STREETSNAP: LANSIO AP CYNTAF O’I FATH I FEITHRIN GWYDNWCH Y GYMUNED I GASINEB Mae’r gwyddonydd cymdeithasol blaenllaw o Brifysgol Abertawe Dr Lella Nouri a’i thîm wedi datblygu ap newydd sy’n chwyldroi’r ffordd y gall cymunedau olrhain ac adrodd am graffiti casineb gyda’r nod o ddeall tensiynau mewn cymuned a llunio rhaglenni ymyrraeth er mwyn rhoi diwedd ar y problemau. Mae’r ap StreetSnap yn system adrodd gyntaf o’i bath, a bydd ar gael i’w ddefnyddio ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr cyn bo hir. Mae’r ap yn cael ei dreialu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd, ac fe’i crëwyd mewn partneriaeth â Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru a Chyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chyllid drwy raglen partneriaeth SMART Llywodraeth Cymru, gan roi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ar waith. YMCHWIL O ddadgodio graffiti, i daflu goleuni ar lenyddiaeth LHDTC+ a dealltwriaeth a chefnogi bwydo ar y fron ar lefel gymdeithasol. Mae ein hymchwil yn parhau i amddiffyn,dogfennu a siapio ein tirwedd ddiwylliannol
Datblygwyd StreetSnap i’w ddefnyddio gan yr heddlu, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr glanhau, staff y cyngor, swyddogion tai ac addysg. Gall defnyddwyr yr ap dynnu lluniau o graffiti casineb a rhoi gwybod amdano ar unwaith i’r awdurdodau perthnasol. Mae timau glanhau strydoedd yn cael eu hysbysu ar unwaith, a byddant yn dod draw i’r safle a chael gwared ar arwyddion casineb. Mae swyddogion gwrthderfysgaeth yr heddlu hefyd yn cael y data, ochr yn ochr â gweithwyr ieuenctid a gwasanaethau cymdeithasol, er mwyn dadansoddi’r wybodaeth a chymryd y camau angenrheidiol. Gall ymyriadau gynnwys sesiynau addysg ieuenctid mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid a chlybiau cymdeithasol, gyda’r nod o ddeall y cymhelliant sydd wrth wraidd y graffiti casineb ac annog y rhai sy’n ei greu i ystyried eu gweithredoedd yn fanylach.
Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/ApStreetSnap
18
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online