Y CYFRANIAD Y MAE LLENYDDIAETH LHDTC+ GYMRAEG WEDI’I WNEUD YNG NGHYMRU A LEDLED Y BYD Yr Her Mae’n hawdd anghofio pa mor ymylol y mae profiadau LDHTC+ wedi bod yng Nghymru a Phrydain gyfan. Yn hanesyddol, mae astudiaethau llenyddol a bywgraffiadau wedi tueddu i anwybyddu neu hyd yn oed i guddio bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LDHTC+) yng Nghymru. Mae’r ymchwil hon i lenyddiaeth LDHTC+ o Gymru yn datgelu bod pobl gwiar wedi gwneud cyfraniad pwysig i lenyddiaeth a hanes Cymru a’r byd. Mae ymchwil yr Athro Kirsti Bohata i lenyddiaeth LHDTC+ o Gymru’n datgelu bod pobl hoyw wedi gwneud cyfraniad pwysig at lenyddiaeth a hanes Cymru a’r byd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio’n benodol ar fywyd a gwaith llenyddol Amy Dillwyn (1845–1935), a oedd yn ddiwydiannwr ac yn nofelydd yn oes Fictoria. Mae’r Athro Bohata wedi adfer Dillwyn fel awdures allweddol llenyddiaeth Fictoraidd hoyw a dyddiadurwraig y mae ei gwaith llenyddol yn taflu goleuni newydd ar hunaniaethau rhywedd anghonfensiynol a chwant rhwng pobl o’r un rhyw.
Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/LGBTQGymraeg
CYNYDDU CYFRADDAU BWYDO AR Y FRON Yr Her
Mae cyfraddau bwydo ar y fron yn y DU ymhlith y rhai isaf yn y byd. Mae hyn yn niweidio iechyd ein poblogaeth a’n heconomi ac yn bwysicaf oll mae’n gallu gadael menywod yn llawn siom; nid yw hyd at 90% o famau sy’n rhoi’r gorau i fwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn barod i wneud hynny. Er y bydd materion ffisiolegol wedi atal rhai menywod rhag bwydo ar y fron, i’r rhan fwyaf o fenywod bydd diffyg cefnogaeth yn arwain at ragor o gymhlethdodau a’r angen i roi’r gorau iddo cyn eu bod yn barod i wneud hynny. Mae llawer o strategaethau i gefnogi bwydo ar y fron yn canolbwyntio ar gymorth ymarferol ar gyfer menywod ar lefel bersonol. Tra bod hyn yn bwysig, mae ymchwil Amy wedi archwilio dylanwadau seico-gymdeithasol-ddiwylliannol ehangach sy’n niweidio bwydo ar y fron, yn enwedig dealltwriaeth wael ar lefel gymdeithasol ynghylch sut mae bwydo ar y fron yn gweithio ac ymddygiad arferol babanod. Amlygodd ei gwaith fod angen newid ar lefel gymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar fenywod unigol, er mwyn creu amgylchedd sy’n deall ac yn cefnogi bwydo ar y fron.
Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan: swan.ac/bwydo-ar-y-fron
19
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online