SAIL Magazine 2024 [Welsh]

C: Beth yw dylanwadwr? Dydw i ddim yn rhy hoff o’r term dylanwadwr, mae wedi cael ei greu gan y cyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n well gen i eu galw nhw’n grewyr neu’r doniau. Mae dylanwadwyr yn grewyr sydd â llawer iawn o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gallan nhw ddylanwadu ar benderfyniadau eu cynulleidfa. Mae modd uniaethu â nhw o gymharu ag enwogion traddodiadol. C: Beth yw rhai o’r heriau mwyaf o ran bod yn rheolwr ar ddylanwadwyr? Addysgu brandiau am farchnata dylanwadwyr. Mae angen i frandiau ymddiried yn y crewyr a chaniatáu i’w lleisiau nhw gael eu clywed wrth gydweithredu. Mae’n ymwneud â chanfod y cydbwysedd perffaith ar gyfer brandiau a chrewyr. Mae yna heriau hefyd o ran amddiffyn buddiannau crewyr, cadw i fyny â’u diddordebau personol sy’n esblygu, a’u paru â brandiau addas. C: Sut ydych chi’n adnabod y dylanwadwr cywir ar gyfer brand? Mae OP Talent yn blaenoriaethu paru crewyr o’n rhestr yn y lle cyntaf. Rydyn ni’n ystyried demograffeg, diddordebau, cyllideb ac amseru. Gall y dylanwadwr cywir greu cynnwys sy’n cyd-fynd â neges y brand gan aros yn driw i’w harddull eu hunain. Os allwn ni ddim paru’n gywir, gallwn ni weithio hefyd gyda chrewyr sydd heb gytundeb i ddod o hyd i rywbeth sy’n gweithio i’r brand. C: Gall dylanwadwyr yrru symudiadau cymdeithasol ac ymgyrchoedd. Ydych chi’n gweld mwy o rôl iddyn nhw yn y cyfrwng hwn? Gall dylanwadwyr ymhelaethu ar negeseuon a thrafodaethau ar faterion cymdeithasol, ond mae angen iddyn nhw fod yn wybodus am y pwnc y maen nhw’n gwneud sylwadau arno. Gallan nhw dynnu sylw at bwnc neu helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd y byddai cyfryngau traddodiadol yn ei chael hi’n anodd eu denu. C: Pa gyngor sydd gennych chi ar gyfer darpar YouTubers a rheolwyr dylanwadwyr? Mae cynnwys yn allweddol. Aros yn driw i chi eich hun a chanolbwyntio ar greu cynnwys o safon. Adeiladu ethos gwaith cryf.

C: Beth yw rhai o’r tueddiadau sy’n dod i’r amlwg yn y maes marchnata dylanwadwyr? Mae micro-ddylanwadwyr yn ennill tir ar gyfer ymgyrchoedd wedi’u targedu gydag arbenigedd a demograffeg benodol. Er bod gan facro- ddylanwadwyr apêl a chynulleidfa gyffredinol fwy, maen nhw’n costio mwy hefyd. Mae’r duedd yn mynd tuag at ddylanwadwyr mwy er mwyn cael cydnabyddiaeth eang i’r brand; fodd bynnag, mae brandiau llai yn troi at ficro- ddylanwadwyr ar gyfer ymgyrchoedd sydd wedi’u teilwra i raddau mwy ac sydd o fewn eu cyllideb. Mae’r dull hwn yn caniatáu targedu mwy dethol ac yn sicrhau y gellir ymgysylltu â darpar gwsmeriaid. C: Beth yw rhai enghreifftiau o gydweithrediadau gan OP Talent? Ail-ornest focsio rhwng KSI a Logan Paul (agor drysau prif ffrwd i ddylanwadwyr) Taith fyd-eang DanTDM (yn arddangos cyrhaeddiad digwyddiadau dylanwadwyr) Cydweithredu rhwng Ali-A a Porsche (enghraifft gynnar o lwyddiant marchnata dylanwadwyr) C: A oes unrhyw ystyriaethau moesegol i’w hystyried pan fyddwch chi’n gweithio gyda dylanwadwyr? Yn bendant! Mae OP Talent yn osgoi hyrwyddo pethau fel cryptoarian neu docynnau anghyfnewidiadwy (NFTs) oherwydd eu cymhlethdod a risgiau posibl. Rydyn ni’n blaenoriaethu diogelwch brandiau ac yn osgoi bargeinion a allai effeithio’n negyddol ar hygrededd crewyr ac enw da’r brand. C: Sut mae dylanwadwyr yn newid diwylliant? YouTubers yw’r cyfryngau prif ffrwd newydd. Maen nhw ar gael trwy’r amser, gan greu cysylltiad cryf â’u cynulleidfa. Mae hyn wedi newid tueddiadau diwylliannol oherwydd cyflymder a hygyrchedd cynnwys. Does dim rhaid i chi aros tan brynhawn Sadwrn i wylio David Beckham mewn gêm bêl-droed nac aros am y ffilm Tom Cruise nesaf ymhen chwe mis i’w weld yn y sinema. Mae YouTubers ymlaen trwy’r amser.

17

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online