SAIL Magazine 2024 [Welsh]

NIA PARRY BA SBAENEG A’R GYMRAEG, DOSBARTH 1996. DARLLEDWR

yn actor ac yn ysgrifennwr, a chafodd ddoethuriaeth er anrhydedd yn Abertawe yn 2023. Yn ddiweddar mae wedi sefydlu Day Fever, cyfres o ddigwyddiadau clybio yn ystod y dydd sy’n apelio at bobl o oedran arbennig. Canfu ymchwiliad gan y BBC fod mwy na hanner o holl glybiau’r DU wedi cau rhwng 2005 a 2015 ac mae Jonny am ddangos bod rhai pobl eisiau dawnsio a chael hwyl o hyd, ond ychydig yn gynharach nag yn y gorffennol. Meddai: “I mi nawr, rwy’n hoffi mynd allan drwy’r dydd - a meddyliais i fod gwir farchnad i bobl sy’n teimlo’r un peth”. RENEE GODFREY BA ANTHROPOLEG, DOSBARTH 2003. SEFYDLWR FREEBORNE MEDIA Croniclydd diwylliant: Yn ogystal â bod yn lle i Renee fireinio ei sgiliau syrffio penigamp, Prifysgol Abertawe oedd lleoliad ffilm anthropolegol gyntaf Renee. Bellach yn sefydlwr Freeborne Media, mewn partneriaeth â James Honeyborne, crëwr Blue Planet, mae Renee’n parhau i greu ffilmiau sy’n rhannu negeseuon pwysig ar draws y blaned. Meddai: “Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i rai o fannau mwyaf anghysbell y byd a threulio amser yn ffilmio ac yn adrodd straeon. Roedd effaith ‘Blue Planet 2’ mor bwerus a phellgyrhaeddol, mae ei heffaith

yn parhau hyd heddiw gyda’n hymwybyddiaeth o blastigion ac iechyd ein cefnforoedd. Mae Freeborne bellach mewn partneriaeth greadigol â Netflix, a chyda’n gilydd, rydym yn bwriadu parhau i adrodd straeon pwerus mewn ffordd gyfareddol”. JAMIE TAGG BA GWLEIDYDDIAETH A HANES, DOSBARTH 2009. PERCHENNOG A RHEOLWR GYFARWYDDWR EAST CREATIVE Newidiwr diwylliant: Mae busnes Jamie’n arbenigo mewn digwyddiadau ar gyfer pobl LHDTC+, gan gynnwys Mighty Hoopla, gŵyl cerddoriaeth bop yn Llundain sy’n croesawu 25,000 o bobl bob haf. Meddai: “Gall eiliadau euraid newid barn a safbwyntiau’n llwyr er gwell; mae’n anhygoel meddwl heblaw am lond llaw o godau post yn y DU, os bydd dau berson o’r un rhyw yn dal dwylo’n gyhoeddus, edrychir ar hynny fel herfeiddiwch. Mae Hoopla’n cynnig llwyfan i artistiaid a pherfformwyr LHDTC+ sy’n dod i’r amlwg a rhai sefydledig, yn ogystal â chynnig digwyddiad diogel a chroesawgar i gynulleidfaoedd ac ymwelwyr amrywiol”.

Ceidwad diwylliant: Roedd gwaith Nia ar cariad@iaith ar S4C, sef cyfres teledu realiti lle mae aelodau’r cyhoedd, ac yn ddiweddarach, bobl enwog, yn ceisio dysgu Cymraeg, yn swydd berffaith iddi gan gyfuno popeth yr oedd hi’n ei garu - addysgu iaith i bobl, cyflwyno a chynhyrchu. Meddai: “Mae pob math o her yn wynebu’r Gymraeg heddiw... Mae angen cynllunio iaith, mae angen i ni barhau â’r holl waith gwych a wneir ledled Cymru. Yn y pendraw, pobl angerddol a brwdfrydig gydag egni a chadernid ac argyhoeddiad yw’r rhai sy’n meddu ar y gallu i newid pethau”. JONNY OWEN BA HANES, DOSBARTH 1999. CYNHYRCHYDD, ACTOR A GWNEUTHURWR FFILMIAU A SEFYDLWR DAY FEVER

Darllenwch y proffiliau llawn yma swan.ac/fhssprofiles-cy

Newidiwr diwylliant: Ganed Jonny Owen ym Merthyr ac mae’n gynhyrchydd sydd wedi ennill Gwobr BAFTA Cymru,

27

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online