CYN-FYFYRWYR
CYSYLLTU DIWYLLIANNAU DRWY THEATR: SAFBWYNT TSIEINEAIDD
A finnau wedi fy magu mewn teulu theatraidd, ces i fy nenu gan fyd creadigol y celfyddydau a byd dadansoddol y gyfraith. O ganlyniad i’r gwrthdaro mewnol hyn, penderfynais i astudio’r gyfraith yn Tsieina, ond newidiodd popeth yn sgîl anogaeth gan fy rhieni ac athro cofiadwy ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd fy nheulu’n berchen ar gwmni theatr. Yn Abertawe, cyflwynodd yr Athro Beale blatfformau masnachu eiddo deallusol i mi, gan sbarduno syniad: gallwn i ehangu arlwy’r cwmni. Wedi fy ysbrydoli, es i ati i sicrhau trwyddedau i addasu dros 20 o gynyrchiadau gorllewinol, gan gynnwys dramâu bytholwyrdd Agatha Christie, ar gyfer cynulleidfaoedd Tsieineaidd. Ysgogodd hyn batrwm; a dechreuodd theatrau eraill yn Tsieina gyflwyno dramâu a sioeau cerdd gorllewinol. Wedi’u cyfareddu gan y straeon hyn, teithiodd cynulleidfaoedd mor bell â Llundain hyd yn oed i weld y sioeau gwreiddiol. Roedd fy nhaith yn teimlo fel cyfraniad ymarferol at ddealltwriaeth ddiwylliannol rhwng Tsieina a’r Deyrnas Unedig. Mae cynulleidfaoedd Tsieineaidd yn mwynhau dramâu gorllewinol. Mae gan straeon ditectif apêl arbennig. Er eu bod wedi’u gwreiddio mewn diwylliannau penodol, mae dramâu gwych, fel rhai Shakespeare a Tang Xianzu, yn croesi ffiniau oherwydd eu themâu byd-eang a’r profiadau dynol diamser a geir ynddynt.
RWYF WEDI WYNEBU HERIAU; CYFIEITHU YW’R UN FWYAF BOB AMSER. RHAID I’R CYFIEITHIAD FOD YN GLIR, YN FFYDDLON AC YN GREFFTUS, RHAID IDDO GYFLEU BWRIAD YR AWDUR WRTH GYSYLLTU Â CHYNULLEIDFA NEWYDD.
Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan swan.ac/renxiaozhang-cy
22
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online