SAIL Magazine 2024 [Welsh]

Abertawe yn India Ym mis Mai, aeth tîm y cyn-fyfyrwyr i India am gyfle i gymdeithasu â’n cyn-fyfyrwyr yno. Cawsom ddigwyddiadau gwych yn Delhi, Mumbai a Bangalore. Roedd hi hefyd yn bleser cael y cyfle i siarad â Megha a Geetanjali sy’n fodlon ein helpu i ddatblygu rhwydwaith ein cyn-fyfyrwyr yn India.

ABERTAWE YN LLUNDAIN

Ym mis Medi, aethom â rhai o’n hymchwilwyr academaidd i Lundain ar gyfer ein digwyddiad cymdeithasol i gyn-fyfyrwyr. Enw’r digwyddiad oedd “There is something in the seaweed”. Bu ein hymchwilwyr yn siarad am gadwraeth crwbanod; sut maen nhw’n defnyddio micro-algâu i storio carbon; a sut maen nhw’n defnyddio alginadau yn y broses o ddal a storio gwres. Roedd hi’n noson ddiddorol a oedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio â chyn- fyfyrwyr yn Llundain.

HANNER MARATHON ABERTAWE PRIFYSGOL ABERTAWE

Cymerodd staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ran yn Hanner Marathon Abertawe am yr ail flwyddyn yn olynol, gan godi mwy nag £20,000 ar gyfer ein hymgyrch Camau Breision Dros Iechyd Meddwl. Cefnogodd y Cymrodorion Er Anrhydedd, Ryan Jones a Lowri Morgan, Dîm Abertawe, drwy roi sgwrs i ysbrydoli’r tîm cyn y ras. Ar ôl y ras, roedd gwahoddiad i’n rhedwyr ddychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i glywed cyfanswm yr arian a godwyd, bwyta toesenni ac yfed ychydig o brosecco i ddathlu! Yn mynd â’ch bryd ? Gallwch gofrestru eich diddordeb mewn rhedeg yn 2025, cael mwy o wybodaeth neu roi yma: www.swansea.ac.uk/cy/camau-breision/

13

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online