Bûm yno yn ffilmio yn ddiweddar, ac wrth y ford fwyd yr oedd Muhammad o Hebron ym Mhalesteina, Ynyr o Sir Gaernarfon, Monica o’r Unol Daleithiau, Livia o’r Eidal, Smaragda o Roeg. Pawb yn siarad yr un iaith - gwyddoniaeth, ond pob un yn parchu diwylliant y lleill. Mae cymaint gan wleidyddion ein byd i’w ddysgu gan staff a strwythur CERN. 70 mlynedd yn ôl - y rheswm pam y daeth CERN i fodolaeth oedd bod gwyddonwyr eisiau gweithio gyda’i gilydd yn enw heddwch. Wedi cyflafan yr ail ryfel byd, a’r bomiau ddisgynodd ar Siapan, roedd gwyddonwyr eisiau creu arbrawf enfawr lle gallai gwledydd Ewrop gyd weithio a rhannu’r canlyniadau. A bellach mae’n agored i wledydd tu fas i Ewrop. Nôl yn nyddiau yr Eisteddfod Ryng Gol - fe ddysgais na fydden fyth yn ennill ar ein pennau ein hunain. Ond drwy ddod â diwylliannau eraill, gwahanol, at ei gilydd - roedd modd symud mynyddoedd. Mae’r un peth yn wir yn CERN. Dwi’n trio bod mor eangfrydig ag y medraf - tra hefyd yn caru diwylliant Cymru, ei cherddoriaeth, ei barddoniaeth, a’i gwyddonwyr! Er hyn rwyf yn poeni y byddwn fel cenedl yn colli rhai o’r pethau sydd yn greiddiol i’n Cymreictod. Mae angen i ni fynd allan i’r byd i ddangos ein talentau ac i fynnu ein bod yn cael chwarae teg ar deledu a radio Seisnig, ac ar draws y byd. Ein diwylliant sydd yn ein cynnal. Am gyfnod byr yn yr wythdegau, cyn mynd i fyd darlledu, bûm yn gweithio yn y Bwrdd Dŵr - a phan adewais, fe wnaeth fy mhennaeth roi anrheg i fi. Dim ond llun plaen gyda geiriau arno - “OS WYT TI’N GWYBOD O BLE RWYT TI’N DOD - DOES DIM DIWEDD I BLE ALLI DI FYND.” Geiriau doeth rwy’n eu cadw yn agos at fy nghalon hyd heddiw.
Ond gwyddoniaeth ydy fy mhrif ddiddordeb i. Ac mae yna gelfyddyd mewn gwyddoniaeth hefyd. Fy mhrosiect diweddaraf yw cynhyrchu ffilm am CERN - yr arbrawf ffiseg mwyaf yn y byd, sydd yn dathlu penblwydd yn 70 eleni. Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiad agos iawn â CERN reit o’r dechrau. Eifionydd Jones o’r adran ffiseg oedd y cyntaf i fynd yno - a gweithio ar brosiect a enillodd wobr Nobel. Gwaetha’r modd bu farw yn ifanc. Cyn bo hir wedyn fe aeth Lyn Evans allan yno - a fe oedd y gwyddonydd a wnaeth gynllunio y Large Hadron Collider - yr LHC. Yn fwy diweddar aeth Rhodri Jones yno - a fe, erbyn hyn, yw Pennaeth y Pelydrau. Mae Lyn a Rhodri yn Gymrodorion Prifysgol Abertawe. Ond yr hyn rwy’n ei garu am CERN yw nid y gwyddoniaeth ddisglair sydd yn digwydd yno - er bod honno yn ardderchog - ond y ffordd y mae gwyddonwyr o wledydd ar draws y byd, o bob diwylliant dan haul, yn cydweithio yn hapus ac yn rhannu eu canlyniadau.
25
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online