CYN-FYFYRWYR
Cymreig i ffitio fewn gyda criw Aber a Bangor. Felly dyma drio neud rhywbeth am hyn. Roedd gen i ffrind yn Neuadd Gilbertson, neuadd y bechgyn gerllaw gerddi Clyne, a minnau yn Neuadd Martin, neuadd y merched, drws nesa. Roedd Rehman Rashid yn ganwr heb ei ail - ac yn canu’r gitâr yn ei arddull unigryw ei hun. Un o Kuala Lumpur, Malaysia oedd e. Awgrymais efallai y byddai ei gynnwys ef yn y ‘line-up’ yn syniad! Cytunodd gymeryd rhan ac fe gododd y tô! Ac roedd yna barti canu o Chile wedi cynnig ein helpu - yn gwisgo eu gwisg draddodiadol a chanu mewn harmoni. Ar nos Sadwrn y Steddfod - roedd hi’n gystadleuaeth y Noson Lawen. Pob prifysgol yn darparu chwarter awr o adloniant. Cyrhaeddodd tîm Prifysgol Abertawe y llwyfan gyda’r anfarwol Ieuan Tomos yn arwain. Roedd ambell eitem ganddon ni’r Cymry, grŵp pop, a dawnswyr gwerin, ond yno i helpu yr oedd Chile a Malaysia!! Am y tro cynta erioed , enillodd Prifysgol Abertawe y gystadleuaeth Noson Lawen!! Doedd dim diwedd ar y dathlu. Newyddiadurwr oedd Rehman Rashid, a ddaeth yn awdur enwog yn ei wlad. Ond yn drist iawn, fe fu farw yn 62 mlwydd oed yn 2017. Colled enfawr. Y wers a ddysgais yn yr Eisteddfod Ryng Gol y flwyddyn honno oedd bod cyfuno doniau, a chydweithio ar draws gwledydd sydd â diwylliant hollol wahanol, yn werthfawr, ac yn gallu creu gwyrthiau. Daeth hyn i gyd nôl i mi ar noson Gala Ethno Abertawe. Mor braf gwybod bod y brifysgol yn dal i ddathlu amrywiaeth ac yn cefnogi diwylliannau gwahanol. Dwi wedi bod yn rhedeg cwmni teledu a radio yma yng Nghymru ers dros 30 mlynedd bellach. Mae’r swyddfa yn Stiwdio’s y Bae, gyferbyn y campws newydd. Rydyn ni’n gwmni sydd yn ceisio arddangos celfyddyd Cymru gymaint a fedrwn. Er anodd iawn yw cael rhaglenni ar y rhwydwaith Brydeinig i ddangos diwylliant Cymru. Ond mae darlledu o’r Eisteddfod Ffermwyr Ifanc, a’r Ŵyl Cerdd Dant yn bwysig i ni. Mae ein prif gyfres Ffermio yn adlewyrchu bywyd cefn gwlad, ac amaethu. Ac mae Cefn Gwlad Cymru yn allweddol i ffyniant diwylliant ein cenedl.
ELIN RHYS SEFYDLWR, TELESGOP BSC BIOCEMEG Nôl ym mis Chwefror fe wnaeth Pablo Josiah, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, fy ngwahodd, fel aelod o Gyngor y Brifysgol, i ddigwyddiad dathlu Gala Ethno Abertawe. A dyna beth oedd dathliad o wahanol ddiwylliannau o bob cwr o’r byd yn dod at ei gilydd i fwynhau. Pawb mewn gwisgoedd lliwgar - a minnau yn fy ffrog blaen arferol! Ond pawb yn dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol. Fe aeth hyn â fi nôl i fy nyddiau fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn y saithdegau a f’atgoffa am y rhesymau pam y mae’r brifysgol hon yn lle mor arbennig. Rwy’n cofio fel ddoe bod yn rhan o drefnu tîm Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Abertawe i gystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Tua canol y saithdegau oedd hi. Bryd hynny, roedd y Cymry Cymraeg yn heidio i Brifysgolion Aberystwyth a Bangor - dyna’r lle oedd y Cymry ifanc diwyllianol yn mynd!! Felly roedd y gym-gym yn Abertawe wastad yn dod yn olaf yn y cystadlu, ac yn teimlo allan ohonni braidd. Llawer mwy Cymreig na gweddill myfyrwyr Abertawe, ond ddim yn ddigon
Darllenwch y cyfweliad llawn ar ein gwefan swan.ac/elinrhys-cy
24
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online