SAIL Magazine 2024 [Welsh]

CYN-FYFYRWYR

LLAIS ANGERDDOL DROS Y GWIR A NEWID Mae Ayo Mairo-Ese, a raddiodd o raglen Cysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe yn 2009, yn ffynnu ar heriau a gwobrwyon bod yn angor newyddion gydag Arise TV yn Nigeria. Mae ymroddiad Ayo i’r gwir, grymuso pobl a gwneud y pwerus yn atebol yn amlwg. Mae ei thaith, ynghyd â’i phrofiadau yn Nigeria a Chymru, yn ei gwneud yn llais pwerus dros newid cadarnhaol. Canfod Pwrpas mewn Newyddiaduraeth C: Ayo, beth sy’n eich ysgogi fwyaf yn eich rôl yn Arise TV? Dau beth sydd wir yn fy ysgogi. Yn gyntaf, y tîm anhygoel yn Arise TV. Maen nhw’n fy ngwthio bob dydd i fod yn ddarlledwr gwell. Ond rhywbeth sy’n bwysicach fyth yw’r platfform sydd gennyf i addysgu a grymuso pobl, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. C: Mae’n ymddangos bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhan sylweddol o’ch ymagwedd at gasglu newyddion. Sut rydych chi’n defnyddio hyn i lywio eich rhaglennu? Rydych chi yn llygad eich lle! Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn pontio’r bwlch rhyngof fi a’r gwylwyr, gan roi cyfle i mi glywed eu pryderon. Gallwn i ofyn am gostau byw cynyddol neu a ydy pobl yn gallu fforddio anfon eu plant i’r ysgol. Yna mae’r atebion hyn yn sbarduno trafodaethau ar y sioe. Mae’n bwysig gwrando ar y realiti mae pobl yn ei wynebu a’i ddeall.

C: Rydych chi’n adnabyddus am eich arddull gyfweld ddigyfaddawd ond teg. Pa mor bwysig yw gwirio ffeithiau i chi? Hollbwysig. Cyn pob cyfweliad, bydda i’n gwneud ymchwil helaeth i wirio honiadau. Rydyn ni’n gwneud ffigurau dylanwadol yn atebol ac yn sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael gwybodaeth gywir.

Grymuso Menywod: Cenhadaeth Bersonol

C: Rydych chi’n eiriolwr cryf dros rymuso menywod. Beth yw eich barn am gynnydd yn Nigeria? Mae llawer i’w wneud o hyd. Mae’n gymdeithas batriarchaidd ond fydda i ddim yn cadw’n dawel. Roeddwn i’n un o sefydlwyr SpeakHer sy’n dysgu sgiliau cyfathrebu i fenywod. Mae angen gwella diogelwch i fenywod a newid cyfreithiau sy’n gwahaniaethu. Rwy’n angerddol am gefnogi menywod mewn ffyrdd amrywiol. Un enghraifft yn unig yw SpeakHer. Rwyf hefyd yn llysgennad yn erbyn trais rhywiol ac yn fentor i fenywod. Rwy’n defnyddio gwahoddiadau i siarad i ysbrydoli a grymuso eraill. Abertawe: Catalydd dros Newid C: Sut mae eich amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi dylanwadu ar eich ymagwedd at newyddiaduraeth? Wrth fyw yn y Deyrnas Unedig, ces i brofiad o ddiwylliant o atebolrwydd. Roedd disgwyl i arweinwyr fod yn atebol i’r cyhoedd. Mae’r profiad hwn wedi llywio fy ymrwymiad i fynnu bod arweinwyr yn atebol yn Nigeria.

08

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online