Hoff leoliadau a chysylltiadau perfformio C: Beth yw eich hoff le i ganu? A dweud y gwir, Canolfan y Mileniwm! Mae bod yn agos at fy nheulu a chysgu yn fy ngwely fy hun yn ei gwneud yn lle arbennig. Ond mae’r Metropolitan Opera a’r Tŷ Opera Brenhinol Covent Garden yn anhygoel hefyd. Mae’r cyswllt â’r gynulleidfa yn aruthrol! Mae eu clywed yn chwerthin ar adegau doniol yn codi ysbryd rhywun!
Taith wedi’i thanio gan angerdd C: Soniwch am eich taith i fyd opera a dylanwad eich treftadaeth Gymreig Mae gen i ddiddordeb angerddol mewn cerddoriaeth ers yn blentyn. Roedd fy nhad yn mynnu ‘mod i’n dilyn gyrfa fwy ymarferol, felly hyfforddais fel nyrs, ond fe ges wersi a pharhau i ganu fel amatur nes cwrdd ag arweinydd côr ysbyty ar hap gan arwain at gyfleoedd fel unawdydd. Roedd cyfarfod Syr Bryn Terfel yn drobwynt - fe wnaeth fy annog i astudio yn Ysgol Cerdd a Drama y Guildhall. Yn y pen draw, fe gynhesodd fy rhieni at y syniad, a chyda’u cefnogaeth, dechreuais ar y daith anhygoel hon sydd wedi para 35 mlynedd. Gwneud opera’n hygyrch C: Unrhyw gyngor i fynychwyr opera am y tro cyntaf? Ewch gyda meddwl agored! Mae uwchdeitlau’n ei gwneud hi’n haws dilyn y stori ac os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r opera, darllenwch grynodeb ymlaen llaw. Chwiliwch am adnoddau ar-lein fel pigion i ddysgu mwy. Dyw opera ddim yn elitaidd; mae’n ymwneud ag archwilio diwylliannau gwahanol a phrofi harddwch cerddoriaeth. Rhowch gynnig arni, efallai y byddwch chi wrth eich bodd!
REBECCA EVANS SOPRANO OPERA BYD-ENWOG
15
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online