ateb ? A ydym yn ymddiried yn ein gwleidyddion ? A ydynt yn ymddiried ynom ni ? Y pris a delir gan bobl leol - cloddio am aur yn Kyrgystan Beth yw effaith byw ar bwys folcano gweithredol ?

Darllenwch yr erthygl lawn yn: swan.ac/bionemagroupltd

Gwrandewch ar ein podlediad yn: swan.ac/APBPodlediad

03

Mae rhaglen ymgysylltu Taliesin yn falch o fod â myfyrwyr a phobl ifanc yn ganolog iddi, gan feithrin ein cymunedau dawnus ac angerddol ar y campws, ac o fewn y rhanbarth. Mae rhaglen gyfranogol o gerddoriaeth, sgyrsiau, gwyliau, gweithdai ac arddangosfeydd yn darparu cyfleoedd unigryw ac ystyrlon. Rydym yn llawn syniadau newydd ar gyfer y deugain mlynedd nesaf, gyda chynlluniau a fydd yn gwneud Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn gonglfaen ddiwylliannol i’r ddinas, a byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni i gefnogi cyfleoedd creadigol i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, pobl ifanc, a chymuned Abertawe.

MAE CANOLFAN CELFYDDYDAU TALIESIN YN DATHLU EI PHEN-BLWYDD YN 40 OED

Cefnogwch ein gwaith trwy gyfrannu yma: swan.ac/taliesindonate

I barhau i fwynhau rhaglen fywiog Taliesin, cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr rhad ac am ddim: swan.ac/taliesin-cy

O FEHEFIN 2024 I FEHEFIN2025

Gan ddathlu deugain mlynedd o ddifyrru a swyno ymwelwyr, mae Taliesin yn parhau i gyflwyno rhaglen o berfformiadau o safon fyd-eang, gan gynnwys talent o Gymru ochr yn ochr ag artistiaid rhyngwladol. Yn cynnig y gorau mewn theatr, cerddoriaeth, dawns a ffilm – gan ysbrydoli a rhyfeddu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

04

GWOBR DYLAN THOMAS

Mae Gwobr Dylan Thomas flynyddol Prifysgol Abertawe, a lansiwyd yn 2006, yn un o’r gwobrau mwyaf mawreddog i awduron ifanc, gyda’r nod o annog talent greadigol amrwd ledled y byd. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol. Mae’n un o wobrau llenyddol mwyaf mawreddog y DU yn ogystal ag un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i awduron ifanc. Wedi’i dyfarnu am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau, mae’r Wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama. Mae’r wobr wedi’i henwi ar ôl yr awdur a aned yn Abertawe, Dylan Thomas, ac mae’n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Yn un o lenorion mwyaf dylanwadol, rhyngwladol- enwog canol yr ugeinfed ganrif, mae’r wobr yn ei goffáu i gefnogi awduron heddiw ac i feithrin doniau yfory.

Eleni mae Caleb Azumah Nelson wedi’i gyhoeddi fel enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK). Yn ôl y panel beirniadu eleni, mae Small Worlds yn waith ysgogol sy’n adrodd stori bersonol tad a mab a osodir rhwng de Llundain a Ghana dros dri haf. Mae’r fuddugoliaeth yn cadarnhau bod yr awdur Prydeinig-Ghanaidd, sy’n 30 oed, yn un o sêr cynyddol ffuglen lenyddol, yn dilyn ei nofel gyntaf glodfawr, Open Water, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2022. Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid yn 2024, ar ran y panel: “O blith rhestr fer hynod drawiadol a ddangosodd ehangder o genres a lleisiau newydd cyffrous, roedden ni’n unfrydol wrth ganmol y nofel emosiynol hon a ddaw o’r galon. Mae Caleb Azumah Nelson yn ysgrifennu mewn modd cerddorol, mewn llyfr a luniwyd i’w ddarllen yn dawel a gwrando arno’n uchel i’r un graddau. Mae delweddau a syniadau’n codi fwy nag unwaith mewn modd hyfryd o effeithiol, gan sicrhau bod gan natur symffonig Small Worlds naws ysgogol. Mae’r darllenydd yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan gymeriadau dwfn wrth iddyn nhw deithio rhwng Ghana a de Llundain, gan geisio dod o hyd i ryw fath o gartref. Yn heriol yn emosiynol ond yn eithriadol o iachusol, mae Small Worlds yn teimlo fel balm: mae mor onest am gyfoeth ac anawsterau aruthrol byw i ffwrdd o’ch diwylliant.” Y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2024 oedd A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books), The Glutton gan A. K. Blakemore (Granta), Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber), Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books) a Biography of X gan Catherine Lacey (Granta).

05

CYN-FYFYRWYR

ANDY BUSH DJ RADIO, ABSOLUTE RADIO BA, ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD

C: Pam Prifysgol Abertawe? Syrthiais mewn cariad ag Astudiaethau Americanaidd oherwydd dyna’r cwrs gradd a ddilynodd fy athro mewn Astudiaethau’r Cyfryngau. Roedd yn cynnig cymysgedd da o wleidyddiaeth, hanes, a blwyddyn gyffrous dramor.

COFRESTRAIS Â PHRIFYSGOL ABERTAWE AR SAIL Y PROSBECTWS HEB YMWELD Â’R BRIFYSGOL NA’R DDINAS HYD YN OED!

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/andybush-cy

06

C: Oeddech chi’n ymwneud â radio myfyrwyr yn Abertawe? Na, ddim o gwbl. A dweud y gwir, doedd gen i ddim diddordeb mewn radio tan yn llawer diweddarach pan symudais i Fryste gyda fy mand. Yn y pen draw, daeth fy ngyrfa gerddorol i ben oherwydd fy ngwaith cyflwyno ar y radio. C: Rydych chi wedi bod ar y radio ers amser maith. Sut mae rôl radio wedi newid? Mae’r diwydiant radio wedi newid llawer. Roedd llawer o orsafoedd ar un adeg, ond erbyn hyn mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eiddo i nifer fach o gwmnïau mawr. Mae’n anoddach cael troed i mewn i’r byd radio erbyn hyn. Wedi dweud hynny, dangosodd y cyfnod clo y cysylltiad parhaus rhwng radio a’r gwrandawyr. Roedd pobl yn dibynnu ar y radio am resymau iechyd meddwl ac i gael cysylltiad yn ystod cyfnod anodd. Mae rhestri chwarae’n wych, ond mae rhywbeth arbennig am wrando ar rywbeth byw a theimlo eich bod yn rhan o gymuned. Rwyf wedi gwneud ymdrech bob amser i gael sgwrs barhaus gyda’r gynulleidfa trwy’r cyfryngau cymdeithasol, trwy ddarllen negeseuon ar yr awyr, a thrwy gynnwys cyfraniadau gan y gynulleidfa. Y gynulleidfa sy’n adeiladu ein sioe; maen nhw’n ein hysbrydoli gyda’u syniadau a’u straeon gwych. C: Yn eich barn chi, sut fydd radio’n ymdopi â’r dirwedd sy’n newid ym myd cerddoriaeth? Mae radio’n ymwneud â chysylltiad, trefn a darganfod. Dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar gyflwyno cerddoriaeth newydd o reidrwydd. Mae’n gymysgedd o ffefrynnau cyfarwydd a chyflwyno gwrandawyr i ddarganfyddiadau diweddar. Gall Spotify a radio ategu ei gilydd. Efallai y bydd pobl yn clywed cân newydd ar y radio ac yna’n mynd i Spotify i wrando ar yr albwm. Radio yw ffenestr y siop, a gall gwrandawyr archwilio ymhellach ar sail yr hyn maen nhw’n ei glywed.

C: Mae Absolute Radio yn meithrin ymdeimlad o gymuned, ond yw e? Allwch chi rannu enghraifft? Gallaf, gall radio fod yn arf pwerus ar gyfer cysylltu. Rwyf wedi gwneud llawer dros y blynyddoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chysylltu. Yn ystod y cyfnod clo, bûm yn cynnal cyfarfodydd ar gyfer gwrandawyr a oedd yn teimlo’n unig neu’n ynysig. Roeddwn i’n arfer trefnu digwyddiadau “Dim Swyddfa, Parti Swyddfa” hefyd ar gyfer pobl hunangyflogedig. Mae gweld y cysylltiadau hyn yn parhau hyd yn oed ar ôl y digwyddiadau wedi rhoi llawer iawn o foddhad. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i gysylltu â gwrandawyr ac adeiladu ymdeimlad cryfach o gymuned hefyd. C: Fe wnaethoch chi ddilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd ac rydych chi’n chwarae gitâr Delta Blues. Yw diwylliant America wedi apelio atoch chi erioed? Yn bendant! Roedd fy nghwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd yn brofiad anhygoel. Roedd yn bwnc eang a oedd yn ymdrin â phopeth o deledu a ffilm i gaethwasiaeth a Delta Blues. Rwy’n dal i ddilyn chwaraeon a cherddoriaeth Americanaidd ac yn teimlo’n freintiedig o fod wedi dysgu am ddiwylliant America yn Abertawe. Fe ddysgais i sgiliau gwerthfawr hefyd fel addasu a sut i gysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol. Fy chwilfrydedd am bobl yw’r hyn sy’n llywio fy ngyrfa radio.

07

CYN-FYFYRWYR

LLAIS ANGERDDOL DROS Y GWIR A NEWID Mae Ayo Mairo-Ese, a raddiodd o raglen Cysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn 2009, yn ffynnu ar heriau a gwobrwyon bod yn angor newyddion gydag Arise TV yn Nigeria. Mae ymroddiad Ayo i’r gwir, grymuso pobl a gwneud y pwerus yn atebol yn amlwg. Mae ei thaith, ynghyd â’i phrofiadau yn Nigeria a Chymru, yn ei gwneud yn llais pwerus dros newid cadarnhaol. Canfod Pwrpas mewn Newyddiaduraeth C: Ayo, beth sy’n eich ysgogi fwyaf yn eich rôl yn Arise TV? Dau beth sydd wir yn fy ysgogi. Yn gyntaf, y tîm anhygoel yn Arise TV. Maen nhw’n fy ngwthio bob dydd i fod yn ddarlledwr gwell. Ond rhywbeth sy’n bwysicach fyth yw’r platfform sydd gennyf i addysgu a grymuso pobl, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. C: Mae’n ymddangos bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan sylweddol o’ch ymagwedd at gasglu newyddion. Sut rydych chi’n defnyddio hyn i lywio eich rhaglennu? Rydych chi yn llygad eich lle! Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn pontio’r bwlch rhyngof fi a’r gwylwyr, gan roi cyfle i mi glywed eu pryderon. Gallwn i ofyn am gostau byw cynyddol neu a ydy pobl yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol. Yna mae’r atebion hyn yn sbarduno trafodaethau ar y sioe. Mae’n bwysig gwrando ar y realiti mae pobl yn ei wynebu a’i ddeall.

C: Rydych chi’n adnabyddus am eich arddull gyfweld ddigyfaddawd ond teg. Pa mor bwysig yw gwirio ffeithiau i chi? Hollbwysig. Cyn pob cyfweliad, bydda i’n gwneud ymchwil helaeth i wirio honiadau. Rydyn ni’n gwneud ffigurau dylanwadol yn atebol ac yn sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael gwybodaeth gywir.

Grymuso Menywod: Cenhadaeth Bersonol

C: Rydych chi’n eiriolwr cryf dros rymuso menywod. Beth yw eich barn am gynnydd yn Nigeria? Mae llawer i’w wneud o hyd. Mae’n gymdeithas batriarchaidd ond fydda i ddim yn cadw’n dawel. Roeddwn i’n un o sefydlwyr SpeakHer sy’n dysgu sgiliau cyfathrebu i fenywod. Mae angen gwella diogelwch i fenywod a newid cyfreithiau sy’n gwahaniaethu. Rwy’n angerddol am gefnogi menywod mewn ffyrdd amrywiol. Un enghraifft yn unig yw SpeakHer. Rwyf hefyd yn llysgennad yn erbyn trais rhywiol ac yn fentor i fenywod. Rwy’n defnyddio gwahoddiadau i siarad i ysbrydoli a grymuso eraill. Abertawe: Catalydd dros Newid C: Sut mae eich amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi dylanwadu ar eich ymagwedd at newyddiaduraeth? Wrth fyw yn y Deyrnas Unedig, ces i brofiad o ddiwylliant o atebolrwydd. Roedd disgwyl i arweinwyr fod yn atebol i’r cyhoedd. Mae’r profiad hwn wedi llywio fy ymrwymiad i fynnu bod arweinwyr yn atebol yn Nigeria.

08

C: Sut rydych chi’n gobeithio cyfrannu at newid cadarnhaol drwy eich gwaith? Drwy ddweud y gwir, rhoi platfform i leisiau nad ydynt fel arfer yn cael eu clywed ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. Mae llywodraethu da’n hanfodol. Mae gan Nigeria botensial aruthrol a chredaf y gall cyfryngau cryf chwarae rôl hollbwysig wrth ei helpu i gyflawni ei photensial llawn. Atgofion Melys am Abertawe C: Dywedwch wrthym am eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wrth fy modd yn siarad am Brifysgol Abertawe! Roedd yn gyfnod trawsnewidiol yn fy mywyd. Roedd cymuned gyfeillgar Abertawe ei hun yn wych! Roedd y Brifysgol a’m darlithwyr yn Adran y Dyniaethau yn anhygoel. Cafodd Dr Alan Finlayson, Dr Rebecca Brown ac eraill ddylanwad hirdymor ar fy nysgu. Drwy gymryd rhan yn Undeb y Myfyrwyr a theithio drwy’r Deyrnas Unedig, datblygais i ymhellach fel ymgyrchydd cymdeithasol. Mae’n sefydliad gwych ac rwy’n annog pobl i fynd i Abertawe!

AYO MAIRO-ESE DARLLEDWR AC ANGOR, ARISE NEWS BA MEWN CYSYLLTIADAU RHYNGWLADOL

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/ayomairoese-cy

09

SU CONNECT CADWCH MEWN CYSYLLTIAD Â GRADDEDIGION O SAFON

SWANSEA UNI CONNECT

BUSNES GWYCH GAN UN O RADDEDIGION PRIFYSGOL ABERTAWE? Rydym yn cysylltu cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe â busnesau gwych fel eich un chi. Mae pawb yn elwa: rydych yn cysylltu â graddedigion brwd, ac maen nhw’n cael buddion i aelodau’n unig wrth gefnogi busnesau cyn-fyfyrwyr Abertawe. Gadewch

Download the App and have the global community in the palm of your hand! Find out more at swan.ac/swansea-uni-connect Keep in touch! Want to stay updated about the latest events, news and opportunities to support the University ? Update your details and we’ll keep in touch with you at swan.ac/update Ydych chi am ddilyn y diweddaraf am ddigwyddiadau, newyddion a chyfleoedd i gefnogi’r Brifysgol ? Diweddarwch eich manylion a byddwn yn cadw mewn cysylltiad â chi drwy swan.ac/diweddaru Lawrlwythwch yr ap a bydd y gymuned fyd-eang ar flaenau eich bysedd! Am ragor o wybodaeth, ewch i swan.ac/cyswllt-prifysgol- abertawe Cadwch mewn cysylltiad!

i ni rannu cariad â chymuned Abertawe! Edrychwch ar y Cyfeiriadur Busnes ar swan.ac/suconnect

TARGEDU’R DONIAU GORAU, CYRRAEDD GWEITHWYR PROFFESIYNOL CYSYLLTIEDIG: Chwilio am ymgeiswyr hynod gymwysedig ? Dylech hysbysebu eich swyddi ar ein Bwrdd Swyddi sydd am ddim i gyn-fyfyrwyr. Cysylltwch yn uniongyrchol â rhwydwaith o raddedigion medrus Prifysgol Abertawe sydd am symud eu gyrfaoedd i’r lefel nesaf. Edrychwch ar y Bwrdd Swyddi ar swanseauniconnect.com

10

RWY’N CARU

PRIFYSGOL ABERTAWE, OHERWYDD...

Opsiynau Cyflwyno (Dewiswch Un): Llun: Beth am dynnu llun sy’n croniclo’r hyn rydych yn ei garu am Brifysgol Abertawe, megis llun golygfaol o’r campws, llun grŵp o ffrindiau prifysgol, lluniau o waith roeddech yn falch ohono neu lun o’ch hoff fan astudio neu rywun a wnaeth newid eich bywyd. Fideo: Beth am greu fideo byr (uchafswm o 30 eiliad) sy’n arddangos yr hyn rydych chi’n ei garu am fod yn rhan o gymuned Prifysgol Abertawe. Byddwch yn ddoniol, yn ddidwyll neu dangoswch fywyd bywiog y Brifysgol. Ysgrifennu: Beth am rannu stori neu gerdd greadigol (uchafswm o 50 gair). Esboniwch yr hyn sy’n gwneud Prifysgol Abertawe’n arbennig i chi. Rhannwch yr hyn rydych yn ei garu am Brifysgol Abertawe mewn ffordd greadigol ac ysgogol a gallech ENNILL TALEB GWERTH £100 AR GYFER FULTON OUTFITTERS

Cyflwynwch eich ceisiadau isod a byddwn yn cynnwys rhai o’n ffefrynnau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap ar 31 Awst 2024. Caiff yr enillydd ei hysbysu drwy e-bost. Cyflwynwch eich cais: swan.ac/cystadleuaeth24

11

VARSITY Gwnaeth Varsity Cymru ddychwelyd i Abertawe eleni am y cystadlu blynyddol hirddisgwyliedig yn erbyn Prifysgol Caerdydd. Er mai Caerdydd enillodd y Darian Varsity gyffredinol, bu bloeddio a dathlu mawr wrth i’n tîm rygbi’r dynion ennill y gêm 44 i 28 yn erbyn yr ymwelwyr. Gwnaeth staff a chyn-fyfyrwyr hefyd ymuno â ni am ein parti gwylio yn Founders ar Stryd y Gwynt am noson o hwyl yn gwylio’r rygbi, yn bwyta, yn yfed ac yn gwrando ar gerddoriaeth. Clintons Gan ddychwelyd i Abertawe am y tro cyntaf ers 2019, cymerodd yr Ysgrifennydd Clinton, ynghyd â’r Arlywydd Clinton, ran mewn digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd gan y Brifysgol.

Roedd y pâr yn westeion anrhydeddus mewn trafodaeth arbennig a oedd yn canolbwyntio ar heriau byd-eang. Yn ymuno â nhw ar y llwyfan roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS ac Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, am y sgwrs a wnaeth hefyd bwysleisio pwysigrwydd annog pobl ifanc i geisio am rolau arweinyddiaeth. Roedd y gynulleidfa o 600 o bobl yn cynnwys ysgolion lleol, staff a chyn-fyfyrwyr.

12

Abertawe yn India Ym mis Mai, aeth tîm y cyn-fyfyrwyr i India am gyfle i gymdeithasu â’n cyn-fyfyrwyr yno. Cawsom ddigwyddiadau gwych yn Delhi, Mumbai a Bangalore. Roedd hi hefyd yn bleser cael y cyfle i siarad â Megha a Geetanjali sy’n fodlon ein helpu i ddatblygu rhwydwaith ein cyn-fyfyrwyr yn India.

ABERTAWE YN LLUNDAIN

Ym mis Medi, aethom â rhai o’n hymchwilwyr academaidd i Lundain ar gyfer ein digwyddiad cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr. Enw’r digwyddiad oedd “There is something in the seaweed”. Bu ein hymchwilwyr yn siarad am gadwraeth crwbanod; sut maen nhw’n defnyddio micro-algâu i storio carbon; a sut maen nhw’n defnyddio alginadau yn y broses o ddal a storio gwres. Roedd hi’n noson ddiddorol a oedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio â chyn- fyfyrwyr yn Llundain.

HANNER MARATHON ABERTAWE PRIFYSGOL ABERTAWE

Cymerodd staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ran yn Hanner Marathon Abertawe am yr ail flwyddyn yn olynol, gan godi mwy nag £20,000 ar gyfer ein hymgyrch Camau Breision Dros Iechyd Meddwl. Cefnogodd y Cymrodorion Er Anrhydedd, Ryan Jones a Lowri Morgan, Dîm Abertawe, drwy roi sgwrs i ysbrydoli’r tîm cyn y ras. Ar ôl y ras, roedd gwahoddiad i’n rhedwyr ddychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i glywed cyfanswm yr arian a godwyd, bwyta toesenni ac yfed ychydig o brosecco i ddathlu! Yn mynd â’ch bryd ? Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn rhedeg yn 2025, cael mwy o wybodaeth neu roi yma: www.swansea.ac.uk/cy/camau-breision/

13

CYMRAWD ER ANRHYDEDD SGWRS GYDA’R GANTORES SOPRANO O FRI REBECCA EVANS Mae Rebecca Evans, soprano enwog, yn trafod ei llwybr gyrfa ysbrydoledig, ei chariad diwyro at opera, a’i threftadaeth Gymreig. Bywyd Cynnar a Dechrau Canu C: Lle dechreuodd eich taith operatig? Dechreuodd fy ngyrfa ganu ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn i’n 12 oed. Roedd adeilad y tu ôl i’r adran Eigioneg lle byddwn i’n cael gwersi preifat gyda bariton gwych bob nos Iau. Hyd yn oed pan oeddwn i’n bedair oed, roedd cerddoriaeth glasurol o’m cwmpas, diolch i fy mam, cyn-gantores opera, a chariad fy nhad at ddarnau cerddorfaol. Fe wnaeth opera fy swyno heb os. Cerddoriaeth i bawb o bobl y byd C: Yw cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i rwystrau diwylliannol? Yw opera’n cyfleu emosiynau cyffredinol? Does dim dwywaith! Mae opera, fel cerddoriaeth yn gyffredinol, yn hynod hygyrch. Rydyn ni gyd yn ei ddehongli’n wahanol, ond mae’r negeseuon a’r emosiynau craidd yn atseinio gyda chynulleidfaoedd o bob cefndir.

Dathlu ein diwylliant C: Ydych chi’n teimlo cyfrifoldeb i hyrwyddo diwylliant Cymru? Sut rydych chi’n gwneud hyn? Ydw, yn bendant! Rwy’n ymwneud yn helaeth â’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig, yn ei chyfarwyddo ac yn mentora’r enillydd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Rwy’n Gyfarwyddwr rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru hefyd, lle byddaf yn mentora cantorion ifanc. Rwy’n teimlo mai fy nyletswydd yw trosglwyddo’r grefft ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Traddodiad a moderniaeth mewn opera C: Sut ydych chi’n cydbwyso parchu traddodiad â gwneud opera’n berthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes? Rwy’n ymroi i barchu’r gelfyddyd, bod yn driw i’r testun, a dilyn gweledigaeth y cyfarwyddwr. Mae’r cyfarwyddwyr yn ail-ddehongli’r stori, gan ei chadw’n berthnasol. Mae popeth yn troi mewn cylch; rydym wedi gweld cynyrchiadau traddodiadol a rhai minimalaidd. Yn y pen draw, mae’n golygu cael y cydbwysedd cywir - apelio at gynulleidfaoedd newydd wrth ofalu am y rhai sydd wedi cefnogi opera am 20,30 neu 40 mlynedd hefyd. Mae perfformiadau presennol yn llai minimalaidd fel y gall cynulleidfaoedd ymhyfrydu yn harddwch y cynhyrchiad mewn byd sy’n ddigon hyll ar hyn o bryd. Comedi neu Drasiedi a chyngor i ddarpar artistiaid C: Oes gennych chi hoff genre i’w berfformio? Er fy mod i’n hoff iawn o drasiedïau, comedi yw’r ffefryn. Mae actio a dod â chymeriad yn fyw yn fraint ac yn dipyn o hwyl. I ddarpar artistiaid, byddwch yn driw i chi’ch hun a dathlu’ch treftadaeth drwy’ch celfyddyd. Ewch ati i ganu neu actio o’r galon.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/rebeccaevans-cy

14

Hoff leoliadau a chysylltiadau perfformio C: Beth yw eich hoff le i ganu? A dweud y gwir, Canolfan y Mileniwm! Mae bod yn agos at fy nheulu a chysgu yn fy ngwely fy hun yn ei gwneud yn lle arbennig. Ond mae’r Metropolitan Opera a’r Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden yn anhygoel hefyd. Mae’r cyswllt â’r gynulleidfa yn aruthrol! Mae eu clywed yn chwerthin ar adegau doniol yn codi ysbryd rhywun!

Taith wedi’i thanio gan angerdd C: Soniwch am eich taith i fyd opera a dylanwad eich treftadaeth Gymreig Mae gen i ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth ers yn blentyn. Roedd fy nhad yn mynnu ‘mod i’n dilyn gyrfa fwy ymarferol, felly hyfforddais fel nyrs, ond fe ges wersi a pharhau i ganu fel amatur nes cwrdd ag arweinydd côr ysbyty ar hap gan arwain at gyfleoedd fel unawdydd. Roedd cyfarfod Syr Bryn Terfel yn drobwynt - fe wnaeth fy annog i astudio yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall. Yn y pen draw, fe gynhesodd fy rhieni at y syniad, a chyda’u cefnogaeth, dechreuais ar y daith anhygoel hon sydd wedi para 35 mlynedd. Gwneud opera’n hygyrch C: Unrhyw gyngor i fynychwyr opera am y tro cyntaf? Ewch gyda meddwl agored! Mae uwchdeitlau’n ei gwneud hi’n haws dilyn y stori ac os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r opera, darllenwch grynodeb ymlaen llaw. Chwiliwch am adnoddau ar-lein fel pigion i ddysgu mwy. Dyw opera ddim yn elitaidd; mae’n ymwneud ag archwilio diwylliannau gwahanol a phrofi harddwch cerddoriaeth. Rhowch gynnig arni, efallai y byddwch chi wrth eich bodd!

REBECCA EVANS SOPRANO OPERA BYD-ENWOG

15

CYN-FYFYRWYR

LIAM CHIVERS SEFYDLWR A RHEOLWR GYFARWYDDWR, OP TALENT BSC SEICOLEG

Mae Liam Chivers yn rheoli rhai o ddylanwadwyr mwyaf y byd, yn gyfrifol am biliynau o edrychiadau ar fideos a miliynau o ddilynwyr yn y cyfryngau cymdeithasol. O KSI ac Ali-A i Jelly a Sidemen, mae Liam ar flaen y gad ym myd ‘prif ffrwd fodern’ heddiw.

MAE GEN I LAWER O ATGOFION GWYCH O’R CAMPWS, ROEDD YNA LAWER YN DIGWYDD BOB AMSER AC FE WNES I GWRDD Â FY NGWRAIG, APRIL, YNO.

Liam ac April nôl yn eu dyddiau fel myfyrwyr yn nawns yr haf.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/liamchivers-cy

16

C: Beth yw dylanwadwr? Dydw i ddim yn rhy hoff o’r term dylanwadwr, mae wedi cael ei greu gan y cyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n well gen i eu galw nhw’n grewyr neu’r doniau. Mae dylanwadwyr yn grewyr sydd â llawer iawn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gallan nhw ddylanwadu ar benderfyniadau eu cynulleidfa. Mae modd uniaethu â nhw o gymharu ag enwogion traddodiadol. C: Beth yw rhai o’r heriau mwyaf o ran bod yn rheolwr ar ddylanwadwyr? Addysgu brandiau am farchnata dylanwadwyr. Mae angen i frandiau ymddiried yn y crewyr a chaniatáu i’w lleisiau nhw gael eu clywed wrth gydweithredu. Mae’n ymwneud â chanfod y cydbwysedd perffaith ar gyfer brandiau a chrewyr. Mae yna heriau hefyd o ran amddiffyn buddiannau crewyr, cadw i fyny â’u diddordebau personol sy’n esblygu, a’u paru â brandiau addas. C: Sut ydych chi’n adnabod y dylanwadwr cywir ar gyfer brand? Mae OP Talent yn blaenoriaethu paru crewyr o’n rhestr yn y lle cyntaf. Rydyn ni’n ystyried demograffeg, diddordebau, cyllideb ac amseru. Gall y dylanwadwr cywir greu cynnwys sy’n cyd-fynd â neges y brand gan aros yn driw i’w harddull eu hunain. Os allwn ni ddim paru’n gywir, gallwn ni weithio hefyd gyda chrewyr sydd heb gytundeb i ddod o hyd i rywbeth sy’n gweithio i’r brand. C: Gall dylanwadwyr yrru symudiadau cymdeithasol ac ymgyrchoedd. Ydych chi’n gweld mwy o rôl iddyn nhw yn y cyfrwng hwn? Gall dylanwadwyr ymhelaethu ar negeseuon a thrafodaethau ar faterion cymdeithasol, ond mae angen iddyn nhw fod yn wybodus am y pwnc y maen nhw’n gwneud sylwadau arno. Gallan nhw dynnu sylw at bwnc neu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd y byddai cyfryngau traddodiadol yn ei chael hi’n anodd eu denu. C: Pa gyngor sydd gennych chi ar gyfer darpar YouTubers a rheolwyr dylanwadwyr? Mae cynnwys yn allweddol. Aros yn driw i chi eich hun a chanolbwyntio ar greu cynnwys o safon. Adeiladu ethos gwaith cryf.

C: Beth yw rhai o’r tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y maes marchnata dylanwadwyr? Mae micro-ddylanwadwyr yn ennill tir ar gyfer ymgyrchoedd wedi’u targedu gydag arbenigedd a demograffeg benodol. Er bod gan facro- ddylanwadwyr apêl a chynulleidfa gyffredinol fwy, maen nhw’n costio mwy hefyd. Mae’r duedd yn mynd tuag at ddylanwadwyr mwy er mwyn cael cydnabyddiaeth eang i’r brand; fodd bynnag, mae brandiau llai yn troi at ficro- ddylanwadwyr ar gyfer ymgyrchoedd sydd wedi’u teilwra i raddau mwy ac sydd o fewn eu cyllideb. Mae’r dull hwn yn caniatáu targedu mwy dethol ac yn sicrhau y gellir ymgysylltu â darpar gwsmeriaid. C: Beth yw rhai enghreifftiau o gydweithrediadau gan OP Talent? Ail-ornest focsio rhwng KSI a Logan Paul (agor drysau prif ffrwd i ddylanwadwyr) Taith fyd-eang DanTDM (yn arddangos cyrhaeddiad digwyddiadau dylanwadwyr) Cydweithredu rhwng Ali-A a Porsche (enghraifft gynnar o lwyddiant marchnata dylanwadwyr) C: A oes unrhyw ystyriaethau moesegol i’w hystyried pan fyddwch chi’n gweithio gyda dylanwadwyr? Yn bendant! Mae OP Talent yn osgoi hyrwyddo pethau fel cryptoarian neu docynnau anghyfnewidiadwy (NFTs) oherwydd eu cymhlethdod a risgiau posibl. Rydyn ni’n blaenoriaethu diogelwch brandiau ac yn osgoi bargeinion a allai effeithio’n negyddol ar hygrededd crewyr ac enw da’r brand. C: Sut mae dylanwadwyr yn newid diwylliant? YouTubers yw’r cyfryngau prif ffrwd newydd. Maen nhw ar gael trwy’r amser, gan greu cysylltiad cryf â’u cynulleidfa. Mae hyn wedi newid tueddiadau diwylliannol oherwydd cyflymder a hygyrchedd cynnwys. Does dim rhaid i chi aros tan brynhawn Sadwrn i wylio David Beckham mewn gêm bêl-droed nac aros am y ffilm Tom Cruise nesaf ymhen chwe mis i’w weld yn y sinema. Mae YouTubers ymlaen trwy’r amser.

17

STREETSNAP: LANSIO AP CYNTAF O’I FATH I FEITHRIN GWYDNWCH Y GYMUNED I GASINEB Mae’r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a’i thîm wedi datblygu ap newydd sy’n chwyldroi’r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda’r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau. Mae’r ap StreetSnap yn system adrodd gyntaf o’i bath, a bydd ar gael i’w ddefnyddio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr cyn bo hir. Mae’r ap yn cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chyllid drwy raglen partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru, gan roi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ar waith. YMCHWIL O ddadgodio graffiti, i daflu goleuni ar lenyddiaeth LHDTC+ a dealltwriaeth a chefnogi bwydo ar y fron ar lefel gymdeithasol. Mae ein hymchwil yn parhau i amddiffyn,dogfennu a siapio ein tirwedd ddiwylliannol

Datblygwyd StreetSnap i’w ddefnyddio gan yr heddlu, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr glanhau, staff y cyngor, swyddogion tai ac addysg. Gall defnyddwyr yr ap dynnu lluniau o graffiti casineb a rhoi gwybod amdano ar unwaith i’r awdurdodau perthnasol. Mae timau glanhau strydoedd yn cael eu hysbysu ar unwaith, a byddant yn dod draw i’r safle a chael gwared ar arwyddion casineb. Mae swyddogion gwrthderfysgaeth yr heddlu hefyd yn cael y data, ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn dadansoddi’r wybodaeth a chymryd y camau angenrheidiol. Gall ymyriadau gynnwys sesiynau addysg ieuenctid mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a chlybiau cymdeithasol, gyda’r nod o ddeall y cymhelliant sydd wrth wraidd y graffiti casineb ac annog y rhai sy’n ei greu i ystyried eu gweithredoedd yn fanylach.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/ApStreetSnap

18

Y CYFRANIAD Y MAE LLENYDDIAETH LHDTC+ GYMRAEG WEDI’I WNEUD YNG NGHYMRU A LEDLED Y BYD Yr Her Mae’n hawdd anghofio pa mor ymylol y mae profiadau LDHTC+ wedi bod yng Nghymru a Phrydain gyfan. Yn hanesyddol, mae astudiaethau llenyddol a bywgraffiadau wedi tueddu i anwybyddu neu hyd yn oed i guddio bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LDHTC+) yng Nghymru. Mae’r ymchwil hon i lenyddiaeth LDHTC+ o Gymru yn datgelu bod pobl gwiar wedi gwneud cyfraniad pwysig i lenyddiaeth a hanes Cymru a’r byd. Mae ymchwil yr Athro Kirsti Bohata i lenyddiaeth LHDTC+ o Gymru’n datgelu bod pobl hoyw wedi gwneud cyfraniad pwysig at lenyddiaeth a hanes Cymru a’r byd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar fywyd a gwaith llenyddol Amy Dillwyn (1845–1935), a oedd yn ddiwydiannwr ac yn nofelydd yn oes Fictoria. Mae’r Athro Bohata wedi adfer Dillwyn fel awdures allweddol llenyddiaeth Fictoraidd hoyw a dyddiadurwraig y mae ei gwaith llenyddol yn taflu goleuni newydd ar hunaniaethau rhywedd anghonfensiynol a chwant rhwng pobl o’r un rhyw.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/LGBTQGymraeg

CYNYDDU CYFRADDAU BWYDO AR Y FRON Yr Her

Mae cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU ymhlith y rhai isaf yn y byd. Mae hyn yn niweidio iechyd ein poblogaeth a’n heconomi ac yn bwysicaf oll mae’n gallu gadael menywod yn llawn siom; nid yw hyd at 90% o famau sy’n rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn barod i wneud hynny. Er y bydd materion ffisiolegol wedi atal rhai menywod rhag bwydo ar y fron, i’r rhan fwyaf o fenywod bydd diffyg cefnogaeth yn arwain at ragor o gymhlethdodau a’r angen i roi’r gorau iddo cyn eu bod yn barod i wneud hynny. Mae llawer o strategaethau i gefnogi bwydo ar y fron yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol ar gyfer menywod ar lefel bersonol. Tra bod hyn yn bwysig, mae ymchwil Amy wedi archwilio dylanwadau seico-gymdeithasol-ddiwylliannol ehangach sy’n niweidio bwydo ar y fron, yn enwedig dealltwriaeth wael ar lefel gymdeithasol ynghylch sut mae bwydo ar y fron yn gweithio ac ymddygiad arferol babanod. Amlygodd ei gwaith fod angen newid ar lefel gymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar fenywod unigol, er mwyn creu amgylchedd sy’n deall ac yn cefnogi bwydo ar y fron.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/bwydo-ar-y-fron

19

PODLEDIADAU GYDA

Mae Jon yn awdur ei hun. Mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn Short Fiction, The Rumpus, Hobart, Ploughshares ar-lein, Full Stop a 3:AM Magazine ymhlith eraill. Mae Jon hefyd yn helpu i gynnal Clwb Llyfrau’r Cyn-fyfyrwyr. MAE JON DOYLE, A RADDIODD O ABERTAWE YN SGWRSIO Â PHEDWAR AWDUR ARALL A RADDIODD O’N PRIFYSGOL, GAN DRAFOD EU GWAITH, YR HYN SY’N EU HYSBRYDOLI A’U CYSYLLTIADAU Â PHRIFYSGOL ABERTAWE.

PHD,YSGRIFENNU CREADIGOL, 2019

Os ydych chi’n mwynhau gwrando ar y podlediadau hyn, beth am ymuno â’r sgwrs yng ngrŵp y Clwb Llyfrau yn swanseauniconnect.com

20

DR SAMUEL PERALTA, (PHD MEWN FFISEG, 1987)

Mae’n fwyaf adnabyddus ym myd cyhoeddi fel bardd, ysgrifennwr straeon byrion a chrëwr yr antholegau Future Chronicles. Mae hefyd yn anfon gwaith celf i’r gofod.

Sganiwch i wrando ar y podlediad hwn: swan.ac/PodlediadauCyn-fyfyrwyr

DR CAROLE HAILEY, (PHD MEWN YSGRIFENNU CREADIGOL, 2020)

Cyhoeddir nofel Carole, The Silence Project gan Atlantic Books a chafodd ei dewis yn un o’r teitlau ar gyfer Book Club ar Radio 2.

Sganiwch i wrando ar y podlediad hwn: swan.ac/PodlediadauCyn-fyfyrwyr

JAMES NORBURY, (BSC MEWN SŴOLEG, 1999) Mae wedi bod yn ysgrifennu ac yn darlunio am y rhan fwyaf o’i fywyd. Mae’n fwyaf adnabyddus am Big Panda & Tiny Dragon a The Cat Who Taught Zen.

Sganiwch i wrando ar y podlediad hwn: swan.ac/PodlediadauCyn-fyfyrwyr

JOANNA MAZURKIEWICZ, (BA MEWN ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD, 2011) Mae hi ar restr Bestselling Authors USA Today. Wedi ysgrifennu mwy nag 80 o lyfrau, mae Joanna yn fwyaf adnabyddus am ei chyfresi o lyfrau Whispers a Love and Hate.

Sganiwch i wrando ar y podlediad hwn: swan.ac/PodlediadauCyn-fyfyrwyr

21

CYN-FYFYRWYR

CYSYLLTU DIWYLLIANNAU DRWY THEATR: SAFBWYNT TSIEINEAIDD

A finnau wedi fy magu mewn teulu theatraidd, ces i fy nenu gan fyd creadigol y celfyddydau a byd dadansoddol y gyfraith. O ganlyniad i’r gwrthdaro mewnol hyn, penderfynais i astudio’r gyfraith yn Tsieina, ond newidiodd popeth yn sgîl anogaeth gan fy rhieni ac athro cofiadwy ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd fy nheulu’n berchen ar gwmni theatr. Yn Abertawe, cyflwynodd yr Athro Beale blatfformau masnachu eiddo deallusol i mi, gan sbarduno syniad: gallwn i ehangu arlwy’r cwmni. Wedi fy ysbrydoli, es i ati i sicrhau trwyddedau i addasu dros 20 o gynyrchiadau gorllewinol, gan gynnwys dramâu bytholwyrdd Agatha Christie, ar gyfer cynulleidfaoedd Tsieineaidd. Ysgogodd hyn batrwm; a dechreuodd theatrau eraill yn Tsieina gyflwyno dramâu a sioeau cerdd gorllewinol. Wedi’u cyfareddu gan y straeon hyn, teithiodd cynulleidfaoedd mor bell â Llundain hyd yn oed i weld y sioeau gwreiddiol. Roedd fy nhaith yn teimlo fel cyfraniad ymarferol at ddealltwriaeth ddiwylliannol rhwng Tsieina a’r Deyrnas Unedig. Mae cynulleidfaoedd Tsieineaidd yn mwynhau dramâu gorllewinol. Mae gan straeon ditectif apêl arbennig. Er eu bod wedi’u gwreiddio mewn diwylliannau penodol, mae dramâu gwych, fel rhai Shakespeare a Tang Xianzu, yn croesi ffiniau oherwydd eu themâu byd-eang a’r profiadau dynol diamser a geir ynddynt.

RWYF WEDI WYNEBU HERIAU; CYFIEITHU YW’R UN FWYAF BOB AMSER. RHAID I’R CYFIEITHIAD FOD YN GLIR, YN FFYDDLON AC YN GREFFTUS, RHAID IDDO GYFLEU BWRIAD YR AWDUR WRTH GYSYLLTU Â CHYNULLEIDFA NEWYDD.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan swan.ac/renxiaozhang-cy

22

Ar wahân i’r heriau, mae cydweithredu rhyngddiwylliannol yn cynnig cyfleoedd enfawr. Mae gweithio gydag artistiaid amrywiol yn cynnig safbwyntiau newydd a gall cynyrchiadau sy’n taro deuddeg gyda diwylliannau amrywiol gyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae rhannu profiadau diwylliannol yn meithrin dealltwriaeth. Yn ystod fy astudiaethau, rhannais i brofiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol a chymerais i ran mewn gweithgareddau i gyn-fyfyrwyr. A minnau’n ôl yn Tsieina bellach, rwy’n cwrdd â ffrindiau i archwilio diwylliant y Deyrnas Unedig a chyfleoedd am yrfa. Cafodd Prifysgol Abertawe effaith enfawr ar fy nhaith a chwaraeodd ei lleoliad unigryw yng Nghymru rôl sylweddol yn fy mhrofiad. Trodd rhywbeth a ddechreuodd fel enw ar fap yn unig, yn wlad o harddwch â’i hiaith ei hun, tîm pêl- droed angerddol, hanes cyfoethog, tirweddau godidog ac etifeddiaeth Dylan Thomas. O ganlyniad i fy nghariad at Gymru, ymunais i â chlwb i gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn Tsieina - tyst i bŵer cyfnewid diwylliannol. Mewn byd o ansicrwydd, mae deall diwylliannau eraill yn goleuo’r ffordd. Rwy’n annog ffrindiau iau i groesawu profiadau amrywiol, ac rwy’n hapus i rannu awgrymiadau am astudio a sicrhau interniaethau yn y Deyrnas Unedig.

RENXIAO

(RICHARD)

ZHANG IS-LYWYDD, THEATR FODERN SHANGHAI

LLM, CYFRAITH FASNACHOL A MORWROL RYNGWLADOL

23

CYN-FYFYRWYR

Cymreig i ffitio fewn gyda criw Aber a Bangor. Felly dyma drio neud rhywbeth am hyn. Roedd gen i ffrind yn Neuadd Gilbertson, neuadd y bechgyn gerllaw gerddi Clyne, a minnau yn Neuadd Martin, neuadd y merched, drws nesa. Roedd Rehman Rashid yn ganwr heb ei ail - ac yn canu’r gitâr yn ei arddull unigryw ei hun. Un o Kuala Lumpur, Malaysia oedd e. Awgrymais efallai y byddai ei gynnwys ef yn y ‘line-up’ yn syniad! Cytunodd gymeryd rhan ac fe gododd y tô! Ac roedd yna barti canu o Chile wedi cynnig ein helpu - yn gwisgo eu gwisg draddodiadol a chanu mewn harmoni. Ar nos Sadwrn y Steddfod - roedd hi’n gystadleuaeth y Noson Lawen. Pob prifysgol yn darparu chwarter awr o adloniant. Cyrhaeddodd tîm Prifysgol Abertawe y llwyfan gyda’r anfarwol Ieuan Tomos yn arwain. Roedd ambell eitem ganddon ni’r Cymry, grŵp pop, a dawnswyr gwerin, ond yno i helpu yr oedd Chile a Malaysia!! Am y tro cynta erioed , enillodd Prifysgol Abertawe y gystadleuaeth Noson Lawen!! Doedd dim diwedd ar y dathlu. Newyddiadurwr oedd Rehman Rashid, a ddaeth yn awdur enwog yn ei wlad. Ond yn drist iawn, fe fu farw yn 62 mlwydd oed yn 2017. Colled enfawr. Y wers a ddysgais yn yr Eisteddfod Ryng Gol y flwyddyn honno oedd bod cyfuno doniau, a chydweithio ar draws gwledydd sydd â diwylliant hollol wahanol, yn werthfawr, ac yn gallu creu gwyrthiau. Daeth hyn i gyd nôl i mi ar noson Gala Ethno Abertawe. Mor braf gwybod bod y brifysgol yn dal i ddathlu amrywiaeth ac yn cefnogi diwylliannau gwahanol. Dwi wedi bod yn rhedeg cwmni teledu a radio yma yng Nghymru ers dros 30 mlynedd bellach. Mae’r swyddfa yn Stiwdio’s y Bae, gyferbyn y campws newydd. Rydyn ni’n gwmni sydd yn ceisio arddangos celfyddyd Cymru gymaint a fedrwn. Er anodd iawn yw cael rhaglenni ar y rhwydwaith Brydeinig i ddangos diwylliant Cymru. Ond mae darlledu o’r Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, a’r Ŵyl Cerdd Dant yn bwysig i ni. Mae ein prif gyfres Ffermio yn adlewyrchu bywyd cefn gwlad, ac amaethu. Ac mae Cefn Gwlad Cymru yn allweddol i ffyniant diwylliant ein cenedl.

ELIN RHYS SEFYDLWR, TELESGOP BSC BIOCEMEG Nôl ym mis Chwefror fe wnaeth Pablo Josiah, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, fy ngwahodd, fel aelod o Gyngor y Brifysgol, i ddigwyddiad dathlu Gala Ethno Abertawe. A dyna beth oedd dathliad o wahanol ddiwylliannau o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i fwynhau. Pawb mewn gwisgoedd lliwgar - a minnau yn fy ffrog blaen arferol! Ond pawb yn dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol. Fe aeth hyn â fi nôl i fy nyddiau fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn y saithdegau a f’atgoffa am y rhesymau pam y mae’r brifysgol hon yn lle mor arbennig. Rwy’n cofio fel ddoe bod yn rhan o drefnu tîm Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe i gystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Tua canol y saithdegau oedd hi. Bryd hynny, roedd y Cymry Cymraeg yn heidio i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor - dyna’r lle oedd y Cymry ifanc diwyllianol yn mynd!! Felly roedd y gym-gym yn Abertawe wastad yn dod yn olaf yn y cystadlu, ac yn teimlo allan ohonni braidd. Llawer mwy Cymreig na gweddill myfyrwyr Abertawe, ond ddim yn ddigon

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan swan.ac/elinrhys-cy

24

Bûm yno yn ffilmio yn ddiweddar, ac wrth y ford fwyd yr oedd Muhammad o Hebron ym Mhalesteina, Ynyr o Sir Gaernarfon, Monica o’r Unol Daleithiau, Livia o’r Eidal, Smaragda o Roeg. Pawb yn siarad yr un iaith - gwyddoniaeth, ond pob un yn parchu diwylliant y lleill. Mae cymaint gan wleidyddion ein byd i’w ddysgu gan staff a strwythur CERN. 70 mlynedd yn ôl - y rheswm pam y daeth CERN i fodolaeth oedd bod gwyddonwyr eisiau gweithio gyda’i gilydd yn enw heddwch. Wedi cyflafan yr ail ryfel byd, a’r bomiau ddisgynodd ar Siapan, roedd gwyddonwyr eisiau creu arbrawf enfawr lle gallai gwledydd Ewrop gyd weithio a rhannu’r canlyniadau. A bellach mae’n agored i wledydd tu fas i Ewrop. Nôl yn nyddiau yr Eisteddfod Ryng Gol - fe ddysgais na fydden fyth yn ennill ar ein pennau ein hunain. Ond drwy ddod â diwylliannau eraill, gwahanol, at ei gilydd - roedd modd symud mynyddoedd. Mae’r un peth yn wir yn CERN. Dwi’n trio bod mor eangfrydig ag y medraf - tra hefyd yn caru diwylliant Cymru, ei cherddoriaeth, ei barddoniaeth, a’i gwyddonwyr! Er hyn rwyf yn poeni y byddwn fel cenedl yn colli rhai o’r pethau sydd yn greiddiol i’n Cymreictod. Mae angen i ni fynd allan i’r byd i ddangos ein talentau ac i fynnu ein bod yn cael chwarae teg ar deledu a radio Seisnig, ac ar draws y byd. Ein diwylliant sydd yn ein cynnal. Am gyfnod byr yn yr wythdegau, cyn mynd i fyd darlledu, bûm yn gweithio yn y Bwrdd Dŵr - a phan adewais, fe wnaeth fy mhennaeth roi anrheg i fi. Dim ond llun plaen gyda geiriau arno - “OS WYT TI’N GWYBOD O BLE RWYT TI’N DOD - DOES DIM DIWEDD I BLE ALLI DI FYND.” Geiriau doeth rwy’n eu cadw yn agos at fy nghalon hyd heddiw.

Ond gwyddoniaeth ydy fy mhrif ddiddordeb i. Ac mae yna gelfyddyd mewn gwyddoniaeth hefyd. Fy mhrosiect diweddaraf yw cynhyrchu ffilm am CERN - yr arbrawf ffiseg mwyaf yn y byd, sydd yn dathlu penblwydd yn 70 eleni. Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiad agos iawn â CERN reit o’r dechrau. Eifionydd Jones o’r adran ffiseg oedd y cyntaf i fynd yno - a gweithio ar brosiect a enillodd wobr Nobel. Gwaetha’r modd bu farw yn ifanc. Cyn bo hir wedyn fe aeth Lyn Evans allan yno - a fe oedd y gwyddonydd a wnaeth gynllunio y Large Hadron Collider - yr LHC. Yn fwy diweddar aeth Rhodri Jones yno - a fe, erbyn hyn, yw Pennaeth y Pelydrau. Mae Lyn a Rhodri yn Gymrodorion Prifysgol Abertawe. Ond yr hyn rwy’n ei garu am CERN yw nid y gwyddoniaeth ddisglair sydd yn digwydd yno - er bod honno yn ardderchog - ond y ffordd y mae gwyddonwyr o wledydd ar draws y byd, o bob diwylliant dan haul, yn cydweithio yn hapus ac yn rhannu eu canlyniadau.

25

CYN-FYFYRWYR SY’N HYRWYDDWYR

SIAN THOMAS BA AC MA CYMRAEG,

berfformio yn nrama Richard III Shakespeare yn yr RSC yn Stratford upon Avon a gyfarwyddwyd gan Sam Mendes, a The Seagull gan Chekhov yn yr Old Vic ym Mryste. Ym 1996, serennodd yn Hillsborough, y ddrama bwerus am drychineb Hillsborough pan fu farw 96 o gefnogwyr pêl-droed. Enillodd Annabelle radd er anrhydedd yn 2019, ac meddai: “Cysylltodd Abertawe fi â harddwch noeth natur, yn ogystal ag addysg uwch, ac â chymdeithas gyfeillgar o bobl. Roedd yn lle ble gallwn gael fy nhraed danaf a thyfu rywfaint. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am y cyfle hwnnw”. NICHOLAS JONES BA GWLEIDYDDIAETH, DOSBARTH 1990. SEREN ROC Cyfansoddwr diwylliant: Nicky yw’r cyfansoddwr geiriau a chwaraewr gitâr bas gyda’r band roc, Manic Street Preachers. Ffurfiwyd y band ym 1986, gan fynd ymlaen i gyflawni llwyddiant beirniadol a masnachol. Dros y blynyddoedd, maen nhw wedi ennill 11 gwobr NME, 8 gwobr Q, 4 gwobr BRIT ac wedi cael eu henwebu am Wobr Cerddoriaeth Mercury ym 1996 a 1999. Meddai: “Cafodd fy ngradd mewn gwleidyddiaeth ddylanwad mawr ar fy ngeiriau.

DOSBARTH 1980. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU

PATRICIA KINANE, OBE BA SAESNEG A DRAMA, DOSBARTH 1974. UWCH-GYNHYRCHYDD TELEDU

Crëwr diwylliant: Sian oedd y cyflwynydd benywaidd cyntaf ar S4C. Meddai: “Roedd bod yno ar ddechrau S4C yn fythgofiadwy. Bu cymaint o frwydro ac aberth yn gefndir i sefydlu S4C, ac roeddwn i’n awyddus i wneud fy ngorau i sicrhau ei llwyddiant. Roeddwn yn un o dri chyflwynydd cyntaf y sianel, a’r ieuengaf...Mae’n fraint cael rhannu straeon, ymweld â chartrefi pobl ac adrodd eu straeon. Mae hefyd yn golygu fy mod wedi cael y cyfle i deithio’r byd a ffilmio mewn llawer o wledydd gwahanol”. ANNABELLE APSION BA DRAMA A SAESNEG, DOSBARTH 1984. ACTORES

Arweinydd diwylliant: Ym myd teledu, does dim llawer o sioeau sy’n fwy nag America’s Got Talent ac American Idol. Mae Trish Kinane wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw i’n sgriniau a gwerthu fformatau teledu ledled y byd. Dywedodd: “Ymunais i â Freemantle Media fel Llywydd Adloniant Byd-eang, a gwnes i hynny am flwyddyn cyn i mi gael fy ngwahodd i fynd i’r Unol Daleithiau i redeg The X Factor, America’s Got Talent ac American Idol. Mae hirhoedledd i’r sioeau oherwydd y fformatau syml lle mae pobl dalentog, drwy gymryd rhan yn y sioeau, yn gallu newid eu bywydau. Yn achos y sioeau cerddorol, mae pobl ifanc yn cyrraedd 15 oed bob blwyddyn felly gallan nhw gymryd rhan, ac mae’r gerddoriaeth yn newid o hyd sy’n golygu bod y sioeau’n ffres drwy’r amser.”

Gwneuthurwr diwylliant: Gan ddechrau ei gyrfa gyda phrif rolau yng nghynyrchiadau Grwpiau Shared Theatre, megis The Bacchae, Heartbreak House, ac Anna Karenina, aeth Annabelle ymlaen i

Roedd yn bwynt cyfeirio a dadansoddu ar gyfer fy ysgrifennu”.

26

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online