SAIL Magazine 2024 [Welsh]

CYMRAWD ER ANRHYDEDD SGWRS GYDA’R GANTORES SOPRANO O FRI REBECCA EVANS Mae Rebecca Evans, soprano enwog, yn trafod ei llwybr gyrfa ysbrydoledig, ei chariad diwyro at opera, a’i threftadaeth Gymreig. Bywyd Cynnar a Dechrau Canu C: Lle dechreuodd eich taith operatig? Dechreuodd fy ngyrfa ganu ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn i’n 12 oed. Roedd adeilad y tu ôl i’r adran Eigioneg lle byddwn i’n cael gwersi preifat gyda bariton gwych bob nos Iau. Hyd yn oed pan oeddwn i’n bedair oed, roedd cerddoriaeth glasurol o’m cwmpas, diolch i fy mam, cyn-gantores opera, a chariad fy nhad at ddarnau cerddorfaol. Fe wnaeth opera fy swyno heb os. Cerddoriaeth i bawb o bobl y byd C: Yw cerddoriaeth yn mynd y tu hwnt i rwystrau diwylliannol? Yw opera’n cyfleu emosiynau cyffredinol? Does dim dwywaith! Mae opera, fel cerddoriaeth yn gyffredinol, yn hynod hygyrch. Rydyn ni gyd yn ei ddehongli’n wahanol, ond mae’r negeseuon a’r emosiynau craidd yn atseinio gyda chynulleidfaoedd o bob cefndir.

Dathlu ein diwylliant C: Ydych chi’n teimlo cyfrifoldeb i hyrwyddo diwylliant Cymru? Sut rydych chi’n gwneud hyn? Ydw, yn bendant! Rwy’n ymwneud yn helaeth â’r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig, yn ei chyfarwyddo ac yn mentora’r enillydd i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Rwy’n Gyfarwyddwr rhaglen Artistiaid Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru hefyd, lle byddaf yn mentora cantorion ifanc. Rwy’n teimlo mai fy nyletswydd yw trosglwyddo’r grefft ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Traddodiad a moderniaeth mewn opera C: Sut ydych chi’n cydbwyso parchu traddodiad â gwneud opera’n berthnasol i gynulleidfaoedd cyfoes? Rwy’n ymroi i barchu’r gelfyddyd, bod yn driw i’r testun, a dilyn gweledigaeth y cyfarwyddwr. Mae’r cyfarwyddwyr yn ail-ddehongli’r stori, gan ei chadw’n berthnasol. Mae popeth yn troi mewn cylch; rydym wedi gweld cynyrchiadau traddodiadol a rhai minimalaidd. Yn y pen draw, mae’n golygu cael y cydbwysedd cywir - apelio at gynulleidfaoedd newydd wrth ofalu am y rhai sydd wedi cefnogi opera am 20,30 neu 40 mlynedd hefyd. Mae perfformiadau presennol yn llai minimalaidd fel y gall cynulleidfaoedd ymhyfrydu yn harddwch y cynhyrchiad mewn byd sy’n ddigon hyll ar hyn o bryd. Comedi neu Drasiedi a chyngor i ddarpar artistiaid C: Oes gennych chi hoff genre i’w berfformio? Er fy mod i’n hoff iawn o drasiedïau, comedi yw’r ffefryn. Mae actio a dod â chymeriad yn fyw yn fraint ac yn dipyn o hwyl. I ddarpar artistiaid, byddwch yn driw i chi’ch hun a dathlu’ch treftadaeth drwy’ch celfyddyd. Ewch ati i ganu neu actio o’r galon.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/rebeccaevans-cy

14

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online